Beth i wneud os ydych yn credu bod y penderfyniad am eich Budd-Dal Tai, Lwfans Tai Lleol neu Gostyngiad Treth y Cyngor yn anghywir.

Pwy a all apelio?

Unrhyw berson yr effeithir arno gan benderfyniad am Fudd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor:

  • Ceisydd/ymgeisydd (y person sy'n gwneud cais);
  • Rhywun a benodir i weithredu ar ran rhywun arall (o ddewis y llysoedd neu berson y mae'r Awdurdod Lleol yn cytuno a all weithredu ar ran rhywun)
  • Landlord/asiant – ond dim ond mewn materion sydd a wnelo â phwy y talwn fudd-dâl iddo neu a ddylid adennill gordaliad budd-dâl oddi wrthynt

Brig y Tudalen 

Beth sy'n digwydd os byddaf yn anghytuno â'ch penderfyniad?

Pan fyddwn wedi penderfynu ar eich cais, byddwn yn anfon llythyr hysbysu swyddogol atoch. Bydd y llythyr yn cadarnhau'r holl fanylion y buom yn eu defnyddio i gyfrifo'ch hawl ac mae'n bwysig eich bod yn gwirio bod y wybodaeth yn gywir.

AR GYFER BUDD-DAL TAI NEU LWFANS TAI LLEOL:

Os ydych chi am gael gwybod mwy am y penderfyniad neu os ydych chi'n credu ei fod yn anghywir, dylech chi gysylltu â ni o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr neu efallai na allwn ni ystyried unrhyw anghydfod.

Gallwch naill ai ofyn am esboniad neu:

  • ofyn, yn ysgrifenedig, am 'Ddatganiad Rhesymau' ysgrifenedig
  • gofyn i ni ystyried y penderfyniad eto – 'Cwestiyna'r Penderfyniad'. Rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig. Os gellir newid y penderfyniad, anfonwn benderfyniad newydd atoch. Os na fedrwn newid y penderfyniad, rhoddwn wybod i chi paham. Os byddwch yn dal i anghytuno, bydd un mis gennych i apelio o ddyddiad y penderfyniad newydd.
  • Apelio yn erbyn y penderfyniad – ni ellir gwenud hyn ond yn ysgrifenedig. Os byddwch yn apelio yn erbyn y penderfyniad, cyfeirir eich apêl at Dribiwnlys Annibynnolo dan weinyddiaeth y Gwasanaeth Tribiwnlys.

AR GYFER GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR

Os oes arnoch chi angen mwy o fanylion ynghylch unrhyw fater sydd wedi ei osod yn yr hysbysiad neu'r rhesymau dros y penderfyniad gallwch chi wneud cais o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr am 'Ddatganiad Ysgrifenedig o'r Rhesymau'.

Os ydych chi'n anghytuno â'r penderfyniad gallwch ofewn un mis wedi dyddiad y llythyr, gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor yn nodi'n glir y mater(ion) yr ydych chi'n anfodlon arno a'r rhesymau. Byddwn yn ystyried y mater(ion) sydd ynglŷn â'ch hysbysiad chi a rhoddwn wybod i chi'n ysgrifenedig o'n penderfyniad ni gyda rhesymau. Yn dilyn y llythyr hwnnw os byddwch chi'n dal yn anfodlon bydd gennych chi 2 fis i apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Sylwer, gallwch chi apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru os na fyddwn ni wedi rhoi gwybod i chi ynghylch ein penderfyniad o fewn 2 fis ar ôl i chi gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor.

Brig y Tudalen

Beth yw 'Datganiad Rhesymau'?

Bydd 'Datganiad Rhesymau' yn rhoi esboniad ysgrifenedig i chi o'r rhesymau sydd y tu ôl i'n penderfyniad. Bydd y datganiad hwnnw yn rhoi mwy o wybodaeth i chi i'ch helpu i benderfynu beth i'w wneud nesaf.

