Ysgrifennwyd y dudalen hon i rhoi cymorth i fusnesau i ysgrifennu Dadansoddiad Peryglon sy'n arbennig i'ch fusnes chi. Dilynwch y camau isod i hwyluso'r broses. Unwaith bod y camau ar gyfer un rhan o'r busness wedi ei cwbwlhau, gallwch symud ymlaen i wneud yr un camau ar gyfer pob rhan o'r busnes.


Yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol i bob busnes sydd a wnelo â bwyd sicrhau fod y bwyd a baratoir ac a werthir ganddynt yn ddiogel i'w fwyta. System Rheoli Diogelwch Bwyd ar gyfer perchenogion busnesau bwyd yw 'Dadansoddi Peryglon', i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith.

Yn gyffredinol, ystyr "dadansoddiad peryglon" yw :-

(i) Sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r hyn a allai achosi i'ch bwyd fod yn ddrwg i'w fwyta

a

(ii) Sicrhau eich bod yn atal bwyd rhag bod yn ddrwg i'w fwyta

Pe baech eisoes yn dilyn yr hyn a argymhellir yn arfer da o ran arlwyo, y tebygrwydd yw eich bod yn defnyddio egwyddorion 'dadansoddi peryglon' wrth gynnal eich busnes, heb sylweddoli hynny!


Pam dylwn i dadansoddi peryglon?

Yn ôl y Rheolau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 mae hi'n dyletswydd gyfreithiol arnoch i pobl sy'n rhedeg busnes fwyd i rhoi yn ei le, cadw a chynnal system dadansoddi peryglon sydd wedi ei seilio ar amcanion HACCP.

Rheswm arall am feddu ar ddadansoddiad peryglon ysgrifenedig yng Nghymru yw y gallai eich cynorthwyo i ennill Gwobr Glendid Bwyd Cymreig.

Manteision eraill i'ch busnes o lunio dogfen dadansoddiad peryglon yw gwella effeithiolrwydd, lleihau gwastraff a chodi ysbryd y cyflogeion. Nid yw cyfran helaeth y busnesau wedi rhoi cynnig ar lunio adroddiad hyd yn hyn. Crefft i'w meistroli yw llunio dadansoddiad peryglon, megis sawl crefft arall, a'r rhan anoddaf yn aml yw gwybod lle i ddechrau.

Paratowyd y ddogfen hon i'ch cynorthwyo chi. Defnyddir iaith syml cymaint â phosib, gan eich arwain fesul cam trwy'r broses o lunio dogfen drawiadol sy'n berthnasol i'ch busnes. Pob hwyl ichi!!


Geiriau ac ymadroddion - beth yw ei ystyr?

Defnyddiwyd iaith dechnegol cyn lleied â phosib wrth lunio'r ddogfen hon.

Serch hynny mae'n bwysig eich bod yn deall ystyr rhai ymadroddion allweddol.

Mae'r rhestr isod yn cynnwys rhai geiriau ac ymadroddion sy'n codi'n aml yn y ddogfen hon ac mewn dogfennau eraill a gyhoeddir ynglyn â'r pwnc, yn ogystal ag eglurhad o'u hystyr!!

GAIR/GEIRIAU YR YSTYR ENGHREIFFTIAU
PERYGL Rhywbeth a all achosi niwed i'r sawl sy'n bwyta'r bwyd
  • Bacteria (Germau)
  • Cemegau
  • Pethau dieithr mewn bwyd, megis gwydr, hoelion etc
  • Mae llu o rai eraill, felly byddwch â meddwl agored!!
RHEOLAETH Yr hyn a wnewch i atal y perygl rhag digwydd neu i leihau'r risg y bydd y perygl yn digwydd
  • Coginio bwyd yn drwyadl
  • Gorchuddio bwyd
  • Rhoi bwyd yn y rhewgell
PWYNT RHEOLAETH HANFODOL Y rhagofalon y mae'n rhaid ichi eu trefnu i sicrhau fod y bwyd a werthwch yn ddiogel ar gyfer ei fwyta
  • Coginio cig amrwd yn drwyadl – nid oes modd i'r cig fod yn ddiogel i'w fwyta os na wneir hynny
MONITRO Yr hyn a wnewch i sicrhau eich bod dilyn y camau rheolaethu
  • Cofnodion Tymheredd
  • Profion gweledol y cyflogeion
LLYGRU Rhywbeth estron wedi treiddio i'r bwyd neu arno
  • Bacteria
  • Cemegau
  • Pob math o bethau dieithr mewn bwyd (fe'i gelwir hefyd yn "Llygru Ffisegol")

