Diogelwch Gyrwyr ar y Ffyrdd

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymrwymedig i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â gyrru'n ddiogel yng Ngheredigion. Bydd y dudalen yma'n darparu cyngor ar yrru'n ddiogel yn ogystal â gwybodaeth ar gynlluniau a mentrau hyfforddi a drefnwyd gan yr Adain Diogelwch y Ffyrdd.

Gall gyrwyr wella eu diogelwch ar ffyrdd Ceredigion drwy ddilyn nifer o gamau syml:

  • Dylech yrru ar gyflymder synhwyrol gan gadw at y terfynau cyflymder, neu dylid gyrru'n ar gyflymder is os bydd angen cymryd gofal ychwanegol o fewn y sefyllfa
  • Dylech sicrhau bod eich car wedi ei gynnal a'i gadw'n dda. Dylech wirio eich injan, teiars a brêcs yn rheolaidd
  • Peidiwch â chymryd cyffuriau ac alcohol. Gall cyffuriau, hyd yn oed meddyginiaeth gyfreithiol, ac alcohol gael effaith andwyol difrifol ar eich gallu i yrru, a all arwain at ddirwy, amser yn y carchar neu waeth
  • Peidiwch ag ateb y ffôn. Bydd defnyddio ffôn symudol heb ddefnyddio offer heb ddwylo wrth yrru yn anghyfreithiol. Dylech dynnu mewn a diffodd yr injan, neu anwybyddu'r alwad. Gall defnyddio ffôn symudol heb ddefnyddio offer heb ddwylo wrth yrru golygu y bydd gennych 6 phwynt ar eich trwydded a dirwy o £200
  • Gwnewch yn siŵr fod pawb yn y car yn gwisgo gwregys
  • Cymrwch ofal mewn amodau gwael - glaw, eira ac iâ
  • Byddwch yn ofalus o ddefnyddwyr y ffordd sydd angen gofal ychwanegol – ceffylau, seiclwyr, beiciau modur a cherddwyr

Drwy ddilyn y cyngor yma mi all gyrwyr fod o gymorth wrth gadw ein ffyrdd yn ddiogel.

Bydd Adain Diogelwch y Ffyrdd y Cyngor yn trefnu ymgyrchoedd/ cynlluniau a fydd yn tynnu eich sylw at bwysigrwydd diogelwch 'Yn y car'; ac mae ganddynt swyddogion cymwysedig wrth law i gynghori rhieni/ gwarcheidwaid ac awgrymu ffyrdd o wella diogelwch eu plant yn y car. Bydd yn rhaid i bob sedd car gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth newydd (ers mis Medi 2006).

Beth yw'r gyfraith newydd?

Bydd yn rhaid i blant dan 3 oed ddefnyddio'r gwregysau priodol ar gyfer eu pwysau ym mhob cerbyd (gan gynnwys faniau a cherbydau nwyddau eraill).

NI DDYLID defnyddio seddau babanod sy'n wynebu'r cefn mewn sedd flaen sydd â bag aer oni bai ei fod wedi ei ddiffodd yn faniwal neu'n awtomatig.

Mewn cerbydau lle y mae gwregysau ar gael bydd YN RHAID i blant o dan 3 oed sydd hyd at 135cm o uchder (oddeutu 4 troedfedd 5 modfedd) ddefnyddio'r dull priodol i'w cadw yn y car.

