A ydyw’n bosib prynu bedd ymlaen llaw?

Na. Mae nifer o resymau paham mae'r Cyngor wedi gorffen â'r arfer yma, yn bennaf am fod gwerthu plotiau ymlaen llaw yn medru mynd allan o reolaeth wrth i nifer o blotiau gael eu gwerthu mewn rhannau gwahanol o'r Fynwent.


Dywedwyd wrthyf fod y bedd ar gyfer dau berson – un person sydd yn y bedd ar hyn o bryd ac hoffem dwy gladdedigaeth arall yn y bedd dan sylw.

Pan gaiff bedd ei brynu i gymryd dwy gladdedigaeth corff llawn, bydd yn rhaid sicrhau bod digon o ddyfnder yn y bedd ar gyfer y claddu cyntaf er mwyn ystyried yr angen am ail gladdedigaeth. Bydd gofynion cyfreithiol yn nodi faint o bridd y dylid ei adael ar ben yr arch gyntaf, ac nid yw felly'n gorfforol bosib rhoi arch ychwanegol yn y bedd heb dorri'r gyfraith. Fodd bynnag, ar ôl i bob arch gael ei gosod yn y bedd bydd dal i fod hawl gennych osod gweddillion amlosgi yno mewn blwch neu wrn.


Faint o bobl sy’n medru cael eu claddu yn y bedd?

Fel arfer dau berson, oni bai y nodir yn groes i hynny. Fodd bynnag, bydd yn rhaid gofyn am hyn cyn y bydd y cyntaf yn cael ei gladdu. Gellir hefyd claddu gweddillion amlosgi.


Pa fath o gofebion y gellir eu defnyddio yn y fynwent?

Yn sgil gwiriadau a chamau gorfodi llym iawn gan Iechyd a Diogelwch wrth ddelio â chofebion, penderfynwyd gan y Cyngor taw Cofebion lawnt yn unig a ganiatieir yn ein mynwentydd o 1 Ionawr 2006. Rydym wedi caniatáu amrywiaeth o feintiau o fewn y Cofebion Lawnt er mwyn i bobl fedru mynegi eu steil a’u chwaeth eu hunain. Mae’r cofebion yma hefyd o gymorth â lleihau costau cynnal a chadw gan hefyd osgoi perygl baglu.


Pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r gofeb?

Mae'n gyfrifoldeb ar y perchennog sydd â hawliau eithriadol (deiliad y weithred) i gynnal y gofeb - hynny yw, perthnasau agosaf neu gynrychiolydd personol y sawl a fu farw. Os bydd problem yn codi gyda chofeb byddwn yn ceisio cysylltu â'r perchennog sydd â hawliau eithriadol gan ofyn iddo / iddi ymgymryd â gwaith trwsio fel y bo'r angen. Os na ellir cael gafael arnynt a bod y gofeb yn anniogel, bydd yn ofynnol arnom i sicrhau fod y cyfan yn ddiogel fel y gallwn gyflawni ein cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch. Mewn amgylchiadau o'r fath mi fyddwn fel arfer yn gosod y gofeb ar ei gwastad.


A yw’n bosib i ni ddefnyddio unrhyw Saer Maen i osod Cofeb?

Gallwch. Fodd bynnag bydd yn rhaid i'r Saer Maen Cofebion fod wedi ei gofrestru gyda BRAMM (Cofrestr Brydeinig Seiri Meini achrededig).


A yw’n bosib i mi gael gwybod lleoliad bedd perthynas?

Mae gennym gofnodion yn ôl i 1860. Os darperir enw a blwyddyn marwolaeth yr ymadawedig dylai staff fedru gynorthwyo wrth leoli'r adran a rhif y bedd. A fyddech cystal â defnyddio Cronfa Ddata Mynwentydd i geisio cael gafael ar y wybodaeth eich hun os yw'n bosib.

Chwilio Cronfa Ddata Mynwentydd


Pryd fydd yn bosib i mi osod Cofeb Lawnt ar y bedd?

Mewn achosion lle darperir seiliau ar gyfer cofebion lawnt bydd angen defnyddio angorion tir a ffitiadau s'n cydymffurfio â Chod Ymarfer Cymdeithas Genedlaethol Seiri Cofebion (NAMM). Mae'n bosib codi cofeb ymron ar unwaith.

Mewn mynwentydd lle y lleolir y garreg fedd ar ardal y bedd a gloddiwyd, byddai'n well gadael y penderfyniad ar bryd i osod y garreg i'ch saer maen cofrestredig BRAMM a fydd yn penderfynu pryd fyddai orau i'w gosod.


Paham fod y bedd wedi ei werthu i mi am gyfnod penodol o amser yn unig? Rwyf am y bedd am byth!

