Yn rhan olaf y cwrs, byddwch yn:

  • Dysgu am ailffurfio
  • Rheoli sialensiau cyfredol
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol a gosod rhai nodau

Newid eich ffordd o feddwl

Mae siarad â'ch hun, yn eich pen neu'n uchel, yn rhywbeth y mae nifer ohonom yn ei wneud.

Na, nid yw'n golygu eich bod yn wallgof!

Mae siarad â'ch hun yn rhywbeth normal ac mae'n beth da i'ch iechyd meddwl, os ydych chi'n cael y sgyrsiau cywir.

Weithiau, bydd ein llais mewnol yn siarad â ni mewn ffordd ddi-fudd a negyddol. Gall hyn:

  • effeithio ar ein meddyliau;
  • newid y ffordd yr ydym yn gweld pethau;
  • peri i ni deimlo'n waeth;
  • ysgogi ein hymateb ymladd neu ffoi i straen

Mae hwn yn rhywbeth y gallwch chi ddysgu ei reoli.

Mae dysgu sut i ailffurfio eich ffordd o feddwl yn hyfforddi eich ymennydd a'ch llais mewnol i stopio rhoi negeseuon di-fudd i chi.

Mae ailffurfio yn golygu ystyried sefyllfa, ystyriaeth neu deimlad o ongl wahanol.

Gall neilltuo amser i ailffurfio eich ffordd o feddwl arafu eich ymateb i straen hefyd.

Dyma rai enghreifftiau o lais mewnol di-fudd:
(Nodir y rhain ar dudalen 18 eich llyfr cofnod personol)

  • Ni fyddaf i fyth yn cael unrhyw beth yn iawn
  • Mae'n rhy anodd, dylwn i roi'r gorau iddi
  • Dylwn i fod yn well nag yr ydwyf
  • Nid oes unrhyw un yn poeni
  • Mae rhywbeth gwael yn mynd i ddigwydd

Efallai bod y meddyliau hyn yn gyfarwydd i chi. Yn ystod cyfnodau o straen, efallai eich bod wedi dweud y pethau hyn i'ch hun.

Mae'r math hwn o feddwl yn ddi-fudd; hwn yw'ch ymennydd yn eich tynnu i lawr. Mae'n eich rhwystro rhag gwella eich lles a datblygu i fod eich hunan gorau.

Gall ailffurfio meddyliau negyddol helpu i'ch tynnu yn ôl i fyny tuag at eich hunan gorau.

Er mwyn eich helpu i ddeall effeithiau meddyliau negyddol, gwyliwch y fideos byr canlynol ar YouTube (Saesneg yn unig):

Sut allwch chi ailffurfio eich ffordd o feddwl?

Efallai eich bod wedi clywed ffrind neu aelod o'r teulu yn dweud rhai o'r pethau a restrir uchod i chi.

Pe bai ffrind yn dweud unrhyw rai o'r pethau hyn i chi:

  • Beth fyddech chi'n ei ddweud wrthynt?
  • A fyddech chi'n cytuno gyda nhw?
  • A fyddech chi'n ceisio eu helpu i ystyried eu sefyllfa o ongl wahanol?

Gadewch i ni roi cynnig arno:

Dychmygwch bod ffrind neu aelod o'r teulu wedi dweud y pethau hyn i chi, beth fyddech chi'n ei ddweud wrthynt?

Gallwch ddefnyddio eich llyfr cofnodi (tudalen 18) neu ddarn o bapur i nodi'r hyn y byddech yn ei ddweud wrthynt.

Datganiad negyddol Fy ymateb
Ni fyddaf i fyth yn cael unrhyw beth yn iawn  
Mae'n rhy anodd, dylwn i roi'r gorau iddi  
Dylwn i fod yn well nag yr ydwyf  
Nid oes unrhyw un yn poeni  
Mae rhywbeth gwael yn mynd i ddigwydd  

Defnyddiwch y lle ar waelod y rhestr i roi cynnig arno gan ddefnyddio enghraifft go iawn. Meddyliwch am amser y dywedodd rhywun rhywbeth i chi, neu nodwch rywbeth negyddol a ddaeth i'ch meddwl chi, gan ymateb fel pe baech yn siarad gyda ffrind.

