Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i leihau faint o wrthdrawiadau traffig ffyrdd sy’n digwydd ar rwydwaith y ffyrdd sirol, faint sy’n cael eu hanafu yn eu sgil a difrifoldeb y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd sirol (mae Cefnffyrdd yr A487 a’r A44 yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru ac nid i’r Awdurdod hwn).

Gallwn wneud hyn drwy annog pobl i ddefnyddio’r briffordd gyhoeddus mewn modd diogel, cyfreithlon, ystyriol ac effeithlon. Mewn rhai achosion, er mwyn mynd i’r afael â phroblem sy’n bodoli, mae’n bosib y byddai’n briodol cyflwyno ymyriadau megis newid terfyn cyflymder, darparu arwydd i gyfeirio neu i rybuddio neu i hysbysu, neu fesurau eraill. Mae gwybodaeth am enghreifftiau o’r mesurau hyn i’w cael drwy’r dolenni isod. Sylwer, er mwyn cyfiawnhau unrhyw welliannau, rhaid bod tystiolaeth glir fod problem yn bod a bydd unrhyw ymyriadau newydd a gyflwynir yn gorfod cael eu blaenoriaethu mewn perthynas â chynlluniau eraill sy’n mynd rhagddynt a’r adnoddau sydd ar gael.