Cyflwynwyd y Cap ar Fudd-daliadau gan y Llywodraeth yn Ebrill 2013 er mwyn cyfyngu ar gyfanswm y budd-daliadau gall bobl o oed gweithio eu derbyn, fel na fydd aelwydydd sydd ar fudd-daliadau i’r di-waith yn derbyn mwy mewn taliadau lles na’r cyfartaledd o ran cyflog wythnosol yr aelwydydd sy’n gweithio. Mae’r hyn yn newid ar 7 Tachwedd 2016 fel bod:

Bydd uchafswm y budd-daliadau wythnosol (y cap ar fudd-daliadau) fel a ganlyn:

  • £257.69 ar gyfer rhywun sengl heb blant
  • £384.62 ar gyfer rhieni sengl
  • £384.62 ar gyfer parau gyda phlant neu heb blant

Yn y tymor byr, caiff y cap ei weinyddu ar y cyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Awdurdodau Lleol a chaiff yr arian ei ddidynnu o'r taliadau Budd-dal Tai. Yn y tymor hwy, daw'n rhan o system newydd y Credyd Cynhwysol.

Pa fudd-daliadau sy'n cyfrif tuag at y cap?

  • Lwfans Profedigaeth
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ac eithrio pan gaiff ei dalu gyda'r elfen gymorth)
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Rhiant Gweddw
  • Lwfans Mam Weddw
  • Pensiwn Gwraig Weddw
  • Pensiwn Gwraig Weddw (ar sail oedran)

Aelwydydd na fydd y cap yn effeithio arnynt

Ni fydd y cap yn berthnasol i chi os ydych chi, eich partner neu unrhyw rai o'r plant yr ydych yn gyfrifol amdanynt yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith neu os ydych yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau a ganlyn:

  • Lwfans Byw i'r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Bersonol
  • Lwfans Gweini
  • Credyd Treth Gwaith
  • Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw, Pensiwn Rhyfel Gŵr Gwddw neu Bensiwn Anabledd Rhyfel
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (elfen gymorth)
  • Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol
  • Taliadau Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gofalwyr
  • Lwfans Gwarcheidwad

Hefyd, ni fydd y cap yn berthnasol am 39 wythnos i'r rheini sydd wedi bod yn gweithio'n barhaus dros y 12 mis blaenorol ac sy'n colli eu swyddi heb fod unrhyw fai arnyn nhw.

Ar 1 Ebrill 2013 fe cyflwynodd y Llywodraeth rheolau newydd sy'n pennu nifer yr ystafelloedd gwely y bydd y Budd-dal Tai yn talu amdanynt os ydych yn rhentu gan Gymdeithas Dai Gofrestredig neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig arall e.e. Cymdeithas Tai Cantref, Tai Ceredigion (tai cyngor gynt) ac ati.

Beth yw'r newidiadau?

Mae'r rheolau newydd yn cyfyngu ar faint y llety y gallwch gael Budd-dal Tai ar ei gyfer, ar sail nifer y bobl ar eich aelwyd.

Mae'r rheolau'n caniatáu un ystafell wely ar gyfer:

  • Pob pâr o oedolion (priod neu ddi-briod) 
  • Unrhyw oedolyn arall dros 16 oed
  • Unrhyw ddau blentyn o'r un rhyw o dan 16 oed (oni bai fod un o'r plant yn ddifrifol anabl - gweler isod)
  • Unrhyw ddau blentyn o dan 10 oed (oni bai fod un o'r plant yn ddifrifol anabl - gweler isod)
  • Unrhyw blentyn arall (ac eithrio plentyn y mae ei brif gartref yn rhywle arall*) 
  • Gofalwr (neu dîm o ofalwyr) nad yw (ydynt) yn byw gyda chi, ond sy'n darparu gofal dros nos i chi neu'ch partner
  • Gofalwyr Maeth (gweler isod)
  • Personél y Lluoedd Arfog (gweler isod)

(*Ni chewch gynnwys plentyn/plant sy'n aros gyda chi ar benwythnosau yn unig fel rhan o'ch aelwyd, oni bai eich bod yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer/eu cyfer.)