Gadewch i ni fwrw golwg ar eich atebion:

  • Sut wnaethoch chi?
  • Sut wnaethoch chi ymateb?
  • A wnaethoch chi gytuno gyda nhw?
  • A wnaethoch chi geisio cynnig tawelwch meddwl iddynt?
  • A ydych chi'n gallu gweld nad oes prawf bod y datganiadau hyn yn wir?
  • A ydych chi'n credu ei bod yn haws ailffurfio meddyliau rhywun arall?

Rydym wedi ychwanegu rhai enghreifftiau pellach i chi o feddwl mewn ffordd negyddol yn eich llyfr cofnod personol er mwyn i chi allu ymarfer ailffurfio.

Daliwch ati i ymarfer

Y peth i'w wneud yw dal y meddyliau negyddol pan fyddwch yn eu cael, gan addysgu eich hun i siarad yn ôl atynt.

Y tro nesaf y byddwch yn meddwl mewn ffordd negyddol, dywedwch wrth eich hun i “Stopio!

Yna, siaradwch â'ch hun. Meddyliwch, beth sy'n digwydd yma, beth sy'n peri i mi feddwl fel hyn?

Dyma rai cwestiynau i'ch helpu chi; gallwch eu gweld ar dudalen 21 eich llyfr cofnod personol:

  • A oes prawf bod yr hyn yr wyf yn ei feddwl yn wir?
  • A oes unrhyw dystiolaeth sy'n dangos i mi nad yw'r hyn yr wyf yn ei feddwl yn wir?
  • A ydw i'n beio fy hun am rywbeth nad oes gennyf unrhyw reolaeth drosto?
  • A ydw i'n defnyddio unrhyw eiriau sy'n gor-ddweud?
  • A ydw i'n ceisio darllen meddwl rhywun arall a chredu ei fod yn ffaith?
  • A oes unrhyw un o'm profiadau yn y gorffennol yn dangos i mi nad yw hyn wastad yn wir?
  • A ydw i'n anwybyddu unrhyw elfennau cadarnhaol yn y sefyllfa neu unrhyw rai o'm cryfderau?

Gallwch ddewis newid eich ffordd o feddwl, a pho fwyaf y byddwch yn ei wneud, yr hawsaf y bydd hyn.

Mae ailffurfio eich meddyliau yn helpu i arafu'ch ymateb i straen hefyd. Mae hyn yn eich llonyddu ac yn golygu eich bod yn gallu meddwl mewn ffordd fwy resymegol.

Rheoli sialensiau presennol

Mae meddu ar ddealltwriaeth o'n sialensiau yn caniatáu i ni eu rheoli mewn ffordd well ac i reoli'r canlyniadau.

Chi sy'n rheoli'r ffordd y byddwch yn ymateb i'r hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas a chi sy'n gyfrifol am ddatblygu i fod eich hunan gorau.

Gall cymryd rheolaeth a gwneud newidiadau bychain effeithio ar y ffordd yr ydych yn teimlo, ac yn ei dro, gall wella eich lles.

Rydych chi bron ar ddiwedd y cwrs, felly mae nawr yn amser da i ddwyn popeth ynghyd a rhoi cynnig ar yr hyn yr ydych chi wedi'i ddysgu.

Cyn i chi wneud hyn, gadewch i ni fynd dros yr hyn yr ydych chi wedi'i ddysgu hyd yn hyn.

