Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwobrau Caru Ceredigion 2026

Gwobrau Caru Ceredigion 10 Rhagfyr 2026

Mae Gwobrau Caru Ceredigion 2026 yn ddathliad o’r goreuon o blith ein cymunedau a’n busnesau.

Bydd Gwobrau Caru Ceredigion 2026, a gynhelir ar y 10fed o Ragfyr yng Ngwesty’r Plu, Aberaeron yn cydnabod cyfraniadau a chyflawniadau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion ar draws y sir.

Mae ceisiadau ar gyfer y gwobrau ar agor.

A hithau’n un o ardaloedd mwyaf prydferth ac unigryw’r wlad, mae gwaith gwych yn digwydd yng Ngheredigion ar hyn o bryd, a dylid dathlu hyn. Edrychwn ymlaen at gydnabod gwaith arloesol, blaengar ac ysbrydoledig ein trigolion a’n busnesau, wrth helpu i hybu ysbryd o gydweithio a balchder cymunedol.

Pob lwc!

Sut i wneud cais

Mae categorïau’r gwobrau wedi’u rhestru isod, ynghyd â disgrifiad byr. Cliciwch ar y dolenni unigol i gael rhagor o wybodaeth am y categori, yn ogystal â ffurflen gais y wobr. Gellir cyflwyno ceisiadau papur hefyd, e-bostiwch gwobrauceredigion@technegol.co.uk am ragor o wybodaeth am hyn.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, Dydd Gwener 16eg o Hydref, 2026.

I fod yn gymwys ar gyfer unrhyw gategori, rhaid i gymunedau a busnesau fod yn gweithredu neu fod â lleoliad corfforol yng Ngheredigion, gydag unrhyw weithgareddau perthnasol sy’n rhan o'ch cais wedi'u cynnal rhwng 1af o Dachwedd 2025 tan 1af o Rhagfyr 2026.

Meini Prawf y Barnwyr

Meini Prawf y Barnwyr

Meini Prawf y Beirniaid
Newyddion Gwobrau Caru Ceredigion

Newyddion Gwobrau Caru Ceredigion

Newyddion Gwobrau Caru Ceredigion
Gwobr Mudiad Cymunedol

Gwobr Mudiad Cymunedol

Mae'r wobr hon yn agored i unrhyw grŵp cymunedol yng Ngheredigion fel grwpiau ieuenctid, Cynghorau Cymuned, clybiau chwaraeon, pwyllgorau neuaddau pentref, a grwpiau diddordeb sydd wedi gwneud gwahaniaeth trwy fod yn arloesol ac sydd wedi cael effaith trwy wneud pethau'n wahanol.

Gwobr Mudiad Cymunedol
Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion

Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion

Nôd y wobr hon yw cydnabod unigolion ifanc mewn busnes sydd wedi mynd gam ymhellach i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol drwy fusnes.

Gwobr Ysbrydoliaeth Caru Ceredigion
Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn

Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn

Mae’r wobr hon yn agored i sefydliadau/busnesau/unigolion sydd wedi trefnu digwyddiad yng Ngheredigion yn 2026 sydd wedi cael effaith ehangach ar y sir, drwy ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal, cael effaith economaidd gadarnhaol a chodi proffil Ceredigion.

Gwobr Digwyddiad y Flwyddyn
Gwobr Entrepreneur Ifanc

Gwobr Entrepreneur Ifanc

Nôd y wobr hon yw cydnabod unigolion ifanc sydd wedi dangos yr awydd i lwyddo gyda’u syniadau eu hunain ac wedi meddu ar yr uchelgais i droi’r syniadau hynny’n fusnes llwyddiannus. Mae'r wobr hon yn agored i unigolion 30 oed ac iau.

Gwobr Entrepreneur Ifanc
Gwobr Creu Dyfodol Lleol

Gwobr Creu Dyfodol Lleol

Gwobr sy’n adlewyrchu y posibilrwydd o yrfa a ddyfodol disglair yn Ngheredigion.

Gwobr Creu Dyfodol Lleol
Gwobr Darganfod Ceredigion

Gwobr Darganfod Ceredigion

Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau Ceredigion yn y sector twristiaeth a lletygarwch sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth hybu'r diwydiant twristiaeth yn y Sir. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad eithriadol i ddarparu profiad rhagorol i ymwelwyr, twristiaid neu deithwyr busnes.

Gwobr Darganfod Ceredigion
Gwobr Bwyd-Amaeth

Gwobr Bwyd-Amaeth

Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau sy'n cynhyrchu bwyd ac sy'n gweithredu yn y sector bwyd neu amaethyddiaeth yng Ngheredigion. Dylai ymgeiswyr allu dangos sut mae eu busnes wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at yr economi leol a/neu at y gymuned.

Gwobr Bwyd Amaeth
Gwobr Llwybr Llwyddiant

Gwobr Llwybr Llwyddiant

Cyflwynir y wobr hon i unigolyn sy’n dilyn prentisiaeth neu’n sy’n dilyn rhaglen o hyfforddiant gyda busnes neu sefydliad  sy’n gweithredu yng Ngheredigion ac sydd wedi bod yn rhagorol ym mhob agwedd ar ei hyfforddiant. Gall hefyd gael ei gyflwyno i gwmni, gyflogwr neu sefydliad sydd yn cynnig rhaglen o hyfforddiant rhagorol neu sy’n darparu cefnogaeth i ddatblygu yn broffesiynol mewn maes neu ddiwydiant benodol.

Gwobr Llwybr Llwyddiant
Gwobr Arloesedd a Thechnoleg

Gwobr Arloesedd a Thechnoleg

Mae'r wobr hon yn un newydd sbon sy’n cydnabod busnesau yng Ngheredigion sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn arloesedd a'r defnydd creadigol o dechnoleg neu meddalwedd i ddatblygu eu busnes, eu cynnyrch, eu gwasanaethau neu eu prosesau gwaith.

Gwobr Arloesedd a Thechnoleg
Gwobr Manwerthu

Gwobr Manwerthu

Mae'r wobr hon yn agored i fusnesau manwerthu yng Ngheredigion sy'n dangos effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, yr economi leol a/neu'r gymuned.

Gwobr Manwerthu
Gwobr Ceredigion a Thu Hwnt

Gwobr Ceredigion a Thu Hwnt

Mae’r wobr hon yn cydnabod busnesau neu fentrau Ceredigion sydd wedi helpu i roi Ceredigion ar y map, ac sydd wedi helpu i godi proffil y sir y tu allan i Gymru.

Gwobr Ceredigion a Thu Hwnt
Gwobr Caru Ceredigion 2026

Gwobr Caru Ceredigion 2026

Uchafbwynt y seremoni fydd cyflwyno prif wobr Gwobrau Caru Ceredigion 2026 i'r enillydd cyffredinol o blith y categorïau amrywiol.

Gwobr Caru Ceredigion