Er y cynhelir y rhan fwyaf o gladdedigaethau mewn mynwentydd neu fynwentydd eglwys pwrpasol, nid oes cyfraith yn bodoli sy'n gwahardd claddedigaethau ar dir preifat. Mae angen meddwl yn ofalus am y penderfyniad, gan ystyried sawl peth.

Beth am y trefniadau er mwyn sicrhau mynediad i'r bedd os caiff yr eiddo ei werthu yn y dyfodol? Byddai modd creu hawl mynediad ar gyfer ymweliadau â'r bedd trwy gyfrwng hawddfraint, ond efallai na fydd trefniant o'r fath wrth fodd prynwr. Pa effaith y byddai claddedigaeth neu gladdedigaethau yn ei chael ar werth yr eiddo neu'r gallu i werthu'r eiddo yn y dyfodol?

Ar ôl claddu corff, ni fydd modd tarfu arno na'i symud oddi yno heb i hynny gael ei awdurdodi, a bydd yn rhaid sicrhau trwydded er mwyn gwneud hynny. Nid oes modd gwarantu y byddai perchnogion yr eiddo yn y dyfodol caniatáu i gladdedigaeth orffwys mewn hedd ac fe allent wneud cais i'r Swyddfa Gartref am ddatgladdiad. Yn ogystal, gallai perchnogion yn y dyfodol atal mynediad i berthnasau sy'n dymuno dangos parch wrth y safle claddu.

Yn ogystal, dylech ystyried yr effaith gymdeithasol ar unrhyw gymdogion agos, yn enwedig os ydynt yn edrych allan dros eich safle chi.

Ni fydd gofyn sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer un neu ddwy gladdedigaeth, gan ei bod yn annhebygol y bydd newid defnydd o bwys. Fodd bynnag, os bwriedir gosod unrhyw gofebau ar y safle, efallai y bydd gofyn sicrhau caniatâd cynllunio. Os bydd angen unrhyw gyngor pellach arnoch, cysylltwch â thîm Rheoli Datblygiad y cyngor. Mae halogi cyflenwadau dŵr yn rhywbeth y bydd angen i chi ei ystyried. Mae canllawiau i'w dilyn sy'n gallu eich helpu i atal unrhyw halogi.

Os byddwch yn dewis trefnu claddedigaeth ar dir preifat, bydd modd i chi drefnu angladd bersonol iawn lle y byddwch chi'n gyfrifol amdani'n llwyr. Nid yw hi'n hanfodol cael trefnydd angladdau nac unrhyw un i gynnal gwasanaeth.

Yr hyn y mae modd i chi ei wneud

Ceir sawl peth y mae'n RHAID i chi eu gwneud.

Rhaid i chi gofrestru'r farwolaeth a sicrhau Tystysgrif Awdurdod ar gyfer Claddedigaeth.

  • Y cofrestriad marwolaeth yw'r cofnod ffurfiol o'r farwolaeth. Fe'i cyflawnir gan y Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau, ac mae modd i chi weld cyfeiriad y swyddfa gofrestru agosaf ar ein gwefan. Mae peidio cofrestru marwolaeth yn drosedd
  • Pan fydd rhywun yn marw yn y cartref, dylid cofrestru'r farwolaeth yn y swyddfa gofrestru ar gyfer yr ardal yr oeddent yn byw ynddi. Os buont farw mewn ysbyty neu mewn cartref nyrsio, rhaid ei chofrestru yn y swyddfa gofrestru ar gyfer yr ardal y lleolir yr ysbyty neu'r cartref nyrsio ynddi
  • Dylid cofrestru marwolaeth cyn pen pum niwrnod, ond mae modd oedi cofrestriad am naw diwrnod pellach os hysbysir y cofrestrydd o'r ffaith bod tystysgrif feddygol wedi cael ei chyhoeddi. Os adroddwyd y farwolaeth i'r crwner, ni fydd modd i chi ei chofrestru nes bydd y crwner yn gorffen ei ymchwiliadau

Rhaid i chi drefnu bod yr ymadawedig yn cael eu claddu neu'n cael eu hamlosgi neu eu bod yn cael eu cadw fel arall, neu ganiatáu i drefniadau o'r fath gael eu gwneud.

Rhaid i chi sicrhau caniatâd perchennog y tir ar gyfer claddedigaeth. Yn ogystal, rhaid i berchennog y tir sicrhau nad oes unrhyw gyfamodau cyfyngol yn gysylltiedig â gweithredoedd eiddo neu gofrestriad yr eiddo, sy'n gwahardd claddedigaethau.

Rhaid i chi sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar unrhyw gyflenwadau dŵr lleol. Fel arfer, bydd modd i chi wneud hyn trwy sicrhau bod y gladdedigaeth yn digwydd

  • O leiaf 10 metr o unrhyw ffos 'sych' neu ffos cae
  • O leiaf 30 metr o unrhyw nant neu ddŵr rhedegog neu ddŵr llonydd
  • O leiaf 250 metr o unrhyw ffynnon, twll turio neu nant sy'n cyflenwi dŵr at unrhyw ddefnydd
  • Rhaid bod gwaelod y gwagle claddu yn rhydd rhag dŵr llonydd pan gaiff ei gloddio, h.y. ei fod yn uwch na'r lefel trwythiad lleol a dylai fod o leiaf 1m o swbstrad pridd dan y gwagle, h.y. nad yw'r gladdedigaeth yn digwydd ar graig

Dylech sicrhau bod o leiaf 1 metr o ben yr arch i wyneb y pridd er mwyn atal unrhyw beth rhag tarfu ar y safle claddu.

Rhaid i berchennog y tir lle y cynhaliwyd y gladdedigaeth baratoi a chadw Cofrestr Claddedigaeth mewn man diogel, y bydd modd ei drosglwyddo i berchnogion y tir yn y dyfodol. (Deddf Cofrestru Claddedigaethau 1864). Nid yw'r Gofrestrfa Tir (er 2002) yn cadw hysbysiadau o unrhyw gladdedigaethau ar dir preifat mwyach. Mae Cofrestr Claddedigaeth yn ddogfen sy'n cofnodi manylion yr ymadawedig a'r gladdedigaeth, gan gynnwys cynllun sy'n dangos lleoliad y bedd.

Nid oes angen i chi

Ddefnyddio math penodol o arch, neu'n wir, unrhyw arch o gwbl.

Manteisio ar wasanaeth trefnwr angladdau na swyddog arall er mwyn cynnal seremoni.

Er nad oes gofyn sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer nifer gyfyngedig o gladdedigaethau, byddai rhai cofebau adeiledig yn tynnu sylw'r awdurdod cynllunio. Nid oes angen i hyn fod yn fater os ydych chi'n bwriadu plannu coeden yn unig.

Yr hyn y gallwn ei wneud

Nid oes angen i ni fod yn gysylltiedig, ond byddem yn fodlon trafod eich pryderon os ydych yn gofidio ynghylch y broses o leoli'r man claddu.