Beth yw gofynion y Cynllun Statudol?

Mae dyletswydd gyfreithiol ar yr holl fusnesau bwyd sy'n derbyn sgôr hylendid bwyd ar ôl 28 Tachwedd 2013 i arddangos eu sgôr hylendid bwyd, unwaith y mae'r cyfnod apelio wedi dod i ben neu, os ydynt wedi apelio, ar ôl i benderfyniad gael ei wneud gan yr apêl.

Rhaid i’r sticer/i gael ei arddangos mewn lleoliad lle mae cwsmeriaid yn gallu ei darllen yn hawdd. Rhaid i fusnesau arddangos eu sgôr wrth bob mynedfa y gallai'r cyhoedd eu defnyddio i fynd i mewn i'r busnes.

Rhaid i weithwyr sy'n gweithio mewn busnesau bwyd fod yn ymwybodol o sgôr y busnes a rhaid iddynt hysbysu unigolyn ar lafar o'r sgôr os gofynnir iddynt wneud hynny.

Bydd y sgôr hylendid bwyd hefyd yn ymddangos ar wefan sgoriau hylendid bwyd ASB.

Beth y mae Sgôr Hylendid Bwyd yn ei olygu?

Pan mae swyddogion Awdurdod Lleol yn arolygu busnesau bwyd mae nhw eisoes yn sgorio lefelau cydymffurfio’r busnes bwyd yn erbyn tri maen prawf sy’n penderfynu ar amlder yr arolygiadau. Mae'r meini prawf hyn yn cael eu diffinio yn Atodiad 5 Cod Arfer Cyfraith Bwyd (Cymru) sef:

  • Lefel gydymffurfio (cyfredol) gyda hylendid bwyd a gweithdrefnau diogelwch (gan gynnwys arferion a gweithdrefnau trin bwyd, a rheoli tymheredd)
  • Lefel gydymffurfio (cyfredol) gyda gofynion strwythurol (gan gynnwys glendid, cynllun, cyflwr y strwythur, goleuadau, awyru, cyfleusterau ayyb), a
  • Hyder mewn gweithdrefnau rheoli/rheolaeth

Mae pob elfen yn derbyn sgôr rhifiadol yn erbyn y meini prawf perthnasol ar sail arweiniad a roddir yn y Cod. Mae sgor isel yn dynodi lefel uchel o gydymffurfio a’r gyfraith a nodir yn ystod yr arolwg.

Mae'r sgoriau rhifiadol hyn wedyn yn cael eu 'mapio' i haen berthnasol y Cynllun sgorio hylendid bwyd. Dangosir hyn isod:

Sgoriau Atodiad 5 ​ 0-15  ​20  25-30  35-40  45-50  >50​​​​​
Ffactor sgorio ychwanegol ​ Dim sgôr >5 ​Dim sgôr >10 Dim sgôr >10 Dim sgôr >15 Dim sgôr >20 ​-
Sgôr Hylendid Bwyd ​ ​5 ​4 ​3 ​2 ​1 ​0

 

Oes rhaid i bob busnes bwyd arddangos sgoriau hylendid bwyd?

Mae'r rhan fwyaf o fusnesau bwyd sy'n gwerthu bwyd i'r cwsmer terfynol yn rhan o'r cynllun ac o fis Tachwedd 2014 bwriedir cynnwys holl gynhyrchwyr bwyd. Serch hynny mae rhai categorïau busnesau bwyd sy'n darparu bwyd i'r cwsmer terfynol sydd ddim yn rhan o'r cynllun a chan hynny ni fyddant yn derbyn sgôr hylendid bwyd.

Y categorïau busnesau bwyd sydd wedi'u heithrio o'r cynllun yw;

  • Busnesau ble nad gwerthu bwyd yw prif weithgaredd y busnes a rhai sy'n trin bwydydd risg isel yn unig (e.e, y rheini sy'n sefydlog ar y silff ar dymereddau amgylchol, sydd wedi'u rhwymo neu eu pecynnu cyn mynd i mewn i'r busnes, ac sy'n parhau wedi'u rhwymo bob amser hyd nes y byddant yn cael eu cyflenwi i'r defnyddwyr) fel:
    • canolfannau i ymwelwyr a sefydliadau tebyg sy'n gwerthu tuniau o fisgedi neu nwyddau eraill wedi'u rhwymo ymhlith ystod o nwyddau eraill
    • canolfannau hamdden gyda pheiriannau gwerthu bwyd yn unig yn gwerthu diodydd neu fwydydd risg isel yn unig
    • gwerthwyr papurau newydd sy'n gwerthu melysion wedi'u pacio o flaenllaw; a
    • siopau fferyllol sy'n gwerthu melysion a/neu fwydydd iach wedi'u pacio o flaenllaw
  • Rhai eiddo domestig sy'n cael eu defnyddio fel anheddau preifat a hefyd ar gyfer gwasanaethau gofalu fel gwarchodwyr plant neu leoliadau ar gyfer gofal oedolion. Er nad yw'r cynllun sgorio yn berthnasol i'r busnesau hyn, mae dal angen iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch bwyd. Serch hynny, mae arlwywyr cartref yn rhan o'r cynllun

Pan fydd fy musnes yn cael ei sgorio, beth y byddaf yn ei dderbyn?

