Mae ffyrdd sydd wedi eu goleuo’n dda yn cynorthwyo â lleihau nifer y damweiniau traffig a throseddau gan hefyd lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gyfrifol am reoli a chynnal nifer o’r goleuadau stryd yma yng Ngheredigion. Fodd bynnag dylech nodi nad yw pob un o’r goleuadau stryd yn y Sir yn gyfrifoldeb y Cyngor:

  • Mae golau ar dir preifat yn aml yn gyfrifoldeb ar y perchennog tir
  • Mae’r A487 a’r A44 yn rhan o Asedau Cefnffordd Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy’n gyfrifol am eu cynnal a’u cadw. Os hoffech chi gofnodi nam ar oleuadau ar y Cefnffyrdd ffoniwch 0300 123 1213

Ewch i'r dudalen Goleuadau Traffig Dros Dro am ragor o wybodaeth.

Cofnodi nam neu broblem:

Cyn cofnodi nam neu broblem, sicrhewch fod gennych Rif Uned perthnasol yr Ased er mwyn gallu llenwi’r ffurflen, fel arall ffoniwch 01545 572572.

Mewn argyfwng dylech ffonio 01545 572572, neu os bydd argyfwng y tu allan i oriau swyddfa yng ngogledd y Sir ffoniwch 01970 625277 neu os bydd problem yn ne’r Sir ffoniwch 01239 851604.