Os hoffech chi gael copi o unrhyw rysáit a gaiff ei defnyddio yn y bwydlenni cysylltwch os gwelwch yn dda â Gill Jones ar 07794 627915. Lle bynnag mae hynny'n bosibl rydym yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i'n cynhwysion yn lleol...
Rydym yn darparu ar gyfer ystod eang o ofynion deietegol arbennig ac yn cynnig dewisiadau I lysieuwyr bob dydd; mae gofynion presennol ein cwsmeriaid yn amrywio ac maent yn cynnwys gofynion fegan, coeliag, soia, halal a diabetig.
Hefyd rydym yn darparu prydau i ddisgyblion ag alergenau a/neu anoddefiadau i gynnyrch penodol. Mae gan wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd restr o 14 o alergenau:
- Glwten
- Llaeth
- Cramenogion
- Seleri
- Molysgiaid
- Mwstard
- Wyau
- Sesame
- Pysgod
- Bysedd y blaidd
- Cnau daear
- Cnau
- Ffa soia
- Sylffwr Deuocsid ar lefel uwch na 10miligram/cilogram, neu 10 miligram/litr a nodir fel SO2
Os oes gan eich plentyn ddeiet arbennig a/neu alergedd/anoddefiad i unrhyw un o’r alergenau a restrir uchod, rydym yn gofyn ichi roi gwybod i’r staff arlwyo yn yr ysgol yn syth fel y gellir trefnu a pharatoi prydau ar gyfer eich plentyn/plant.
A fyddech cystal â nodi fod yr ysgolion uwchradd yn gweithredu gwasanaeth arlwyo 'mewnol', felly, gellir cael manylion pellach drwy gysylltu â'r ysgolion yn uniongyrchol.
Mae Cinio Ysgol ar hyn o bryd yn costio £2.60 y dydd (£13 yr wythnos). Gwneir taliad am brydau ysgol gan ddefnyddio gwefan ddiogel o’r enw ParentPay, byddwch yn gallu talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cerdyn credyd/debyd. Dylid gwneud y taliadau yn wythnosol ymlaen llaw. Pan fydd eich plentyn yn dechrau’r ysgol mi fyddwch yn derbyn e-bost actifadu i greu eich cyfrif ParentPay.
A oes gan eich plentyn hawl i gael Prydau Ysgol Am Ddim?
Noder: Os oes hawl gan eich plenty i brydau ysgol am ddim, fe all pecyn bwyd cael ei darparu gan y gegin ysgol a bod eich plentyn yn cymryd rhan mewn unrhyw dripia ysgol. Fydd y gegin angen o leiaf 2 ddiwrnod o rybudd.
Manteision Prydau Bwyd Ysgol
- Gall eich plentyn fanteisio ar brydau bwyd iach a maethlon, ac arbed amser i chi oherwydd nad oes rhaid paratoi brechdanau
- Mae plant yn manteisio o eistedd i lawr a bwyta gyda'i gilydd wrth y bwrdd ac mae yna anogaeth i flasu bwydydd newydd
- Bydd eich plentyn yn datblygu arferion bwyta'n iach yn gynnar iawn a fydd, gobeithio, yn para am flynyddoedd eto i ddod
- Bydd eich plentyn yn cael 1/3 o'i anghenion maethu dyddiol drwy fwyta pryd ysgol
- Mae prydau bwyd ysgol yn gytbwys ac iach ac yn amrywio o'r naill ddiwrnod i'r llall
- Rydym yn darparu ar gyfer llysieuwyr a phob deiet arbennig ac yn rhoi ystyriaeth i anghenion maethol crefyddol a meddygol
- Gall eich plentyn ymuno mewn prydau bwyd ar themâu arbennig mewn cysylltiad â phynciau sy'n cael eu haddysgu yn y dosbarth, a hefyd, mentrau cenedlaethol
- Mae prydau ysgol yn cynnig gwerth ardderchog am arian. Gallwch brynu pryd o fwyd dau gwrs iachus a maethlon, felly, Ewch amdani!
Mae brecwast ysgol am ddim ar gael i holl blant ysgolion cynradd y Sir ac, ar hyn o bryd, mae 33 allan o 57 ysgol yn cymryd rhan yn y fenter.
Holwch yn eich ysgol am fanylion amseroedd ac ati.
Ar gael i frecwast:-
- Tost - gyda fflora taenu braster isel, jam neu farmalêd siwgr isel
- Grawnfwyd Brecwast - Rice Krispies, Porridge, Cornflakes neu Weetabix heb siwgr gyda llaeth hanner-sgim
- Sudd Ffrwythau