Mae Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB) i Arlwywyr wedi'i ddiweddaru'n ddiweddar i ymgorffori newidiadau'r Asiantaeth Bwyd i bolisi ac yn sgil adborth derbyniwyd gan yr Asiantaeth gan swyddogion gorfodi a busnesau. Bydd busnesau sydd wedi bod yn defnyddio'r hen becynnau yn parhau i fod yn cydymffurfio â'r gyfraith ac nid oes raid iddynt newid i'r fersiwn newydd hon. Yn yr erthygl yma mae fwy o wybodaeth yngl?n â'r pecyn a dolenni cyswllt i archebu'r pecyn newydd.

Y prif beth sy'n wahanol yw'r dull diogel newydd ar dynnu cynnyrch yn ôl (withdraw) a galw cynnyrch yn ôl (recall) - sydd bellach wedi'i gynnwys yn adran 'Rheoli' y pecyn. Bydd y dull diogel newydd hwn ar gael i'w archebu'n Saesneg hefyd, mewn pecynnau o 5, a hynny'n uniongyrchol drwy gyfrwng llinell gyhoeddiadau'r ASB 0845 606 0667 neu drwy anfon e-bost at: foodstandards@ecgroup.co.uk

Mae taflenni Saesneg ychwanegol ar gyfer y dyddiaduron ar gael i awdurdodau lleol a busnesau yn uniongyrchol drwy gyfrwng llinell gyhoeddiadau'r ASB - 0845 606 0667 neu drwy anfon e-bost at: foodstandards@ecgroup.co.uk . Mae'r rhai Cymraeg ar gael ar-lein yn unig fel rhan o'r pecynnau gwreiddiol drwy'r dolenni uchod.

Os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Iechyd Bwyd ar 01545 572105.

​Mae'r atodiad SFBB ar gyfer Cartrefi Gofal wedi'i ddiweddaru hefyd i gynnwys dolen at daflen listeria a gyhoeddwyd ar 31 Gorffennaf 2008. Mae'r newid hwn wedi'i gynnwys o dan 'O ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth' yn yr adran 'Sut i ddefnyddio'r atodiad hwn' sydd ar ddechrau'r atodiad. Mae'r fersiwn Gymraeg ar gael yma:

www.food.gov.uk/cy/canllawiau-busnes/pecyn-bwyd-mwy-diogel-busnes-gwell-ar-gyfer-cartrefi-gofal-preswyl

Mae'r Asiantaeth wedi datblygu'r pecyn i Warchodwyr plant yn arbennig ar gyfer gwarchodwyr / gofalwyr plant ar safleoedd domestig sy'n darparu prydau a diod i'r plant dan eu gofal. Wrth ddatblygu'r pecyn, mae'r Asiantaeth wedi cydweithio â'r Gymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac awdurdodau lleol, yn ogystal â gwarchodwyr plant.

Datblygwyd pecyn 'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell' i warchodwyr plant i fod yn adnodd syml, ymarferol a hawdd ei ddefnyddio, heb gynnwys unrhyw jargon. O ganlyniad, mae'r pecyn yn cynnig cymorth effeithiol i ofalwyr plant i'w galluogi i gydymffurfio â'r gyfraith, heb eu llethu â gormod o waith cofnodi.

Mae'r pecyn yn darparu gwybodaeth berthnasol drwy gyfrwng dulliau diogel sy'n ymwneud â hanfodion hylendid bwyd sylfaenol, a hefyd yn cynnwys adran dyddiadur gydag adolygiad 3 mis a Thaflen weithredu er mwyn ei gwneud yn haws i gadw cofnodion.

Mae fersiwn Gymraeg y pecyn ar gael ar-lein yn unig ar hyn o bryd yn:
www.food.gov.uk/cy/canllawiau-busnes/bwyd-mwy-diogel-busnes-gwell-ar-gyfer-gwarchodwyr-plant
Gobeithiwn allu cynnig copïau papur maes o law.

Gallwch archebu copïau ychwanegol o'r pecyn yn Saesneg yn rhad ac am ddim gan EC Group drwy ffonio 0845 606 0667 neu e-bostio foodstandards@ecgroup.co.uk a dyfynnu'r cod FSA/1406/0709. Gallwch lawrlwytho copïau Cymraeg ar y ddolen a nodir uchod.