Mae tri eithriad sy'n galluogi'r plant yma i deithio yng nghefn y car a defnyddio gwregys oedolyn:

  • Mewn tacsi, os nad yw'r gwregys priodol ar gael
  • Am bellter byr mewn sefyllfa annisgwyl, os nad yw'r gwregys priodol ar gael.
  • Pan fydd dwy sedd plentyn yn y cefn yn golygu nad yw'n bosib ffitio i mewn trydedd sedd car

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau o ran 'Diogelwch yn y car' neu'r gyfraith newydd ar seddau car i blant dewch i un o'n hymgyrchoedd/ cynlluniau neu ffoniwch yr Adain Diogelwch y Ffyrdd ar - 01545 572409

Mae'r canlynol yn rhai o'r cynlluniau a mentrau hyfforddi y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn trefnu ar gyfer gyrwyr o bob oed:

Chwyldro

Mae Chwyldro yn ymyrraeth rymus sy’n debygol o gael effaith barhaol ar y bobl ifanc sy’n bresennol. Ymyrraeth un diwrnod ynghylch Diogelwch y Ffyrdd yw Chwyldro a ddarperir gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ochr yn ochr â thîm diogelwch y ffyrdd Cyngor Sir Ceredigion. Mae’r cwrs yn ddigwyddiad diwrnod cyfan ar gyfer uchafswm o 12 cyfranogwr sydd rhwng 15 a 25 oed, a chaiff ei gynnal mewn gorsaf dân leol.

Megadrive

Mae hwn yn gynllun blynyddol a drefnir ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau o fewn ysgolion uwchradd lleol, colegau a grwpiau lleol eraill. Bydd y bobl ifanc yn derbyn diwrnod o hyfforddiant mewn crefft ffordd (gan gynnwys cyflwyniadau oddi wrth y gwasanaethau brys, adran diogelwch y ffyrdd a nifer o asiantaethau eraill) bydd hefyd cyfle ar gyfer sylwi ar beryglon, yfed a gyrru a chymryd cyffuriau, yn ogystal â materion iechyd all effeithio ar eich gyrru a bydd cyfle i yrru mewn amgylchedd a reolwyd gyda hyfforddwr cymwys.

Hyfforddiant ar Efelychydd Cyn dechrau Gyrru

Bydd yr Efelychydd cyn dechrau gyrru yn cynorthwyo'r Swyddog Diogelwch y Ffyrdd i esbonio peryglon cyffredin wrth yrru gan gynnwys creu senarios a chael sgiliau hanfodol mewn modd fydd o ddiddordeb i'w gynulleidfa. Bydd gyrwyr newydd neu yrwyr nad ydynt wedi dechrau gyrru eto yn medru ymarfer trin car mewn sefyllfaoedd o argyfwng, achosion pan fydd y cerbyd wedi torri lawr neu wrth ymgymryd â symudiadau penodol.

Gall gyrwyr newydd neu yrwyr nad ydynt wedi dechrau gyrru defnyddio'r efelychydd er mwyn ennill sgiliau gyrru hanfodol e.e. rheoli'r cydiwr a chael hyder wrth wynebu senarios gyrru gwahanol. Caiff yr efelychydd ei gynnig i holl ysgolion uwchradd yng Ngheredigion, Coleg Ceredigion a Chanolfannau Dysgu.

Bydd meddalwedd rhaglenni'r efelychydd yn cynnwys:-

  • Senarios brecio mewn argyfwng
  • Rheol dwy eiliad
  • Senarios gyrru yn y dref a'r wlad
  • Senarios gyrru pob tywydd
  • Sylwi ar beryglon
  • Senarios yfed a gyrru

Caiff yr Efelychydd Hyfforddiant Gyrru yma ei gynnig i bob disgybl blwyddyn 12 ym mhob Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion a bydd pob disgybl yn derbyn 30 munud o hyfforddiant a oruchwyliwyd.

Fforymau 50+

Mae Adain Diogelwch y Ffyrdd mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi datblygu menter diogelwch y ffyrdd sy'n mynd i'r afael yn benodol â phryderon yn ymwneud â gyrwyr hŷn. Anelir y cyflwyniad at yrwyr 50 oed a throsodd gan ganolbwyntio'n benodol ar y grŵp oed ymddeol.

