Mae'r Tîm Diogelwch Bwyd hefyd yn ymchwilio i gwynion bwyd gan aelodau'r cyhoedd. Mae'r dudalen hon yn esbonio beth allwn ei wneud yngl?n â bwyd sy'n anfoddhaol.

Mae'r Tîm Diogelwch Bwyd yn ymchwilio i gwynion am fwyd a brynwyd a safleoedd bwyd. Nid ydym yn ymchwilio i bob cwyn. Y Tîm Safonau Masnach sy'n delio â rhai ohonynt. Bydd y canlyniad a'r amser a dreulir i ymchwilio i g?yn yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Byddwn yn eich hysbysu yngl?n ag unrhyw wybodaeth y derbyniwn a'r camau a gymrwyd os ydyw'n briodol. Os cymrir camau cyfreithiol yna efallai y bydd rhaid i chi roi datganiad tyst a thystiolaeth mewn llys.

Cwynion Ynghylch Diogelwch Bwyd - llun 1Cwynion yngl?n â Hylendid ar Safleoedd Bwyd

Os ydych wedi cael bwyd neu ddiod ar safle yn ein hardal ac wedi cael profiad o arferion hylendid bwyd gwael, gallwn ymchwilio i'r mater ar eich rhan. Gallwn ymchwilio i bob achos o bryder a allai fod yn gysylltiedig â pheryglon diogelwch bwyd difrifol.

 

Cwynion yngl?n â bwyd a brynwyd

Os ydych wedi prynu eitem o fwyd a'ch bod yn credu nad yw'n ddiogel i'w fwyta, yna mae angen i ni weld y bwyd i weld a ydyw'n broblem y gallwn ymchwilio iddi.

Cwynion Ynghylch Diogelwch Bwyd - llun 2Gallwn ddelio â:

  • Bwyd sydd wedi achosi gwenwyn bwyd neu fwyd halogedig
  • Bwyd sy'n cynnwys pethau dieithr ee gwydr, metel, pren, pryfaid ac ati
  • Bwyd sydd wedi llwydo
  • Bwyd sydd wedi mynd heibio i'w ddyddiad bwyta

Ni allwn ddelio â:

  • Bwyd a brynwyd y tu allan i'r ardal. Byddwn yn trefnu i'r g?yn gael ei rhoi yn nwylo'r awdurdod gorfodi perthnasol
  • Cwynion yngl?n ag ansawdd bwyd ee ffrwythau a llysiau sy'n rhy aeddfed
  • Disgrifiadau ffug neu labeli bwyd a diod sy'n amhriodol. Y Tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Ceredigion sy'n delio â'r rhain
  • Ceisiadau am iawndal neu ad-daliadau. Mae hwn yn fater rhwng y prynwr a'r gwneuthurwr
  • Bwyd sydd wedi mynd heibio i'w ddyddiad 'Best Before'. Nid yw'n anghyfreithlon i werthu bwyd ar ôl ei ddyddiad 'Best Before'. Mae 'Best Before' yn golygu bod y gwneuthurwr yn gwarantu y bydd y bwyd o'r safon uchaf hyd y dyddiad hwnnw

Cwynion Ynghylch Diogelwch Bwyd - llun 3Os darganfyddwch broblem gyda bwyd neu ddiod:

  • Cadwch y bwyd
  • Cysylltwch â'r Adran cyn gynted â phosibl ar (01545 572105)
  • Cadwch bob derbynneb, label a deunydd pacio
  • Ceisiwch sicrhau bod y bwyd neu'r ddiod dan sylw yn eu cyflwr gwreiddiol
  • Storiwch fwyd byrhoedlog yn yr oergell neu'r rhewgell hyd nes y caiff ei gasglu gan ein swyddogion neu hyd nes y dewch â'r bwyd i un o swyddfeydd Ardal Cyngor Sir Ceredigion. Os ydych yn cwyno am lwydni yna gosodwch y bwyd yn yr oergell ac nid yn y rhewgell. Dylech wneud hyn oherwydd bod rhewi llwydni yn gallu lladd y llwydni.(nid yw rhewi bacteria ond yn atal y bacteria rhag tyfu, nid yw'n eu lladd). Galwch yr Adran a chewch gyngor yngl?n â beth i wneud â'r bwyd

Os ydych yn cadw unrhyw fwyd yr ydych yn cwyno amdano yn yr oergell, yna sicrhewch nad ydyw'n halogi unrhyw fwyd arall. Peidiwch â'i roi yn y bin ac yn bendant peidiwch â'i dynnu allan o'r bin oherwydd mae'r bin yn debygol o'i halogi â phob math o facteria ac ni fyddem yn gallu cymryd camau ffurfiol ar ôl unrhyw ddadansoddiad microbiolegol.

Cwynion Ynghylch Diogelwch Bwyd - llun 3Er gwybodaeth, dylai pobl fod yn ymwybodol bod gwneud cwynion ffug yngl?n â bwyd yn drosedd. Yn y gorffennol, bu achosion lle gwnaeth unigolion roi cwynion maleisus ger ein bron yn y gobaith y byddant yn derbyn iawndal. Caiff yr heddlu wybod am bob achos lle amheuir bod hyn yn digwydd.