Os oes gennych chi bartner neu aelod o'r teulu nad ydynt yn byw yn y DU ac y maent yn gwneud cais am Fisa gan Asiantaeth Ffiniau'r DU y Swyddfa Gartref er mwyn byw yn y DU am gyfnod sy'n hirach na 6 mis, efallai y bydd angen iddynt ddarparu adroddiad archwilio eiddo fel rhan o'r cais. Mae hyn oherwydd bod angen i'r Swyddfa Gartref deimlo'n hyderus na fydd gofyn ailgartrefu unrhyw newydd-ddyfodiaid ymhellach ar ôl iddynt gyrraedd y DU.

Gallwn gynnal yr archwiliad gofynnol o'ch cartref a darparu adroddiad y bydd modd i chi ei gyflwyno gyda'ch cais. Bydd yr adroddiad yn eich helpu chi i gadarnhau na fydd y llety arfaethedig yn orlawn ar ôl ychwanegu aelodau teuluol pellach, a bydd yn nodi hefyd a oes unrhyw risgiau iechyd a diogelwch yn yr eiddo.

£160 yw'r ffi a godir am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd, a bydd angen ei dalu cyn yr archwiliad. Dim ond am 3 mis y bydd yr adroddiad yn ddilys.

Yr hyn y mae modd i chi ei wneud

Trowch at ein tudalennau am y System Sgorio Iechyd a Diogelwch Tai er mwyn cael syniad o'r hyn y byddwn yn cadw golwg amdano, a meddyliwch a oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau ymlaen llaw.

Cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at: housing@ceredigion.gov.uk neu ffonio: 01545 572105

Yr hyn y mae modd i ni ei wneud

Ymweld â'ch cartref gyda chi er mwyn ystyried a yw'r llety'n addas i aelodau teuluol pellach. Rhoi adroddiad i chi y bydd modd i chi ei ddefnyddio fel rhan o'r cais am fisa.

Os ceir pryderon ynghylch safon y llety, bydd modd i ni drafod gyda chi sut y gellir goresgyn y rhain, a gallwn ddarparu adroddiad wedi'i ddiweddaru yn rhad ac am ddim (cyn pen cyfnod o 3 mis) ar ôl rhoi sylw i faterion.