Mae'r meysydd yma'n cynnwys:

  • Blinder a gorflinder gyrwyr
  • Golwg sy'n dirywio
  • Cynnydd yn y defnydd o gyffuriau penodedig
  • Effeithiau cyffredinol mynd yn hŷn
  • Materion Diogelwch y Ffyrdd Cyffredinol e.e. Yfed a gyrru / cyffuriau

Ymgyrch profi golwg

Dyma ymgyrchsy'n targedu gyrwyr 30 oed a throsodd ac y mae adain diogelwch y ffyrdd yn ymweld â safleoedd amrywiol drwy ddefnyddio'r trelar diogelwch y ffyrdd a phrofi golwg drwy ddefnyddio prawf sgrinio golwg gyrwyr.

Prif nod yr ymgyrch yw hyrwyddo pwysigrwydd profi llygaid yn rheolaidd gan sicrhau bod gyrwyr sy'n cymryd rhan yn y prawf gwirfoddol yn ymwybodol nad yw eu golwg o bosib cystal ag yr oeddent yn ei dybio neu ddim o'r safon ddisgwyliedig; disgwylir y bydd y gyrwyr hynny yn derbyn profion pellach a rheolaidd yn y dyfodol.

Cyfle i ddysgu mwy am dechnegau gyrru - awgrymiadau a syniadau am ond £20 (os ydych chi rhwng 17-25 ac yn byw yng Nghymru). Nid oes prawf!

Byddwch chi'n canolbwyntio ar:

  • Deithio ar y draffordd
  • Technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon
  • Teithio yn y nos
  • Delio â threfi a dinasoedd prysur
  • Gyrru ar ffyrdd gwledig
  • Meddwl ymlaen.

Beth yw'r manteision?

  • Gwell sgiliau gyrru
  • Cyfle gwell am yswiriant is
  • Llai o bosibilrwydd cael damwain neu niweidio eich hun, eich ffrindiau ac eraill.

Mae Pass Plus Cymru yn estyniad ar gwrs Pass Plus safonol a gefnogwyd gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru.

  • Mae'n gwrs byrrach o safon uwch wedi ei arwain gan arbenigwyr yn y maes. Caiff ei lunio i ddatblygu technegau gyrru, cynyddu ymwybyddiaeth ac ehangu profiad
  • Bydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru am ond £20 am fod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu'r gweddill drwy ddarparu arian i awdurdodau lleol.
  • Mae nifer o bobl ifanc yn rhan o ystadegau damweiniau ac y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda Diogelwch y Ffyrdd Cymru er mwyn annog gyrwyr ifanc i fod yn well gyrwyr gyda'r nod o leihau damweiniau ac achub bywydau.

Edrychwch ar www.dragondriver.com er mwyn bwcio cwrs.

Cynhelir cyrsiau yn Neuadd y Sir, Aberaeron ar y dydd Llun cyntaf o bob mis.

Diogelwch Plant ar y Ffyrdd

Mae diogelwch ar y ffyrdd yn sgil sy'n hanfodol i bob oedran, fodd bynnag mi all plant fod yn agored iawn i niwed ar ein ffyrdd. Yn aml iawn caiff diogelwch ar y ffyrdd ei ddysgu yn ein Hysgolion ac mi all hefyd gael ei ddysgu gan rieni gartref, drwy ddangos arfer dda pan fyddwch chi'n teithio gyda'ch plant. Mae'r dudalen hon yn nodi manylion y Cynlluniau a Mentrau Diogelwch Ffyrdd sy'n weithredol ar hyn o bryd yng Ngheredigion, yn ogystal â darparu cyngor i rieni a hoffai ddysgu arferion diogelwch ffyrdd da i'r plant a chysylltiadau i safleoedd allanol gyda mwy o wybodaeth a chyngor.

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu hyfforddiant i blant sy'n cerdded yng Nghymru drwy gynllun Kerbcraft mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol Cymru. Mae Kerbcraft yn gynllun a gynlluniwyd i ddysgu tri sgil cerddwyr i blant 5-7 oed (blwyddyn 1). Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddatblygu wrth adeiladu ar y camau blaenorol gan gamau newydd. Caiff plant eu dysgu drwy hyfforddiant ymarferol allan wrth ochr y ffordd yn hytrach nag yn yr ystafell ddosbarth.