Yn ystod y cwrs, rydych chi wedi dysgu:

  • Yr hyn y mae lles yn ei olygu i chi a pham ei fod yn bwysig.
  • Beth yw cydnerthedd a sut y mae'n cryfhau wrth i ni ddysgu o sialensiau bywyd.
  • Beth yw straen, sut mae'n effeithio ar eich corff a sut y gall effeithio ar y bobl o'ch cwmpas.
  • Ffordd gadarnhaol o ystyried eich iechyd a'ch lles.
  • Am eich hunan gorau a sut i ddefnyddio graddfa i'ch helpu i atgyfnerthu.
  • Mae gennych chi 'offerynnau' y gallwch eu defnyddio i ostwng lefel y straen yr ydych yn ei deimlo.
  • Sut y gall ailffurfio eich ffordd o feddwl helpu i wella'ch lles

Os byddwch yn dwyn yr holl wersi hyn ynghyd, yn eich bywyd dyddiol, gallwch weithio trwy unrhyw beth!

Gadewch i ni roi cynnig arno…

Ar gyfer y gweithgarwch nesaf hwn, bydd angen darn o bapur arnoch, neu gallwch ddefnyddio eich llyfr cofnod personol (tudalen 22).

Tynnwch 3 colofn ac ysgrifennwch y canlynol ar frig pob colofn:

  • Sialensiau
  • Yr hyn y mae angen iddo ddigwydd
  • Pam ei fod yn bwysig

Yn y golofn gyntaf, dan y pennawd Sialensiau, nodwch y sialensiau yr ydych yn eu hwynebu yn eich bywyd nawr. Efallai y bydd yn helpu i fynd trwy un sialens ar y tro.

Yn yr ail golofn, dan y pennawd Yr Hyn y mae Angen Iddo Ddigwydd, nodwch yr hyn yr ydych yn credu bod angen iddo ddigwydd ar gyfer pob sialens.  Defnyddiwch yr hyn yr ydych chi wedi'i ddysgu yn ystod y cwrs i'ch helpu:

  • Beth fyddai'n ei wneud yn haws i chi ei reoli?
  • A oes unrhyw offerynnau y gallwch eu defnyddio? A oes rhywun neu rywbeth sy'n gallu helpu?
  • Beth allwch chi ei wneud i wella pethau nawr?
  • Ceisiwch ailffurfio; beth fyddech chi'n ei ddweud wrth ffrind i'w wneud?

Yn y drydedd golofn, dan y pennawd Pam ei bod yn Bwysig, nodwch y rhesymau pam ei bod yn bwysig i chi weithio trwyddo:

  • Pam ydych chi'n poeni?
  • A ydych chi'n poeni am yr hyn a fydd yn digwydd?

Mae darganfod ystyr yn ystod sialensiau bywyd yn bwysig;  mae'n rhoi diben i chi ac ymdeimlad o reolaeth. Os na fyddwch yn poeni neu os na fyddwch yn gallu darganfod ystyr, nid oes pwynt ac rydych mewn perygl o roi eich hun dan fwy o straen. Gall ystyried pam bod rhywbeth yn bwysig eich helpu i benderfynu ar y camau y mae angen i chi eu cymryd nesaf.

Gallwch weithio trwy'r broses hon a gall y cwestiynau hyn eich helpu i oresgyn unrhyw sialens yr ydych yn ei hwynebu. Mae gwneud hyn yn gallu eich helpu i baratoi ar gyfer yr un sialensiau, os byddant yn digwydd eto, a gallwch ddefnyddio'r hyn yr ydych chi wedi'i ddysgu i oresgyn sialensiau newydd.

Cynllunio ar gyfer y dyfodol a nodau yn y dyfodol

Yn ystod y cwrs, roeddech chi wedi pennu 3 nod ar gyfer eich hun.

  • A ydych chi wedi llwyddo i'w cyflawni?
  • A ydych chi'n gweithio ar unrhyw rai ohonynt o hyd?
  • A yw eich lles wedi gwella trwy gadw atynt?

Byddwch yn garedig i'ch hun!