Dalier sylw na fydd yr amser y bydd yr Awdurdod Lleol yn ei gymryd i ymateb i'ch cais am Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol yn cyfrif tuag at eich terfyn amser o un mis. Serch hynny, po gyflymaf y gofynnwch am y 'Datganiad Rhesymau', po hiraf fydd yn weddill ar eich terfyn amser o un mis i benderfynu beth i'w wneud nesaf.

Yn sgîl y 'Datganiad Rhesymau', os byddwch yn dal i anghytuno â'r penderfyniad, gallwch:

AR GYFER BUDD-DAL TAI NEU LWFANS TAI LLEOL:

  • 'Gwestiyna'r Penderfyniad' neu
  • 'Apelio'yn erbyn y penderfyniad.

AR GYFER GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR

  • Cyflwyno  hysbysiad ysgrifenedig fel y nodir uchod.

Brig y Tudalen

Sut yr wyf yn 'Cwestiyna'r Penderfyniad' (Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol)?

Rhaid i chi ysgrifennu atom cyn pen un mis i'r dyddiad sydd ar lythyr gwreiddiol y penderfyniad gan amlinellu'n glir pa benderfyniad yr ydych yn ei gwestiyna.

Os oes amgylchiadau arbennig a olygai na fedroch gysylltu â ni cyn pen un mis i'r dyddiad ar lythyr y penderfyniad, efallai y byddwn yn medru adolygu'r penderfyniad o hyd. Rhaid i chi ddweud wrthom beth yw'r amgylchiadau arbennig pan fyddwch yn cysylltu â ni, er enghraifft, marwolaeth, salwch difrifol, absenoldeb tramor, streic bost neu ryw amgylchiad arbennig arall.

Os oedd amgylchiadau arbennig gennych a'n bod yn cytuno bod y penderfyniad yn anghywir, gwneir newid o ddyddiad y penderfyniad gwreiddiol.

Serch hynny, os nad oedd amgylchiadau arbennig gennych a bod y penderfyniad yn anghywir, efallai y byddwn yn dal i fedru newid y penderfyniad, ond o'r dyddiad y cysylltwch â ni yn unig.

Brig y Tudalen

Yr wyf yn anfodlon - sut mae 'Cyflwyno Hysbysiad' (Gostyngiad Treth y Cyngor yn unig)?

Os ydych chi'n anfodlon ar y penderfyniad gallwch o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr, gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor yn nodi'n glir y mater(ion) yr ydych yn anfodlon arno a'r rhesymau.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn ailystyried y penderfyniad?

AR GYFER BUDD-DAL TAI NEU LWFANS TAI LLEOL

Pan fyddwch yn gofyn i ni ailystyried, byddwn yn gwirio bod y penderfyniad yn gywir. Bydd aelod gwahanol o'r staff yn gwneud hyn fel arfer.

Os bydd y penderfyniad yn anghywir, byddwn yn ei newid a byddwch yn cael llythyr hysbysu newydd. Os byddwch yn anghytuno â'r penderfyniad newydd, gallwch ofyn i ni ei ailystyried.

Os na fedrwn newid ein penderfyniad, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio paham. Bydd y llythyr yn dweud wrthoch os gallwch 'apelio' yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol. Os gallwch apelio, bydd y terfyn amser o un mis yn ailddechrau o'r dyddiad sydd ar y llythyr sy'n cadarnhau'r penderfyniad. 

AR GYFER GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR

Pan fyddwch chi'n cyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' byddwn yn ystyried y mater(ion) a nodir yn eich hysbysiad a byddwn yn eich hysbysu chi'n ysgrifenedig o'r penderfyniad gyda rhesymau.

Yn dilyn y llythyr hwn os byddwch chi'n dal yn anfodlon bydd gennych chi 2 fis i apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Sylwer, gallwch chi apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru os na fyddwn ni wedi rhoi gwybod i chi ynghylch ein penderfyniad o fewn 2 fis ar ôl i chi gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor.

Brig y Tudalen

 Sut yr wyf yn apelio i'r Gwasanaeth Tribiwnlys (Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol yn unig)?

Os byddwch am apelio yn erbyn ein penderfyniad, rhaid i chi wneud hynny yn ysgrifenedig cyn pen un mis i'r dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad mwyaf diweddar atoch, h.y.