Gwneir yr hyfforddiant gan wirfoddolwyr sy'n rhieni a gaiff eu recriwtio, ac mae hyn yn galluogi nifer fawr o blant i fanteisio ar y cynllun. Bydd y rhaglen hyfforddi yn canolbwyntio ar set o sgiliau cerddwyr penodol y mae'n hysbys bod diffyg y sgiliau yma yn gysylltiedig â risg. Mae hyfforddiant yn brosiect tymor hir wrth baratoi plant ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Kayleigh Tonkins, Swyddog Diogelwch Y Ffyrdd - 01545 572053, neu anfon ebost i technical.services@ceredigion.gov.uk

Gallwch ddysgu am ddiogelwch y ffyrdd gartref a phan fyddwch chi allan gyda'ch plant, ac nid ond yn yr ysgol. Gall y syniadau canlynol fod o gymorth wrth ddysgu eich plentyn sut i gadw'n ddiogel ar ein ffyrdd:

  • Esboniwch ddiogelwch y ffyrdd i'ch plentyn a'u hannog i ofyn cwestiynau i chi os nad ydynt yn deall rhywbeth
  • Dysgwch Reolau'r Groes Werdd iddynt
  • Ar gyfer plant hyn gallwch eu cynorthwyo wrth gynllunio ffyrdd diogel i'r ysgol sydd ar gael iddynt
  • Gwisgwch ddillad llachar, adlewyrchol neu fflwroleuol pan fyddwch allan ac esboniwch y gwneir hyn fel y gall gyrwyr eich gweld
  • Gosod esiampl dda – peidiwch â chymryd risg pan fyddwch chi allan
  • Peidiwch â defnyddio ffôn symudol na gwrando ar gerddoriaeth pan fyddwch chi'n croesi'r ffordd
  • Cofiwch bob amser i groesi'r ffordd ar y pwynt mwyaf diogel, yn ddelfrydol wrth groesfan cerddwyr os oes un ar gael

Diogelwch Cerddwyr a Beicwyr ar y Ffyrdd

Cerdded a seiclo yw'r ddau ddull iachaf o deithio o amgylch Ceredigion, os ydych chi'n teithio i'r gwaith, ysgol, y siopau neu'n hamddena. Fodd bynnag bydd cerddwyr a seiclwyr yn agored i niwed ar y ffyrdd. Bydd y dudalen yma'n rhoi cyngor a gwybodaeth ar sut i gadw'n ddiogel.

Diogelwch Cerddwyr

Mae nifer o gamau syml y gall cerddwyr eu cymryd er mwyn cadw'n ddiogel ar ffyrdd Ceredigion:

  • Gwisgwch ddillad llachar. Bydd gwisgo dillad tywyll yn ei gwneud hy'n anodd i yrwyr sylwi arnoch yn enwedig yn ystod y nos
  • Dylech bob amser gerdded ar y pafin lle bynnag y bo hynny'n bosib. Os bydd yn rhaid i chi gerdded ar y ffyrdd, dylech gerdded fesul un a chadw yn agos i ochr dde'r ffordd ac wynebu traffig sy'n dod i gwrdd â chi
  • Pan fyddwch chi'n croesi'r ffordd, dylech chi sicrhau eich bod yn edrych i'r ddwy ochr a sylwi ar draffig. Peidiwch â chroesi'r ffordd tra byddwch chi ar y ffôn, neu'n gwrando ar gerddoriaeth
  • Croeswch y ffordd mewn lle diogel. Defnyddiwch groesfannau Pelican, Sebra neu Toucan lle bynnag y bo hynny'n bosib. Ni ddylech groesi rhwng cerbydau sydd wedi parcio os ellir osgoi hynny
  • Dylech chi sicrhau eich bod yn dilyn y cyngor a roddir yn 'Rheolau'r Ffordd Fawr ' a Rheolau'r Groes Werdd.

