Sgoriau Hylendid Bwyd llun 1Bydd busnesau bwyd yng Ngheredigion yn symud i'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Statudol rhwng 28 Tachwedd 2013 a 28 Mai 2015.

Daeth y Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 i rym yng Nghymru ar 28 Tachwedd 2013. Bydd pob busnes sy’n cael arolwg hylendid bwyd ar ôl y dyddiad hwn yn cael Sgôr Statudol, os ydy’n cydymffurfio ag amodau y cynllun.

Bydd busnesau sy’n berchen sticeri a thystysgrifau sy’n deillio o’r cynllun sgoriau hylendid bwyd gwirfoddol yn parhau i arddangos y rhain yn wirfoddol. Ni fydd y gyfraith yn gorfodi i fusnesau arddangos unrhyw sgoriau a gyhoeddwyd cyn 28 Tachwedd 2013.

Yn ychwanegol, gall busnesau sydd wedi derbyn sgoriau o dan y cynllun gwirfoddol barhau i allu gofyn am ail ymweliad i ail-sgorio heb orfod talu ffi.

Bydd cyfnod trosiannol o 18 mis rhwng 28 Tachwedd 2013 a 28 Mai 2015, ac ar ôl y cyfnod hwnnw bydd yr holl fusnesau a oedd wedi derbyn sgôr o dan y cynllun gwirfoddol yn derbyn sgôr o dan y cynllun statudol.

Sgoriau Hylendid Bwyd llun 2


Gwybodaeth Bellach

Gweler y daflen "Mae'n dod yn haws adnabod hylendid bwyd da yng Nghymru" sy'n cynnig gwybodaeth bellach ar sut y bydd y Cynllun statudol yn gweithio sydd yn yr adran ‘dogfennau i’w lawrlwytho’ ar y we-dudalen hon.