Nid yw’n bosib i Awdurdodau Lleol werthu tir lle bydd claddedigaeth. Nodir yng nghyfraith Mynwentydd taw’r unig beth y gellir ei werthu yw Hawl Eithriadol i Gladdu mewn Bedd. Mae hawl gan y Cyngor i nodi amodau ar gyfer faint o flynyddoedd, o ddyddiad y claddu y bydd yr Hawl Eithriadol i Gladdu (Gweithred Claddu) yn weithredol. Mae’r Cyngor wedi nodi’r cyfnod yma yn 30 blynedd. Bydd yn bosib yn ôl y gyfraith, ychwanegu at gyfnod yr Hawl i Gladdu a’i drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol, felly mi all y bedd aros yn y teulu am mor ag yr hoffent (dylech ddarllen y darn ar Drosglwyddo Gweithredoedd). Fodd bynnag ni chaniateir perchnogaeth am fwy na 30 mlynedd ar y tro. Hyd yn oed os na roddir yr opsiwn i ymestyn y cyfnod, bydd yn bosib i berchennog yr Hawl i Gladdu adnewyddu’r Hawl hynny ar ddiwedd y tymor.


Sut ydwyf yn trefnu claddedigaeth?

Fel arfer bydd Cyfarwyddwr Angladdau yn trefnu claddedigaeth fodd bynnag mae’n bosib i chi gysylltu â’r Cyngor am gyngor pellach.


A oes beddau newydd ar gael ym mhob un o fynwentydd y Cyngor?

Mae beddau newydd ar gael yng Ngheinewydd, Cefn Llan (Aberystwyth), Aberteifi a Lledrod.

Nid oes beddau newydd ar gael ym Mynwent Plas Crug, Aberystwyth heblaw ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn berchen ar 'Hawl Neilltuol i gladdedigaeth' NEU bobl y mae eu perthnasau eisoes wedi eu claddu yn y fynwent ac sy'n medru profi eu bod yn perthyn yn agos (mae hyn yn dibynnu ar y lle sydd ar gael yn y bedd am gladdedigaeth arall).


Paham fod y rheoliadau’n ymddangos mor llym?

Bydd gan yr Awdurdod Claddu ddyletswydd gofal i sicrhau y caiff y fynwent ei rheoli'n briodol gan gynnig amgylchedd diogel i unrhyw un sy'n ymweld â hi beth bynnag yw pwrpas eu hymweliad.


Pam fod yn rhaid i mi wneud cais i godi cofeb pan rwy’n berchen ar y plot?

Yr Awdurdod Claddu sy’n cadw perchnogaeth ar y plot. O dan amodau’r Hawl Eithriadol i Gladdu bydd ond gennych yr hawl i godi cofeb gyda chytundeb a chaniatâd y Cyngor a gwneir hyn drwy’r broses o gyflwyno cais am Gofeb.


Pam nad yw’n bosib i mi blannu fy llwyn/coeden fy hun neu greu gardd?

Mae mwyafrif helaeth o gladdedigaethau o fewn plotiau ffiniau’r garreg fedd yn ein mynwentydd. Ni chaniateir plannu unrhyw beth arall am y rhesymau canlynol:

  1. Sicrhau mynediad diogel a haws i blotiau gan berthnasau o bob oed sydd am ymweld â phobl oedd yn agos atynt.
  2. Mae cynllun a steil y beddau yn golygu y gall peiriannau torri porfa mawr gael eu defnyddio o amgylch y beddau, ac y mae hyn yn ei dro yn golygu gwaith cynnal a chadw o’r radd flaenaf sydd hefyd yn gost effeithiol i’w gymharu â phlot coffa trwm.

Mewn achosion lle y mae plotiau coffa trwm bydd gwreiddiau’r coed a’r llwyni’n achosi problemau pan fydd y gwreiddiau’n lledu i ardaloedd beddau eraill ac os ydynt wedi eu lleoli yn y mannau anghywir maent yn medru rhwystro gwaith cynnal a chadw tir rheolaidd.


Beth yn union y gallaf ei osod o amgylch fy ngharreg fedd?

Bydd yn rhaid gosod yn gadarn potiau blodau wrth waelod carreg fedd newydd. Dylech ystyried hyn wrth drefnu carreg fedd newydd neu phan fyddwch chi'n trefnu geiriad ychwanegol ar y garreg. Ni ddylech osod unrhyw eitemau personol eraill ar waelod y garreg goffa/ tabled nac ychwaith yn ardal y lawnt dros weddill y bedd.


A yw’r Beddau wedi eu cysegru ?

Ydynt ac nad ydynt.

Yn Aberteifi y mae ardal sydd wedi ei chysegru ac ardal sydd heb ei chysegru yn y darn hynaf, a dyma yw’r achos ym Mhlas Crug, Aberystwyth hefyd.

Mae beddau unigol yn ardaloedd lawnt Ceinewydd, Lledrod, ac Aberteifi ac yng Nghefn Llan (Aberystwyth) lle mae’n bosib eu cysegru ai peidio yn ddibynnol ar ddymuniadau’r ymadawedig neu’r teulu agosaf.