Diogelwch Seiclwyr

Mae nifer o ddulliau i wella diogelwch seiclwyr ar ffyrdd Ceredigion. Bydd Rheolau 59-82 o Reolau'r Ffordd Fawr yn nodi nifer o ffyrdd y gall seiclwyr, ac yn wir mewn rhai achosion , y bydd yn rhaid i seiclwyr gymryd er mwyn gwella eu diogelwch hwy eu hunain a diogelwch ffyrdd eraill. Mae'r rhain yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i:

  • Sicrhau bod eich beic yn cynnwys golau gwyn ar y tu blaen a golau coch ar y cefn gan sicrhau eu bod ymlaen yn ystod y nos
  • Sicrhau bod ar eich beic adlewyrchydd coch ar y cefn ac adlewyrchyddion melyn ar y pedalau
  • Dylech seiclo ar y ffordd yn hytrach na'r pafin. Bydd seiclo ar y pafin yn drosedd
  • Dylech gymryd gofal wrth droi, seiclo ar y lonydd bysiau, seiclo heibio traffig ar bwys traffig
  • Cadw eich dwy law ar fariau'r beic ond bai eich bod yn arwyddo i eraill neu'n newid gêr

Dylai seiclwyr sicrhau bod ganddynt y wisg gywir ar gyfer seiclo. Dylai helmedau ffitio'n ddiogel ac yn gyfforddus, ac ni ddylai dillad fod mor llac fel y gallant fynd yn sownd yng nghadwyn neu olwynion y beic, gan fod yn ddillad llachar neu adlewyrchol, fel y gall gyrwyr eich gweld yn y nos.

Bydd cynnal a chadw eich beic yn briodol yn rhan annatod o ddiogelwch seiclo. Cyn dechrau ar eich taith mi ddylech wirio:

  • Bod eich sedd ar yr uchder cywir. Pan fyddwch chi wedi aros mi ddylech fod yn medru sefyll yn gyfforddus uwchben y ffrâm gyda'ch dwy droed ar y ddaear
  • Bod eich brêcs yn gweithio'n gywir, gan sicrhau nad yw'r cebl wedi treulio
  • Bod y ddwy deiar yn llawn aer heb unrhyw dyllau
  • Bod eich cadwyn arno'n gywir ac nid yw'n dal yn y pedalau. Dylech sicrhau bod olew priodol ar eich cadwyn a'i bod yn rhydd o rwd

Os ydych chi'n poeni ynglŷn â chynnal a chadw eich beic, ewch i'ch siop beiciau lleol am gyngor. Byddwch chi hefyd yn medru derbyn gwersi ar gynnal a chadw beiciau os byddwch chi'n mynychu Hyfforddiant Seiclo.

Am fwy o wybodaeth ewch i Reolau'r Ffordd Fawr ar gyfer Seiclwyr.

Er gwybodaeth ac er mwyn helpu pobl o bob oedran i fynd ar eu beic a dechrau seiclo, gyda chanllawiau ar gynnal a chadw beiciau a diogelwch, darllenwch y cylchgrawn 'Seiclwch Ceredigion'. Mae'r cylchgrawn yn cynnwys map o Lwybr Ystwyth – sydd yn daith 21 milltir (34km) aml bwrpas ac sydd yn cysylltu ag Aberystwyth, Llanfarian, Ystrad Meurig a Thregaron gyda llawer o rannau heb fod ar y ffordd, seiclo sydd yn gyfeillgar i deuluoedd.

Hyfforddiant Seiclo

Bydd hyfforddiant seiclo yn gyfle defnyddiol i blant ac oedolion nad ydynt wedi seiclo ers tipyn, fel y gellir gwella dealltwriaeth seiclo a diogelwch seiclo.

