Cyfrifoldeb dros gynnal a chadw eiddo

Fel perchennog eiddo, p’un a ydych yn byw ynddo neu’n ei osod i rywun arall, mae arnoch gyfrifoldeb i gadw’r eiddo mewn cyflwr da. Mae angen cynnal a chadw’r adeilad i sicrhau ei fod yn ddiogel i’r bobl sy’n byw ynddo, i unrhyw ymwelwyr ac i unrhyw aelodau o’r cyhoedd sy’n pasio heibio.

Atgyweirio’r eiddo

Gall mynd ati i wella ac i atgyweirio’ch cartref fod yn dasg anodd iawn. Os ydych yn gwneud mwy na dim ond mân welliannau, mae bob amser yn werth ystyried gofyn i arbenigwr gyflawni’r gwaith. Gallai fod yn arbenigwr mewn maes penodol, er enghraifft peiriannydd cofrestredig sy’n gosod system wresogi neu adeiladwr profiadol sy’n gwneud gwaith adnewyddu. Fel arall, gallech ddefnyddio gwasanaeth pensaer neu asiant a fydd yn cynllunio ac yn rheoli’r gwaith gan drafod â chi. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn ymgymryd â thasg fawr, fel addasu llofft neu estyn tŷ.

Bydd angen Rheoliadau Adeiladu neu ganiatâd cynllunio ar gyfer sawl math o waith. Cewch ragor o wybodaeth am y gofynion hyn drwy ddarllen y tudalennau perthnasol. Bydd pensaer neu asiant yn gallu rhoi cyngor i chi am y rheoliadau hyn a chyflwyno unrhyw geisiadau angenrheidiol ar eich rhan.

Beth fydd yn digwydd os bydd yr eiddo’n mynd â’i ben iddo?

O dan Ddeddf Tai 2004, mae dyletswydd ar yr Awdurdod Lleol i gadw llygad ar stoc tai’r sir a lleihau effaith unrhyw beryglon i breswylwyr ac ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn drwy ymweld â thai a’u harchwilio o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai i nodi unrhyw beryglon posibl. Mae’r peryglon hyn yn cael eu gosod mewn categorïau yn ôl maint y niwed y gallent ei achosi.

Os oes unrhyw beryglon mawr (peryglon categori 1), bydd yr Awdurdod Lleol yn cymryd camau priodol i leihau’r peryglon. I gychwyn, bydd yn gwneud hyn drwy drafod â’r perchennog, ond gall yr awdurdod lleol gymryd camau cyfreithiol i orfodi’r perchennog i weithredu. Mewn rhai achosion, gall yr Awdurdod Lleol ymyrryd a chyflawni’r gwaith ei hun, gan godi tâl ar y perchennog amdano. Gall hefyd wahardd y perchennog rhag defnyddio’r eiddo.

Cymorth i wneud cais am grantiau neu fenthyciadau a chymorth i wneud gwaith atgyweirio

I gael gafael ar unrhyw grant neu fenthyciad a gynigir drwy’r Awdurdod Lleol, gallwch gysylltu â’r Asiantaeth Gwella Tai. Asiantaeth fewnol yw hon. Mae arbenigwyr technegol yn gweithio iddi ac mae’n cynnig gwasanaeth dylunio a rheoli llawn. Gall eich helpu i lenwi ffurflenni cais, mesur adeiladau, darparu cynlluniau a rhaglenni gwaith manwl, a phenodi a rheoli contractwyr.