Gwobr Creu Dyfodol Lleol
Gwobr sy’n adlewyrchu y posibilrwydd o yrfa a ddyfodol disglair yn Ngheredigion.
Mae'r wobr hon yn agored i bob busnes neu sefydliad sydd wedi cryfhau hunaniaeth ein cymunedau yng Ngheredigion.
Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:
- Cadw cyfoeth yn y Sir (e.e. trwy feysydd fel cynhyrchu ac arbed ynni, cadwyni cyflenwi yn y sectorau sylfaenol)
- Creu cyfleoedd i bobl a theuluoedd aros yn eu cymunedau brodorol neu ddychwelyd iddynt
- Creu neu wella cyfleoedd cyflogaeth modern (e.e. ym meysydd y cyfryngau, y byd digidol, ymchwil, gwasanaethau proffesiynol)
- Sicrhau darpariaeth gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
- Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd
- Cefnogi ac annog gweithwyr i ddysgu Cymraeg
- Cefnogi'r Gymraeg mewn ffyrdd eraill
Cwestiynau ar gyfer y ffurflen enwebu:
- Rhowch ddisgrifiad byr o'ch busnes/menter
- Dyddiad cychwyn masnachu (os yn berthnasol)
- Pa gefnogaeth ydych chi wedi'i darparu i alluogi pobl ifanc a theuluoedd i aros neu ddychwelyd i'w cymunedau?
- Pa gamau ydych chi wedi'u cymryd i gynyddu a chadw cyfoeth lleol yn eich ardal?
- Sut mae eich busnes yn cefnogi defnydd ac amlygrwydd yr iaith Gymraeg?
- Unrhyw sylwadau eraill i gefnogi eich cais?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at gwobrauceredigion@technegol.co.uk.
Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.