Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwobr Arloesedd a Thechnoleg

Mae'r wobr hon yn un newydd sbon sy’n cydnabod busnesau yng Ngheredigion sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn arloesedd a'r defnydd creadigol o dechnoleg neu meddalwedd i ddatblygu eu busnes, eu cynnyrch, eu gwasanaethau neu eu prosesau gwaith.

Bydd y beirniaid yn chwilio am fusnesau sydd wedi mabwysiadu dulliau newydd o weithio, wedi datblygu cynhyrchion neu wasanaethau arloesol, neu wedi defnyddio technoleg i wella effeithlonrwydd, cynaliadwyedd, profiad cwsmeriaid neu dwf y busnes.

Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth eich bod wedi:

  • Datblygu cynnyrch, gwasanaeth neu broses newydd ac arloesol
  • Defnyddio technoleg i wella effeithlonrwydd, cynhyrchiant neu brofiad cwsmeriaid
  • Buddsoddi mewn ymchwil, datblygu neu drawsnewid digidol
  • Dangos creadigrwydd wrth ddatrys heriau busnes neu ddiwydiannol
  • Sicrhau twf neu effaith fesuradwy o ganlyniad i'r arloesedd
  • Cyfrannu at gryfhau economi Ceredigion drwy ddatblygu sgiliau, swyddi neu gyfleoedd newydd

Cwestiynau ar gyfer y ffurflen enwebu

  1. Rhowch ddisgrifiad byr o'ch busnes neu fenter, gan gynnwys eich gweledigaeth a'ch strategaeth
  2. Beth yw dyddiad cychwyn masnachu eich busnes?
  3. Disgrifiwch yr arloesedd, y dechnoleg neu'r datblygiad newydd sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar eich busnes
  4. Pa fanteision mesuradwy y mae'r arloesedd neu'r defnydd o dechnoleg wedi'u darparu i'ch busnes, eich cwsmeriaid neu'ch sector?
  5. Sut mae eich busnes yn cyfrannu at ddatblygu economi, sgiliau neu gyfleoedd yng Ngheredigion?
  6. Unrhyw sylwadau neu dystiolaeth ychwanegol i ategu eich cais?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chystadlu yn y categori hwn, anfonwch e-bost at: gwobrauceredigion@technegol.co.uk.

Argymhellir eich bod yn creu ac yn cadw eich cais mewn dogfen ar wahân cyn copïo a gludo'ch ceisiadau i'r ffurflen gais isod. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi o ran golygu eich cais a sicrhau nad oes dim yn cael ei golli cyn ei gyflwyno.

Ffurflen cais Gwobr Arloesedd a Thechnoleg