Mae wedi dod i'n sylw heddiw bod y Comisiwn Etholiadol wedi bod yn destun ymosodiad seiber cymhleth.

Hysbysiad Cyhoeddus

Fel rhan o’r ymosodiad, roedd gweithredwyr gelyniaethol wedi gallu cyrchu copïau cyfeirio o’r cofrestrau etholiadol, a ddelir gan y Comisiwn at ddibenion ymchwil ac er mwyn galluogi gwiriadau caniatâd ar roddion gwleidyddol. Mae’r cofrestrau a ddaliwyd yn ystod yr ymosodiad seiber yn cynnwys enw a chyfeiriad unrhyw un yn y DU a gofrestrodd i bleidleisio rhwng 2014 a 2022, yn ogystal ag enwau y rheiny a gofrestrodd fel pleidleiswyr tramor. Nid oedd y cofrestrau’n cynnwys manylion y rheiny a oedd wedi’u cofrestru’n ddienw. Roedd system e-byst y Comisiwn hefyd yn hygyrch yn ystod yr ymosodiad.

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi dogfen Cwestiynau Cyffredin i ateb rhai o’ch pryderon. Gall aelodau o’r cyhoedd ac etholwyr hefyd gysylltu â’r Comisiwn yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’r ffurflen we hon a dewis y teitl ‘Ymosodiad seiber’. (Dolen ar gael yn Saesneg yn unig).

Hoffwn roi sicrwydd i aelodau'r cyhoedd bod y digwyddiad hwn yn gwbl allanol i Gyngor Sir Ceredigion a nid yw ein systemau ni wedi eu heffeithio.