Bydd y ffioedd a'r taliadau'n gymwys os yw'r sawl sydd i'w gladdu, neu'r sawl y rhoddir iddo'r hawl, neu os oedd yn union cyn ei farw, yn preswylio yn Sir Geredigion, neu yn achos plentyn marw-anedig, os yw neu os oedd un o'r rhieni'n preswylio yn y Sir hon adeg y claddu.

Fel arall caiff y ffioedd a'r taliadau eu cynyddu gan 50% (nid yw hyn yn berthnasol i daliadau cloddio bedd).

Gwasanaeth Manylion Taliadau
Claddedigaeth mewn bedd cromennog   £1,390.00*
Claddedigaeth heblaw bedd sengl neu ddwbl Pris ar gais  
Hawl neilltuol i gladdedigaeth   £1,390.00*
​Hawl neilltuol i gladdedigaeth ​Claddu llwch yng Nghefn Llan £695.00*
Cloddio beddi Claddedigaeth gyntaf £1,180.00*
Claddedigaeth ddilynol £1,180.00*
Gweddillion a amlosgwyd £500.00*
Cost ychwanegol ar gyfer angladdau a gynhelir y tu allan i oriau gwaith arferol £545.00
Yr hawl i godi cofebion a cherrig coffa Carreg Goffa neu Groes heb fod yn fwy na 1.200m mewn uchder ar feddau a heb fod yn fwy na 0.600m mewn uchder ar blotiau lle ceir gweddillion sydd wedi’u hamlosgi. Nodir: Adran D (Llwch), Mynwent Cefn Llan. Ni fydd maint y garreg yn fwy na sylfaen o 600 x 600mm gyda charreg arysgrif 460mm x 460mm wedi ei gosod arni. £320.00*
Arysgrif ychwanegol fesul carreg goffa (ffi weinyddol) £80.00
  • Mewn achosion pan nad yw’r ymadawedig yn byw yng Ngheredigion bydd y tâl yn cynyddu 50%.
  • Codir 25% ychwanegol os na roddir o leiaf dau ddiwrnod gwaith o rybudd.
Cyflenwi copi dyblyg o weithred £37.50
Trosglwyddo gweithred sydd eisoes yn bod £37.50
Ymestyn hawl claddu neilltuedig ar ôl i'r weithred wreiddiol ddod i ben (30 mlynedd ychwanegol) £37.50

O 23/11/2017, yn unol â'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru, a Chofnod Cabinet C121 o 06/03/2018, ni fydd y Cyngor yn codi ffioedd safonol mwyach (*) ar gyfer Claddedigaethau Plant ac Amlosgi ar gyfer rhywun dan 18 oed (yn cynnwys gweddillion marw-anedig a ffetws).