Cychwyn eich dadansoddiad peryglon - Cam un

Y cam cyntaf yw ystyried eich busnes yn ei grynswth, a'r math o weithgareddau y byddwch a wnelo â hwy. Edrychwch ar y siartlif isod a amlygwch y blychau sy'n berthnasol i'ch busnes, a'u rhifo. Gallwch nodi'r rhifau ar eich 'taflen dadansoddiad peryglon' yn ddiweddarach.

Cychwyn eich dadansoddiad peryglon - Cam un llun


Ystyried Peryglon - Cam dau

Y peth nesaf yw gwneud yn siwr eich bod yn deallt ystyr y gair 'peryglon', ac y medrwch adnabod y peryglon a allai fod yn bresennol yn eich busnes.

Cysylltwch â swyddog yn eich Adran Diogelwch Bwyd lleol os byddwch angen cymorth cyn symud ymlaen.

Er mwyn cwblhau'r rhan hon mae angen ichi ystyried beth a allai ddigwydd, nid yr hyn y tybiwch sy'n debygol o ddigwydd. Hynny yw, ystyriwch beth allai ddigwydd yn ddamcaniaethol, hyd yn oed os ydych eisoes yn gweithredu i'w rhwystro rhag digwydd.

Mae nifer o beryglon i'w cael mewn lle arlwyo cyffredinol. Haws yw cofio fod yr holl beryglon wedi'u dosbarthu i bump categori, sef:

Categori E​​nghreifftiau
Twf Bacteria Bacteria'n tyfu ar fwyd oherwydd fod y bwyd heb ei gadw yn ôl y tymheredd cywir
Halogiad Bacterol Bacteria'n symud o fwyd amrwd i fwyd wedi'i goginio neu fwyd sy'n barod i'w fwyta – gelwir hyn yn 'groeshalogi'
Goroesiad Bacteria Bacteria sydd heb ei ladd tra bo'r bwyd yn cael ei goginio neu ei lanhau
Halogiad Cemegol Defnyddiau glanhau wedi'u cadw mewn hen gynhwyswyr bwyd, a'u defnyddio wedyn i baratoi bwyd trwy amryfusedd
Halogiad ffisegol Pinnau bawd yn syrthio o'r bwrdd archebion i ganol bwyd sy'n cael ei baratoi islaw

Dewiswch un o'r gweithgareddau sy'n berthnasol i'ch busnes a amlygwyd gennych ar y siartlif, ee coginio bwyd neu oeri bwyd.

Pa gam a ddewisoch? Nodwch y cam trwy ei ysgrifennu ar y daflen dadansoddi peryglon dan y pennawd 'Cam'.

Meddyliwch rwan pa gategori o'r peryglon uchod a allai fod yn berthnasol, a sut yn union y gallant ddigwydd. Mae'n bosibl, ac yn debygol yn aml iawn, y bydd mwy nag un o'r categorïau'n berthnasol, felly ystyriwch pob un ac ysgrifennu cymaint ag y medrwch.

Nodwch ar y daflen, yn y golofn gyntaf dan y pennawd 'Peryglon', yr hyn sy'n creu peryglon yn eich tyb chi.


Cloriannu'r rheolaethau - Cam tri

Pan fyddwch wedi nodi'r hyn a allai fynd o'i le, y cam nesaf yw ystyried beth i'w wneud i atal y perygl rhag digwydd, sef eich 'rheolaethau'.

Mae rhai pethau i'w cloriannu pan fyddwch yn ystyried eich rheolaethau :-

CATEGORI'R PERYGL

Gwnewch yn siwr fod y rheolaeth yn berthnasol, ac y bydd naill ai'n dileu'r perygl yn llwyr neu'n ei leihau nes y bo'n ddiogel.

YR HYN SY'N BOSIBL

Pwysig yw sicrhau fod eich rheolaethau'n gyraeddadwy a realistig, ac y bydd pob aelod staff yn eu deallt.

Pwysig hefyd yw eich bod chi a'r staff yn medru gweithredu'r rheolaethau angenrheidiol.

