Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwobr Bwyd-Amaeth

Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau sy'n cynhyrchu bwyd ac sy'n gweithredu yn y sector bwyd neu amaethyddiaeth yng Ngheredigion. Dylai ymgeiswyr allu dangos sut mae eu busnes wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at yr economi leol a/neu at y gymuned.

Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Wedi tyfu’r busnes yn ddiweddar
  • Dod â chynnyrch newydd i'r farchnad yn llwyddiannus
  • Cael effaith gadarnhaol ehangach
  • Dangos arferion ffermio adfywiol sydd wedi cael effaith gadarnhaol
  • Yn meddu ar ymrwymiad clir i ymchwil a datblygu, arloesi a photensial twf yn y dyfodol
  • Wedi dod yn fwy effeithlon

Cwestiynau ar gyfer y ffurflen enwebu:

  1. Rhowch ddisgrifiad byr i ni o'ch busnes/gwasanaeth?
  2. Dyddiad cychwyn masnachu
  3. Beth mae’r busnes wedi’i gyflawni’n ddiweddar i’w wneud yn addas ar gyfer y wobr?
  4. Pa effaith mae eich busnes wedi’i chael ar yr economi ehangach?
  5. Unrhyw sylwadau eraill i ategu eich cais?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at gwobrauceredigion@technegol.co.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Ffurflen gais Gwobr Bwyd-Amaeth