Bydd Hyfforddiant Seiclo'n ddiogel ar gyfer oedolion yn gynllun hyfforddiant tair rhan fel y gellir dysgu unigolion sut i seiclo'n ddiogel ac yn hyderus ar y ffordd gyda pharch i ddefnyddwyr ffyrdd eraill. Nodir isod y tair lefel wahanol:

Lefel 1 – hyfforddiant mewn amgylchedd a reolwyd heb fod ar y ffordd na mewn traffig. Bydd hyn yn cynnig sgiliau seiclo sylfaenol gan gynnwys dechrau, stopio, symud, arwyddo a defnyddio gêr.

Lefel 2 – Hyfforddiant ar y ffyrdd ar gyfer y rheiny wnaeth gwblhau Lefel 1 ac sy'n barod i symud ymlaen; bydd yma brofiad real o seiclo gan sicrhau bod hyfforddai yn teimlo'n ddiogel ac yn medru delio â thraffig ar siwrneiau byr neu ar gyfer teithiau hamdden byr.

Lefel 3 – datblygu sgiliau sylfaenol a hyfforddi seiclwyr i ddelio â siwrneiau mewn amrywiaeth o amodau traffig gan wneud hynny'n gymwys, yn hyderus ac yn gyson. Bydd Seiclwyr sy'n cyrraedd Lefel 3 yn medru delio â phob math o amodau ffyrdd a sefyllfaoedd mwy cymhleth. Bydd y cwrs yn cynnwys delio â pheryglon, gan wneud asesiadau risg 'wrth deithio' a chynlluniau teithiau ar gyfer seiclo diogel.

Cynllun Seiclo Diogel

Nod y Cynllun Seiclo Diogel fydd:

  • Lleihau nifer y plant sy'n seiclo sy'n cael eu niweidio yng Ngheredigion bob blwyddyn
  • Creu ymwybyddiaeth o'r angen a'r pwysigrwydd o hyfforddiant / addysg seiclo
  • Datblygu sgiliau arsylwi a symud
  • Annog defnydd o ddillad a hetiau diogelu
  • Paratoi seiclwyr ifanc ar gyfer hyfforddiant ar y ffordd
  • Amlygu i rieni pwysigrwydd hyfforddiant seiclo

Bob blwyddyn yng Ngheredigion bydd mwy na 600 o blant ysgolion cynradd yn cymryd rhan yn y Cynllun Seiclo Diogel. Bydd y rheiny ar y cwrs yn cael eu cyflwyno i Reolau'r Ffordd Fawr ar gyfer defnyddwyr ifanc y ffordd; gan ddysgu am gynnal a chadw eich beic, bod yn amlwg ar y ffordd a gwisgo het i'ch gwarchod. Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch dylech gysylltu â'r Adain Diogelwch y Ffyrdd - 01545 572053 a gofyn am Miss Kayleigh Tonkins - Swyddog Diogelwch Y Ffyrdd.

Yn ôl ymchwil a wnaed gan Labordy Ymchwil Trafnidiaeth (TRL), mae seiclwyr ifanc yn cael mantais mawr o hyfforddiant ar y ffordd; ac rydym ni yng Ngheredigion yn credu y dylem roi i'n plant y safon orau o hyfforddiant sydd ar gael. Rydym wedi darganfod fod plant wnaeth ymgymryd â'r math yma o hyfforddiant yn seiclwyr mwy hyderus, hyd yn oed y rheiny ag ychydig iawn o brofiad ar y ffordd. Mae hyfforddiant yn eu cynorthwyo i aildrefnu pethau a rhagweld peryglon posib gan gymryd camau priodol i'w hosgoi yn ogystal â datblygu canfyddiad cyflymder a phellter yn eu hamgylchedd gyrru arferol, gan y bydd hyfforddiant oddi ar y ffordd weithiau yn ei gwneud hi'n anodd i hyfforddai drosglwyddo sgiliau y maent wedi eu dysgu i sefyllfaoedd traffig real.