  • Llythyr y penderfyniad gwreiddiol
  • Os cwestiynoch y penderfyniad, dyddiad y llythyr a oedd yn rhoi gwybod i chi beth oedd canlyniad y cwestiyna.

Dylai'ch cais esbonio'r rhesymau pam yr ydych yn apelio.

Ar ôl i chi apelio, os na fyddwn eisoes wedi gwneud hynny, byddwn yn ailystyried ein penderfyniad.

Os na fyddwn yn newid ein penderfyniad, byddwn yn anfon ein hapêl ac esboniad o'r gyfraith a'r ffeithiau a ddefnyddiom i wneud ein penderfyniad, at y Gwasanaeth Tribiwnlys. Mae'r Gwasanaeth Tribiwnlys yn annibynnol i'r Awdurdod Lleol ac mae gan bob tribiwnlys aelod sydd â chymwysterau cyfreithiol i helpu i weithredu'r gyfraith i'ch apêl.

Hefyd, anfonir copi o bapurau'r apêl atoch (a'ch cynrychiolydd, os oes un gennych).

Brig y Tudalen

Sut yr wyf yn apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru (Gostyngiad Treth y Cyngor yn unig)?

Mae rhaid i'ch apêl gael ei gwneud yn uniongyrchol i'r Tribiwnlys Prisio Cymru (TPC) ac ddim i Cyngor Sir Ceredigion. Gallwch lawrlwytho ffurflen apêl a nodiadau cyfarwyddyd o gwefan y Tribiwnlys Prisio Cymru i helpu chi wneud eich apêl. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys taflenni arweiniad ychwanegol yn dilyn cyflwyno eich apêl.

Cyfeiriad y TPC yw: Mrs A H Smith BSc PHD FGS, Clerc y Tribiwnlys, Rhanbarth Gorllewin Cymru, Tribiwnlys Prisio Cymru, Llys y Ddraig, Parc Busnes Penllergaer, Abertawe SA4 9NX

Y mae'r TPC yn annibynnol ar yr Awdurdod Lleol a bydd yn gwneud penderfyniad ynghylch a'ch Gostyngiad Treth y cyngor mewn Gwrandawiad Tribiwnlys.

Brig y Tudalen

A allaf apelio ar ôl i'r terfyn amser o un mis ddirwyn i ben (Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol yn unig)?

Ni dderbynnir apêl a wneir y tu allan i'r terfyn amser o un mis oni bai bod amgylchiadau arbennig wedi achosi'r oedi, er enghraifft, marwolaeth, salwch difrifol, absenoldeb tramor, streic bost neu ryw amgylchiad arbennig arall. Dylech gynnwys esboniad sy'n amlinellu pam na fedroch apelio cyn pen un mis.

Os byddwn yn derbyn eich rhesymau dros fod yn hwyr, byddwn yn prosesu'r apêl yn ôl y manylion a roddir yn yr adran 'Sut yr wyf yn apelio i'r Gwasanaeth Tribiwnlys?'.

Os na fyddwn yn derbyn eich rhesymau dros fod yn hwyr, anfonir eich cais am apêl at y Gwasanaeth Tribiwnlys. Bydd aelod o'r tribiwnlys sydd â chymwysterau cyfreithiol yn ystyried y rhesymau a roddoch am beidio ag apelio mewn pryd a bydd yn penderfynu a ellir derbyn eich apêl. Bydd yn ystyried:

  • a oedd amgylchiadau arbennig am yr oedi;
  • faint o amser a aeth heibio ers i chi gael y penderfyniad;
  • a yw er budd cyfiawnder y derbynnir eich apêl;
  • ac a yw'ch apêl yn rhesymol debygol o lwyddo.

Ni all y Gwasanaeth Tribiwnlys dderbyn apêl hwyr os mai'r unig reswm yw

  • i chi gamddeall y gyfraith neu
  • y bu newid yn nehongliad y gyfraith ers i ni wneud y penderfyniad.

Ni ellir derbyn eich apêl os apeliwch 13 mis neu fwy ar ôl y dyddiad sydd ar lythyr eich penderfyniad.

Brig y Tudalen