Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion

Nôd y wobr hon yw cydnabod unigolion ifanc mewn busnes sydd wedi mynd gam ymhellach i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol drwy fusnes.

Bydd y catergori yma yn derbyn enwebiadau.

Mae'r beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Dangos gallu i ysbrydoli a thanio brwdfrydedd eraill
  • Dangos arweinyddiaeth
  • Codi arian at achos da
  • Mynd ati i wirfoddoli
  • Cyfrannu'n ddiflino i'r gymuned
  • Cael effaith ar ysbryd cymunedol

Cwestiynau ar gyfer y ffurflen enwebu:

  1. Pwy ydych eisiau enwebu a rhowch ddisgrifiad byr o'r hyn sydd wedi’i gyflawni?
  2. Dyddiad cychwyn masnachu (os yw'n berthnasol)
  3. Beth sydd wedi ysbrydoli’r unigolyn?
  4. Pa effaith mae’r gwaith wedi’i gael ar y gymuned?
  5. Unrhyw sylwadau eraill i ategu’r cais?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at gwobrauceredigion@technegol.co.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Ffurflen gais Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion