Beth i'w wneud os ydych yn amau bod rhywun yn cyflawni twyll budd-daliadau.

Os ydych yn gwybod neu'n amau fod rhywun yn cyflawni twyll budd-daliadau, rhowch wybod os gwelwch yn dda.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau fod pobl yn derbyn eu hawl cywir o Fudd-daliadau Tai a Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a gwneir pob ymdrech i ddelio â phob cais cyn gynted â phosib.

Rhoi gwybod am dwyll Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor

Mae twyll Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (a adnabuwyd yn flaenorol fel Budd-dal y Dreth Gyngor) yn cael ei ymchwilio gan y Cyngor Sir.

Fe fyddwn yn ymchwilio'n rhagweithiol i gyhuddiadau a cheisiadau a dyfarniadau twyllodrus posib ar gyfer y canlynol:

  • Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor
  • Disgowntiau ac Eithriadau o'r Dreth Gyngor
  • Osgoi talu Ardrethi Busnes

Gellir hysbysu am amheuaeth o dwyll trwy'r ffyrdd ganlynol:

Ar-lein ar: revenues@ceredigion.gov.uk

Trwy'r post: Adran Budd-daliadau, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.

Rhoi gwybod am dwyll Budd-daliadau Tai neu Fudd-daliadau Adran Gwaith a Phensiynau

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau'n gyfrifol am ymchwilio i Dwyll Budd-daliadau Tai a gellir hysbysu am amheuaeth o dwyll trwy'r tair ffordd ganlynol:

Dros y ffôn: Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Twyll Budd-daliadau Cenedlaethol ar 0800 854 440. Fe fydd eich galwad yn gyfrinachol a does dim angen i chi roi eich enw na'ch cyfeiriad. Mae'r llinellau ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 8.00am a 6.00pm.

Ar-lein ar: www.gov.uk/report-benefit-fraud

Trwy'r post: NBFH, PO Box 224. Preston. PR1 1GP