Ffurflen Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor

Nodwch, ddylai'r ffurflen hon ond gael ei llenwi gan gwsmeriaid nad ydynt ar hyn o bryd yn derbyn budd-dal tai a/neu ostyngiad Treth y Cyngor.

Gwnewch gais ar-lein fan hyn

Fe fydd ein ffurflen Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor ar-lein yn helpu chi i wneud eich cais mor hawdd â phosibl achos :

  • Gellwch lenwi'r ffurflen gyfan oddi ar lein. 'Does dim ots os oes unrhyw broblemau gyda'r rhyngrwyd, gellwch ddal ati gyda'r ffurflen er hynny. 'Does dim hyd yn oed raid ichi ei llenwi i gyd ar yr un tro. Gellwch gadw'r ffurflen ar eich cyfrifiadur, a dod yn ôl ati'n ddiweddarach.
  • Bydd y ffurflen yn eich helpu a'ch arwain wrth ichi weithio drwyddi, gan sicrhau eich bod ond yn llenwi rhannau sy'n berthnasol i'ch hawliad. Mae hyn yn gwneud y ffurflen yn llawer symlach i'w llenwi.
  • Mae'r ffurflen yn gwirio'i hun am wallau ac yn amlygu unrhyw beth yr ydych wedi'i adael allan. Pan fydd eich ffurflen yn ddi-wall mae'n haws i ni ei phrosesu.
  • Pan fydd wedi'i chwblhau, gellwch gyflwyno'r ffurflen yn uniongyrchol i'n gweinydd fel y gallwn ddechrau prosesu eich cais yn syth.
  • Ble mae angen inni weld tystiolaeth gennych i gefnogi eich hawliad, bydd y ffurflen yn rhoi rhestr addasedig ichi o beth yn union y mae angen inni ei weld.
  • I ddiogelu eich preifatrwydd, mae'r holl wybodaeth a gofnodwch ar y ffurflen yn ddiogel a chyfrinachol.