WPan fydd sgôr yn cael ei wobrwyo rhaid i'r busnes bwyd dderbyn:

  • hysbysiad ysgrifenedig o'u sgôr
  • datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y sgôr, gan gynnwys pan na fydd busnes wedi cyflawni 5, manylion y camau sy'n angenrheidiol i'r busnes eu cymryd cyn y gall 5 gael ei wobrwyo
  • nifer digonol o sticeri sgorio er mwyn i'r busnes allu arddangos eu sgôr ym mhob mynedfa y gallai'r cyhoedd eu defnyddio i fynd mewn i'r eiddo; a
  • manylion ar hawl apelio, ceisio ail-sgôr, yr hawl i ateb (gan gynnwys y gost), a phryd a sut y bydd y sgôr yn cael ei chyhoeddi

Rwy'n Weithredwr Busnes Bwyd. A allaf i apelio yn erbyn fy sgôr?

O dan y ddeddfwriaeth gall gweithredwr busnes bwyd apelio o fewn 21 diwrnod i dderbyn eu sgôr, ar sail un neu ddau o'r isod:

  • nid yw'r sgôr yn adlewyrchu'n gywir y safonau hylendid bwyd adeg yr arolygiad
  • na chafodd y meini prawf sgorio eu cymhwyso yn gywir wrth gynhyrchu'r sgôr hylendid bwyd

Rhaid i'r apeliadau gael eu gwneud ar y ffurflen a nodir yn y ddeddfwriaeth. Gellir ei chael trwy gysylltu â'r adran diogelwch bwyd neu gellir ei lawrlwytho o’r adran ‘dogfennau i’w lawrlwytho’ ar y we-dudalen hon.

Ar ôl ei derbyn mae gan yr Awdurdod Lleol 21 diwrnod i wneud penderfyniad ar yr apêl. Byddwch yn cael eich hysbysu yn ysgrifenedig o ganlyniad yr apêl.

A allaf i geisio ymweliad pellach i ail-sgorio'r eiddo?

O dan y ddeddfwriaeth, gall y gweithredwr busnes bwyd ddefnyddio'r ffurflen a nodir yn y ddeddfwriaeth i geisio arolygiad pellach i ail-sgorio'r busnes os:

  • oes unrhyw apêl yn erbyn y sgôr wedi'i benderfynu
  • yw'r gweithredwr wedi hysbysu'r awdurdod lleol o'r gwelliannau a wnaed i'r safonau hylendid yn yr eiddo bwyd
  • yw'r awdurdod lleol yn ei ystyried yn rhesymol arolygu o ystyried y gwelliannau y dywedir sydd wedi'u gwneud
  • yw'r sticer sgorio hylendid cyfredol yn cael ei arddangos
  • yw'r gweithredwr busnes bwyd wedi cytuno i roi mynediad i'r swyddog arolygu; ac
  • yw'r gweithredwr busnes bwyd wedi talu'r gost o ail-sgorio. Mae'r gost hon wedi'i gosod yn genedlaethol fel £180. Ni fydd ymweliad i ail-sgorio'r busnes yn cael ei wneud hyd nes bydd y ffi wedi'i thalu

Darperir y ffurflen a nodir i geisio ail-sgorio busnes yn yr adran ‘dogfennau i’w lawrlwytho’ ar y we-dudalen hon. Fel arall gellir cael gafael ar y ffurflen trwy gysylltu â'r swyddfa hon.

Os oes cais yn cael ei wneud am ymweliad pellach i ail-sgorio'r eiddo, a bod y meini prawf uchod yn cael eu bodloni, bydd yr ymweliad yn cael ei gynnal o fewn tri mis i dderbyn y cais.

A oes gennyf Hawl i Ateb?

Mae gennych 'hawl i ateb' eich sgôr a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ochr yn ochr â'ch sgôr. Bydd hyn yn galluogi i chi roi esboniad o gamau dilynol sydd wedi'u cymryd i gywiro diffyg cydymffurfiad, neu liniariad ar gyfer yr amgylchiadau adeg yr arolygiad, yn hytrach na chwyno neu feirniadu'r cynllun neu'r swyddog arolygu'.

Gallwch anfon eich sylwadau yn electronig neu yn ysgrifenedig at yr Adran hon gan ddefnyddio'r ffurflen o’r adran ‘dogfennau i’w lawrlwytho’ ar y we-dudalen hon.

Beth sy'n digwydd os yw'r busnes bwyd yn methu cydymffurfio gydag un o'r gofynion o dan y cynllun?

Os oes gan fusnes sgôr o dan y cynllun statudol a'u bod yn:

  • methu arddangos sticer sgôr hylendid bwyd dilys
  • arddangos sticer sgôr hylendid bwyd annilys
  • methu cadw sticer sgôr hylendid bwyd dilys
  • cael gwared ar feddiant o'r sgôr hylendid bwyd i unigolyn ac eithrio swyddog diogelwch bwyd awdurdodedig
  • gwrthod cais gan unigolyn i roi gwybod beth yw sgôr hylendid bwyd yr eiddo ar lafar
  • cynnig gwybodaeth gamarweiniol am sgôr hylendid bwyd eiddo pan ofynnir i ddarparu'r sgôr ar lafar
  • Newid neu ymyrryd â'r sticer sgôr hylendid bwyd

byddant yn cyflawni trosedd o dan y ddeddfwriaeth.

Gallai unigolion sy'n cyflawni troseddau o dan y ddeddfwriaeth derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig trwy swyddogion awdurdodedig o'r awdurdod lleol.

Mae hysbysiadau cosb benodedig yn rhoi cyfle i'r unigolyn dalu'r gosb o £200 o fewn 28 diwrnod (wedi'i ostwng i £150 os yw'n cael ei dalu o fewn 14 diwrnod o'i gyhoeddi).

Gallai unigolyn sydd wedi cyflawni troseddau o dan y ddeddfwriaeth, neu rwystro swyddog awdurdodedig gael ei erlyn.