O Ionawr 2006 dim ond cofebion lawnta ganiateir mewn mynwentydd dan berchnogaeth y Cyngor.

Bydd angen caniatâd cyn codi cofeb. Gwneir hyn fel arfer gan saer maen drwy gwblhau "Cais am Gynllun Cofeb".

Cais Am Gynllun Cofeb

Pan fydd caniatâd wedi ei roi gall y saer maen godi'r gofeb a ddewiswyd.

Mathau o gofebion

Cofebion lawnta - Dyma'r unig fath o gofeb a ganiateir yn ein mynwentydd ers 2006. Mae'n sicrhau y gellir cynnal a chadw'r fynwent yn haws ac y maent yn ddiogel iawn pan gânt eu gosod gan saer maen cofrestredig BRAMM.