Beth yw gordaliad?

Ceir gordaliad lle y talwyd mwy o Fudd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol, a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor i chi nag y mae hawl gennych ei gael.

Brig y tudalen

Beth a all achosi gordaliad?

Achosir y rhan fwyaf o ordaliadau gan newidiadau mewn amgylchiadau personol a/neu ariannol lle na roddir gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Lleol amdanynt. Er enghraifft:

  • Unrhyw newid mewn incwm neu gyfalaf. Mae hyn yn cynnwys dechrau gweithio, newid swyddi, cynnydd cyflog, budd-daliadau'r wladwriaeth, pensiynau preifat a Chredyd Treth Plant a Gwaith
  • Os bydd amgylchiadau oedolion eraill sy'n byw gyda chi yn rhan o'ch aelwyd yn newid
  • Os bydd pobl yn symud i mewn ac allan o'ch cartref
  • Os byddwch chi neu'ch cymar yn symud allan
  • Os byddwch yn priodi, yn llunio partneriaeth sifil neu'n dechrau byw â rhywun fel petaech yn briod neu yn bartneriaid sifil

Ni ddylech ddibynnu ar Ganolfan Byd Gwaith, Adran Gwaith a Phensiynau, y Gwasanaeth Pensiwn neu'ch landlord, i dweud wrthym am unrhyw newidiadau.

Os canfyddir bod eich cais yn dwyllodrus, bydd Adran Gwaith a Phensiynau yn erlyn lle bo’n briodol a fydd yr Awdurdod Lleol yn adennill wrtho chi unrhyw gordaliad Budd-dâl Tai a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor.

Brig y tudalen

Sut y byddaf yn gwybod a oes gordaliad gennyf?

Os gordalwyd Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol, a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor i chi, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn dweud y canlynol wrthoch :

  • bod gordaliad
  • y rheswm am y gordaliad
  • dyddiadau a swm y gordaliad
  • sut y buom yn cyfrif y gordaliad
  • beth yr ydych yn ei wneud os anghytunwch â'r gordaliad

Os byddwch yn gwneud taliadau uniongyrchol i'ch landlord, byddwn yn ysgrifennu atoch ac at eich landlord yr un pryd.

Peidiwch ag anwybyddu dim un llythyr a anfonwn atoch gan na fydd y gordaliad yn diflannu.

Brig y tudalen

Beth y gallaf ei wneud os anghytunaf â'r gordaliad? 

AR GYFER BUDD-DAL TAI neu LWFANS TAI LLEOL:

Os ydych chi am gael gwybod mwy am y penderfyniad neu os ydych chi'n credu ei fod yn anghywir, dylech chi gysylltu â ni o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr neu efallai na allwn ni ystyried unrhyw anghydfod.

Gallwch naill ai ofyn am esboniad neu:

  • ofyn, yn ysgrifenedig, am 'Ddatganiad Rheswm' ysgrifenedig
  • gofyn i ni ystyried y penderfyniad eto – 'Cwestiynwch y Penderfyniad'. Rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig. Os gellir newid y penderfyniad, anfonwn benderfyniad newydd atoch. Os na fedrwn newid y penderfyniad, rhoddwn wybod i chi paham. Os byddwch yn dal i anghytuno, bydd un mis gennych i apelio o ddyddiad y penderfyniad newydd.
  • Apeliwch yn erbyn y penderfyniad – ni ellir gwneud hyn ond yn ysgrifenedig. Os byddwch yn apelio yn erbyn y penderfyniad, cyfeirir eich apêl at Dribiwnlys Annibynnol o dan weinyddiaeth y Gwasanaeth Tribiwnlys.

AR GYFER GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR

Os oes arnoch chi angen mwy o fanylion ynghylch unrhyw fater sydd wedi ei osod yn yr hysbysiad neu'r rhesymau dros y penderfyniad gallwch chi wneud cais o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr am 'Ddatganiad Ysgrifenedig o'r Rhesymau'.

Os ydych chi'n anghytuno â'r penderfyniad gallwch o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr, gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor yn nodi'n glir y mater(ion) yr ydych chi'n anfodlon arno a'r rhesymau. Byddwn yn ystyried y mater(ion) sydd ynglŷn â'ch hysbysiad chi a rhoddwn wybod i chi'n ysgrifenedig o'n penderfyniad ni gyda rhesymau. Yn dilyn y llythyr hwnnw os byddwch chi'n dal yn anfodlon bydd gennych chi 2 fis i apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Sylwer, gallwch chi apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru os na fyddwn ni wedi rhoi gwybod i chi ynghylch ein penderfyniad o fewn 2 fis ar ôl i chi gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor.

Gweler Apeliadaui gael mwy o wybodaeth.

Brig y tudalen

Sut y gallaf ad-dalu'r gordaliad?

Os gordalwyd Gostyngiad Treth y Cyngor i chi, byddwn yn rhoi'r gordaliad yn ddebyd ar eich cyfrif Treth Gyngor ac yn anfon bil Treth Cyngor newydd atoch.

Os ydych yn dal i gael Budd-dâl Tai neu Lwfans Tai Lleol, byddwn yn didynnu swm penodol oddi ar eich hawl wythnosol i ostwng y gordaliad. Os talwyd eich landlord yn uniongyrchol, efallai y byddwn yn gofyn i'ch landlord ein had-dalu mewn rhai amgylchiadau.