Gofalwyr Maeth – Os ydych chi'n ofalwr maeth cymeradwy bydd hawl gennych i ystafell wely ychwanegol, p'un ai a oes plentyn wedi ei leoli gyda chi ai peidio neu mae rhwng lleoliadau, cyn belled â'ch bod chi wedi maethu plentyn neu wedi dod yn ofalwr maeth cymeradwy yn y 12 mis diwethaf.

Personél y Lluoedd Arfog – Bydd hawl gennych i ystafell wely ychwanegol os oes gennych fab neu ferch sy'n oedolion sy'n byw gyda chi ond sy'n absennol o'r cartref teuluol oherwydd eu bod yn y Lluoedd Arfog.

Plant ag Anableddau Difrifol - Os nad yw eich plant yn gallu rhannu ystafell wely oherwydd eich bod yn darparu gofal cyson ac anghenion meddygol yn ystod y nos i blentyn sydd ag anabledd difrifol, yna mae'n bosibl bod gennych hawl i ystafell wely ychwanegol. Bydd angen i chi roddi tystiolaeth feddygol yn gefn i'ch cais am ystafell wely ychwanegol e.e. llythyr gan eich meddyg. Dylai'r dystiolaeth honno amlinellu difrifoldeb yr anabledd, natur ac amlder y gofal sy'n angenrheidiol yn ystod y nos a fyddai'n sicr o darfu ar gwsg y plentyn arall.

Sut fydd hyn yn effeithio arnaf i?

Mae'n bosib y bydd swm y Budd-dal Tai yr ydych yn ei gael i dalu'ch rhent yn gostwng.

Os asesir bod gennych fwy o ystafelloedd gwely nag sydd eu hangen ar gyfer eich aelwyd, ystyrir eich bod yn tanfeddiannu'r eiddo hwnnw.

Os ydych yn tanfeddiannu'r eiddo, caiff eich Budd-dal Tai ei gwtogi fel a ganlyn:

  • 14% am danfeddiannu un ystafell wely
  • 25% am danfeddiannu dwy ystafell wely neu ragor

Aelwydydd na fydd y meini prawf maint yn effeithio arnynt

O dan rai amgylchiadau, ni fydd y meini prawf maint yn berthnasol:

  • Oedran credyd Pensiwn y Wladwriaeth – dim ond i hawlwyr o oedran gweithio y bydd rheolau'r meini prawf maint yn berthnasol.
  • Llety heb fod yn y brif ffrwd – taliadau angori ar gyfer cychod preswyl a thaliadau safle ar gyfer carafanau a chartrefi symudol yw'r rhain, ynghyd â gwahanol "denantiaethau sydd wedi'u heithrio" yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Budd-dal Tai h.y. tenantiaethau rheoleiddiedig.
  • Llety dros dro – unrhyw hawlydd sy'n cael ei osod mewn llety dros dro gan yr awdurdod lleol oherwydd ei fod yn ddigartref neu i'w atal rhag bod yn ddigartref.
  • Llety sydd wedi'i eithrio – ni fydd y rheolau hyn yn berthnasol i'r rheini sy'n byw mewn llety â chymorth sydd 'wedi'i eithrio'. Math penodol o lety â chymorth yw hwn, sydd wedi'i ddiffinio at ddibenion Budd-dal Tai fel llety a ddarperir gan gyngor sir anfetropolitanaidd yn Lloegr, cymdeithas dai, elusen gofrestredig neu sefydliad gwirfoddol, lle mae'r corff hwnnw, neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran, hefyd yn darparu gofal neu gymorth i'r hawlydd, neu'n ei oruchwylio, fel a nodir ym mharagraff 4 o Atodlen 3 i Reoliadau Darpariaethau Canlyniadol 2006.