A YW'R RHEOLAETH YN HANFODOL ?

Ai hwn yw'r rheolaeth y mae'n RHAID ei weithredu i sicrhau fod y bwyd yn ddiogel?

Dyma gwestiwn pwysig iawn, a fydd o gymorth ichi flaenoriaethu'r hyn sydd dan sylw.

Un perygl, er enghraifft, yw fod bacteria mewn cig, neu arno, yn goroesi os nad yw'r cig yn cael ei goginio'n iawn. Un peth yn unig all wneud y cig yn ddiogel i'w fwyta, sef ei goginio'n drwyadl – mae hynny felly'n hanfodol o ran diogelwch bwyd.

Edrychwch rwan ar y daflen peryglon bwyd yr ydych wedi rhestru'r peryglon arni. Gyferbyn â phob perygl, yn y golofn 'Rheolaethau', nodwch y rheolaeth a weithredir gennych, ac wedyn yn y golofn nesaf, 'Rheolaethau Hanfodol', ticiwch y rheolaethau sydd, yn eich tyb chi, yn hanfodol ar gyfer diogelwch y bwyd yr ydych yn ei baratoi a'i weini.


Monitro - Cam pedwar

Mae'r dadansoddiad peryglon ar gyfer y gweithgaredd a ddewisoch yn datblygu'n dda.

Y cam nesaf yw nodi sut yr ydych am fonitro bod y rheolaethau, yn enwedig y rheolaethau hanfodol, yn cael eu gweithredu.

Mae sawl ffordd o fonitro, a dylid pennu targed i fesur yn ei erbyn os yn bosibl. Dyma enghreifftiau:

  • Taflenni cofnodi tymheredd
  • Taflenni i'r staff nodi pa bryd a gan pwy y glanhawyd gwahanol rannau'r eiddo. Gallwch wedyn gymharu'r daflen gyda'ch 'rhaglen glanhau'
  • Cadw cofnodion ynglyn â chynnal a chadw offer neu eu graddnodi (sicrhau bod y tymheredd wedi ei osod yn gywir)
  • Yr uwch swyddogion yn goruchwylio i sicrhau fod y staff yn cydymffurfio â'r safonau o ran glendid bwyd a rheolau paratoi bwyd
  • Dilyn y dyddiadau a nodir ar becynnau bwyd

I'ch cynorthwyo i gofnodi popeth pan fyddwch yn monitro'ch rheolaethau rydym wedi cynnwys dewis o daflenni cofnodi yn y bamffled 'Dogfen Dadansoddi Peryglon a Trefniant Diogelu Bwyd' ac ar y CD amgaedig. Mae modd ichi eu defnyddio a'u dyblygu yn ôl y gofyn.

Mater i chi yw pennu sut i gynnal y gwaith monitro, ond rhaid iddo fod yn addas ar gyfer y rheolaeth dan sylw.

Rhaid ichi sicrhau hefyd fod yr holl staff yn gwybod beth i'w wneud pan aiff rhywbeth o'i le – gelwir hyn yn "Ymateb i Broblem". Er enghraifft, beth yw'r hyn y disgwyliwch i'ch staff ei wneud pan welant fod tymheredd y rhewgell yn anghywir? Dylai'r hyn y dylent ei wneud fod yn glir a hawdd ei ddeallt.

Edrychwch ar eich taflen dadansoddi peryglon, a nodwch gyferbyn â phob rheolaeth, dan y pennawd 'Monitro', sut y byddwch yn monitro fod y rheolaethau'n digwydd. Nodwch fod rhaid monitro POB rheolaeth hanfodol.

Wedi gwneud hynny nodwch yn fanwl dan y pennawd "Ymateb i Broblem" yr hyn y dylai aelodau staff ei wneud pan welant fod rhywbeth o'i le.


Llongyfarchiadau ar gyrraedd y fan hon, gan ichi gwblhau rhan gyntaf cofnod ysgrifenedig system diogelwch bwyd eich busnes. Gallwch rwan roi sylw i weithgareddau eraill eich busnes; ewch yn ôl i gam un ac ailddechrau'r broses ar gyfer gweithgaredd arall, a chwblhau'r holl weithgareddau yn eu tro nes bo gennych daflenni dadansoddi peryglon ar gyfer y busnes i gyd.