Gwneir hyfforddiant ar ffyrdd lleol tawel yn agos i'r ysgol, pan fyddwn yn medru ymgymryd â symudiadau syml megis troi i'r chwith ac i'r dde, mynd heibio car sydd wedi parcio ayb. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer hyfforddiant dylai disgyblion fod wedi cael eu pen-blwydd yn 10 oed (blwyddyn 5).

Caiff datblygiad disgyblion ei fonitro'n gyson yn ystod gwersi rheolaidd ac wedi cwblhau'r cwrs bydd y seiclwyr ifanc yn derbyn tystysgrif i ddangos iddynt fod yn rhan o'r hyfforddiant. Nid oes pasio neu fethu fel yr oedd y system ychydig flynyddoedd yn ôl.

Cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn

Mae cwrs ar gyfer gyrwyr hŷn yn dod i Geredigion yn ystod y misoedd nesaf. Mae’r cwrs wedi’i anelu at yrwyr 65 oed a hŷn. Does dim tâl ar gyfer y cwrs, a darperir cinio ar y diwrnod.

Rydyn ni eisiau’ch cadw i symud ac rydyn ni eisiau i chi fod yn annibynnol ac yn hyderus y tu ôl i’r olwyn, felly beth am fanteisio ar y diwrnod anffurfiol hwn, ac elwa o arbenigedd gweithwyr Diogelwch y Ffyrdd proffesiynol a Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy cymwys? Nid prawf gyrru yw hwn; nod y diwrnod yw gwella sgiliau a gwybodaeth a chyflwyno syniadau o ran sut i ymdrin â sefyllfaoedd llawn straen a chynllunio ar gyfer y dyfodol gyda’r bwriad o’ch cadw i yrru’n fwy diogel am fwy o amser!

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cwrs, peidiwch ag oedi i gysylltu â 01545 570881 Neu anfonwch e-bost at clic@ceredigion.gov.uk

Mentrau Hyfforddi Beiciau Modur

Biker Down! Cymru

Gan fod beicwyr modur yn dueddol o yrru mewn grwpiau neu barau, pan fydd un wedi cael damwain, beiciwr modur arall fel arfer fydd y cyntaf yno. Nod 'Biker Down!' yw lleihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ffyrdd, a chaiff y cynllun ei weithredu gan Ddiffoddwyr Tân Gweithredol / Tîm Beiciau Modur Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae’r cwrs yn cynnwys tri modiwl:

  • Rheoli Lleoliad Damwain
  • Cymorth Cyntaf
  • Y Wyddoniaeth o Gael eich Gweld

Bydd y cwrs yn rhoi gwell dealltwriaeth i’r cyfranogwyr o beth i’w wneud os ydynt yn gweld damwain traffig ar y ffordd a sut i reoli’r sefyllfa yn ddiogel.

Beth yw pris y cwrs?

Diolch i Grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru, mae’r cwrs ar gael AM DDIM. Ar ôl cwblhau’r cwrs, caiff y cyfranogwyr pecyn cymorth cyntaf am ddim.

Cynllun Gwella Beicwyr Modur Ceredigion

Newydd basio eich prawf? Am wirio eich safon gyrru? Ailddechrau gyrru ar ôl seibiant? Uwchraddio i feic modur mwy pwerus?

Cynllun hyfforddi beicwyr modur gyda chymorth Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu sgiliau pellach

  • Cynhelir y cwrs undydd theori/ymarferol ar benwythnosau
  • Mae ein hyfforddwyr wedi eu cymeradwyo o dan Gynllun Gyrwyr Safon Uwch yr Asiantaeth Safonau Gyrru
  • Byddwch yn derbyn tystysgrif Asiantaeth Safonau Gyrru sydd yncael ei gydnabod gan nifer fawr o gwmniau yswiriant a gall olygu disgownt ar eich premiwm

Am fwy o wybodaeth neu os am le ar y cwrs ffoniwch 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk

Mae’r cwrs am ddim!