Os ydych chi mewn cyni ariannol efallai y bydd gennych chi hawl i daliad ychwanegol i'ch helpu chi at y diffyg. Hwnnw yw'r Taliad Tai yn ôl Disgresiwn.

Fel rhan o raglen diwygio lles barhaus Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, daeth elfennau o'r Gronfa Gymdeithasol a oedd yn arfer cael eu darparu gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, yn benodol felly Grantiau Gofal Cymunedol Dewisol a Benthyciadau Argyfwng, i ben ddiwedd Mawrth 2013. Ar 1 Ebrill 2013 cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd sef y Gronfa Cymorth Dewisol.

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig taliadau neu gymorth o fath arall er mwyn rhoi help ar frys i bobl y gwelir bod angen penodol i warchod eu hiechyd a'u lles.

Bydd y taliadau hyn ar gael i bobl nad oes ganddynt unrhyw fodd arall i dalu costau byw sy'n flaenoriaeth uchel. Nid talu costau byw arferol yw eu bwriad.

Mae'r cynllun yn cynnwys dau fath o gymorth grant na fydd angen eu talu yn ôl:

  • Taliadau Cymorth mewn Argyfwng - a fydd yn cynnig cymorth mewn argyfwng, neu pan fydd iechyd neu les rhywun dan fygythiad uniongyrchol. Gall unrhyw un dros 16 oed gael ei ystyried i fod yn gymwys ar gyfer y taliadau hyn, os bydd angen help i dalu costau yn sgîl argyfwng neu drychineb.
  • Taliadau Cymorth i Unigolion - a fydd yn talu costau ar gyfer angen brys penodol, i alluogi neu gynorthwyo pobl sy'n agored i niwed i fyw yn annibynnol neu i barhau i fyw'n annibynnol yn y gymuned. (I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol: bod â hawl i fudd-daliadau lles sy'n seiliedig ar incwm ac yn dal i dderbyn y budd-daliadau hynny; neu os ydynt yn disgwyl gadael sefydliad neu gartref gofal o fewn 6 wythnos, a'i bod yn debygol y bydd ganddynt hawl i dderbyn budd-daliadau lles sy'n seiliedig ar incwm ar ôl gadael).

Sut i ymgeisio:

Fe agorodd y grynfa ar gyfer ceisiadau ar 1 Ebrill 2013.

I ganfod a ydych yn gymwys i dderbyn cymorth darllenwch y meini prawf cymhwyster isod.

Y Gronfa Cymorth Dewisol - Meini Prawf Cymhwyster

Gallwch gyflwyno cais i'r gronfa yn y ffyrdd canlynol:

Y Gronfa Cymorth Dewisol
Blwch Post 2377
WRECSAM
LL11 0LG

O 1 Ebrill 2013, fel rhan o agenda Diwygio Lles Llywodraeth y DU, fe ddiddymwyd Budd-dal y Dreth Gyngor, gyda Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn cymryd ei le. 

Cafodd y cyfrifoldeb dros Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru a phenderfynwyd y byddai Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Cymru. Caiff prif reoliadau Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor eu gosod gan Lywodraeth Cymru ac mae angen i bob Awdurdod Lleol eu mabwysiadu nhw'n unigol gyda disgresiwn cyfyngedig mewn meysydd neilltuol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ynghyd â'r pwerau canlynol yn ôl disgresiwn yn ystod blwyddyn ariannol 2016/17:

  • Diystyru Pensiwn Anabledd Rhyfel a Phensiwn Gweddwon Rhyfel wrth gyfrifo incwm
  • Parhau i ganiatáu uchafswm o 4 wythnos o Dâl Estynedig
  • Caniatáu uchafswm o 3 mis ar gyfer ôl-ddyddio Gostyngiad y Dreth Gyngor lle y mae modd profi 'achos da' parhaus

Er i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol leihau cyllid Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor 10%, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoddi arian ychwanegol unwaith eto i sicrhau y gall Cynghorau Cymru amddiffyn y rhan fwyaf o bobl rhag y toriadau yn ystod blwyddyn ariannol 2016/17.