Os nad oes hawl gennych bellach i Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol, byddwn yn anfon anfoneb atoch y gellir ei ad-dalu :

  • Ag arian parod/siec/cerdyn cerdyd yn unrhyw Swyddfa Leol
  • Drwy anfon siec at Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE – amgaewch eich anfoneb neu ysgrifennwch rif eich anfoneb ar gefn y siec
  • Â cherdyn credyd/debyd ar y rhif ffôn 01970 633252
  • Ar y rhyngrwyd.

Os na fedrwch ad-dalu'r anfoneb yn llawn, gallwch drefnu i ad-dalu drwy randaliadau. Dadlwythwch a chwblhewch Ffurflen Cytundeb ar Fudd-dâl Tai a Ordalwyd sy'n amlinellu faint y mae'n rhaid i chi ei ad-dalu, pa mor aml y mae'n rhaid i chi wneud ad-daliadau ynghyd â'ch dewis o fodd talu.

Dadlwythwch a chwblhewch Ffurflen Archeb Sefydlog os ydych wedi dewis y dull yma o talu. Os ydych eisiau talu trwy Derbyd Uniongyrchol, gallwch ffonio'r Awdurdod i drefnu hyn neu gallwch dadlwytho a chwblhau Mandad Debyd Uniongyrchol.

Os derbynnir eich cynnig o randaliadau, byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau'r trefniant.

Dalier sylw –Os byddwch yn cael trafferth gwneud y rhandaliadau neu gadw at y trefniant a gytunwyd, dylech gysylltu â ni ar unwaith. Byddwn yn ceisio rhoi cymorth i chi ym mhob ffordd bosib.

Brig y tudalen

Pa gamau eraill a gymerir os na wnaf gynnig i ad-dalu gordaliad ac os na chadwaf at y cynnig hwnnw?

Mae'r opsiynau sydd ar gael i'r Awdurdod Lleol adennill gordaliad fel a ganlyn:

  • Gallwn ofyn i’ch cyflogwr wneud didyniadau o’ch cyflog heb achos llys. Gelwir hyn yn Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol.
  • Efallai y byddwn yn gofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau wneud didyniadau o fudd-dâl y maent yn ei dalu i chi. Os byddant yn medru gwneud didyniadau ar ran yr Awdurdod Lleol, bydd hynny'n golygu y byddwch yn cael llai o fudd-dâl oddi wrth y wladwriaeth. Byddant yn ysgrifennu atoch os bydd hyn yn digwydd.
  • Os ydych yn landlord sydd heb wneud ad-daliad i'r Awdurdod Lleol ac y parhewch i gael Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol gogyfer â thenantiaid eraill, byddwn yn didynnu'r gordaliad yn llawn o daliadau yr anfonir atoch yn y dyfodol.
  • Efallai y byddwn yn cofrestru'r ddyled yn Llys y Sir. Mae'r dulliau gorfodi, ar ôl i ni gofrestru'r gordaliad, yn ein galluogi i:
    • ofyn i'ch cyflogwr ddidynnu'r arian yn uniongyrchol o'ch enillion (Atafaelu Enillion) neu
    • fynd ag arian yn uniongyrchol o'ch cyfrif banc neu
    • anfon beili i'ch eiddo i waredu ar nwyddau sydd i'r un gwerth â'r ddyled neu
    • osod gorchymyn codi tâl gyferbyn â'ch eiddo neu
    • wneud cais am fethdaliad.

Dalier sylw: Gallai hyn effeithio ar eich statws credyd ac, yn ogystal â swm gwreiddiol y gordaliad, byddwch yn gyfrifol am ad-dalu unrhyw gostau ychwanegol.

Brig y tudalen

Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol

Mae’n ofynnol bod cyflogwyr yn gwneud didyniadau o gyflogau eu gweithwyr ac yna caiff y symiau a ddidynnwyd eu talu i Gyngor Sir Ceredigion i leihau neu i glirio’r ddyled.

Mae’r Canllawiau i Gyflogwyr – Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol yn cynnig cyngor ynghylch beth sydd angen i gyflogwr ei wneud os caiff cais i weithredu trefniant Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol. Mae’n esbonio:

  • Sut i roi trefniant Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol ar waith
  • Sut i gyfrifo faint i’w ddidynnu o enillion y gweithiwr
  • Sut a phryd i dalu’r arian a ddidynnwyd i ni
  • Cyfrifoldebau’r cyflogwr o dan y gyfraith

Rhaid i’r cyflogwr gwblhau amserlen taliadau Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol bob tro y gwneir didyniadau a’i hanfon atom ni gan nodi’r symiau a ddidynnwyd o gyflog y gweithiwr. Gallwch e-bostio copi electronig o’r rhestr atom yn devandcontrol@ceredigion.gov.uk (rhowch ‘Hysbysiad DEA’ yn nhestun eich e-bost) neu ei bostio i’r cyfeiriad a ddangosir ar y rhestr.

Ceir esboniad o’r weithdrefn lawn yn y Canllawiau i Gyflogwyr – Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol.

Nod y canllaw yw helpu cyflogwyr i ddeall y prif bwyntiau ynghylch Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol, ond nid datganiad na disgrifiad llawn o’r gyfraith mohono.

Os ydych chi’n gyflogwr a bod gennych unrhyw gwestiynau nad oes atebion iddynt yn y canllaw, cysylltwch â ni ar 01970 633252.

Brig y tudalen