Os ydych chi wedi ei chael hi'n anodd cadw at eich nodau, ceisiwch eu newid er mwyn eu gwneud yn haws i chi. Dechreuwch gyda rhywbeth bach, a gallwch wastad weithio eich ffordd i fyny tuag at nodau mwy.

Mae gosod nodau bychain ar gyfer eich hun a fydd yn gwella eich lles yn bwysig.  Gall eich cymell a chynnig diben i chi, gan eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich bywyd.

Ni ddylech wneud bywyd yn anos nag y mae angen iddo fod

Os oes unrhyw beth y gallwn fod yn siŵr amdano, bydd bywyd yn mynd yn ei flaen a bydd y sialensiau yn parhau i godi!

Gall ystyried eich sefyllfa yn rheolaidd a chadw golwg ar eich nodau eich cymell a'ch helpu i baratoi ar gyfer sialensiau yn y dyfodol.

Er mwyn helpu i'ch cadw ar y trywydd iawn, ceir rhai taflenni gwaith 'dal i fyny wythnosol' yng nghefn eich llyfr cofnod personol. Mae modd lawrlwytho'r taflenni gwaith yn unigol hefyd neu gallwch wneud eich rhai eich hun.

Gallwch ddefnyddio'r taflenni gwaith hyn i:

  • gadw golwg ar eich nodau;
  • gweithio trwy sialensiau;
  • adnabod rhannau da eich bywyd;
  • anelu at eich hunan gorau

Dylech barhau i ymarfer y sgiliau yr ydych chi wedi'u dysgu

Bob tro y byddwch yn teimlo eich hun yn cael eich tynnu i lawr yn is ar eich graddfa, byddwch yn gallu defnyddio eich sgiliau a'ch offerynnau yn haws.

Po fwyaf y byddwch yn ymarfer, byddwch wedi paratoi'n well a byddwch yn atgyfnerthu ar y trywydd i fod eich hunan gorau unwaith eto yn gyflymach.

Rydych chi wedi cyrraedd diwedd y cwrs.

Da iawn am ddal ati ac am gyrraedd diwedd y cwrs.

Nid yw newid hen arferion yn rhywbeth hawdd.  Mae unrhyw newidiadau cadarnhaol y gallwch eu gwneud i wella'ch cydnerthedd a'ch lles, waeth pa mor fach ydynt, yn gyflawniad mawr.

Mawr obeithiwn eich bod wedi mwynhau'r cwrs a'ch bod wedi gallu gwneud y newidiadau y mae angen i chi eu gwneud, er mwyn gofalu am eich lles.

Mae'r pecyn cymorth ar-lein hwn yn fersiwn byr o'r cwrs hyfforddiant Cydnerthedd a Lles Gofalwyr, sydd ar gael i'r holl ofalwyr di-dâl yng Ngheredigion. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu hyfforddiant am ddim, ar-lein neu yn gorfforol, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Cymunedol a Gofalwyr i gael gwybod pryd fydd y cwrs hyfforddiant nesaf ar gael. 01545 574200 neu anfonwch e-bost at cysylltu@ceredigion.gov.uk.

Rydym eisiau clywed eich barn chi am y cwrs. Os gwelwch yn dda, cymerwch ychydig o funudau i rannu eich adborth â ni. Bydd hyn yn ein helpu i wella’r cwrs a’i gwneud hi’n haws i ofalwyr eraill gael mynediad ato. Bydd yr holiadur yn cymryd tua 5 – 10 munud i’w gwblhau.

Holiadur

Ariennir y rhaglen hyfforddi Cydnerthedd a Llesiant Gofalwyr gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru ac fe'i datblygir gan Dîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyfforddiant Cydnerthedd a Llesiant Gofalwyr neu'r pecyn cymorth a deunyddiau ar-lein, cysylltwch â'r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol cysylltu@ceredigion.gov.uk.