Mae gennym oll fersiwn o'n hunain yr ydym yn ei ddychmygu fel ni ar ein gorau. Rydym yn galw hyn ein 'hunan gorau'. Yn debyg iawn i'r ffordd yr ydym yn meddwl am ein lles, bydd gan bob un ohonom wahanol syniad am yr hyn sy'n cyfateb â'n hunan gorau.

Yn rhan 3, byddwch yn:

  • Darganfod eich ‘hunan gorau’
  • Dysgu am eich graddfa hunan gorau
  • Gosod rhai nodau er mwyn gwella eich lles

Beth yw eich 'Hunan Gorau'?

Beth mae'n ei olygu i fod eich hunan gorau?

Sut ydych chi'n gwybod beth yw eich gorau ac a ydych chi hyd yn oed ar y trywydd iawn?

Mae pawb yn wahanol.  Mae gennym oll ein fersiwn ein hunain o'n hunan gorau a byddai pob un ohonom yn ateb y cwestiynau hyn mewn ffordd wahanol.

Ni fydd eich hunan gorau chi fyth yr un fath ag un unrhyw un arall.  Mae'n unigryw i chi.  Ceisiwch beidio cymharu eich hun gydag eraill neu gopïo'r hyn sy'n cyfateb â hunan gorau rhywun arall yn eich barn chi.  Nid yw'n gweithio ac ni fydd yn peri i chi deimlo'n dda.

Cofiwch hyn:

  • Mae gennym oll ein taith ein hunain mewn bywyd, gyda'n sialensiau, ein sgiliau a'n talentau ein hunain
  • Pan fyddwch yn ceisio disgrifio eich hunan gorau chi, chi sy'n rheoli hyn a chi sy'n cael dewis yr hyn y mae'n ei olygu i chi
  • Bydd eich diffiniad o'ch hunan gorau yn newid gydag amser.  Trwy gydol eich taith bywyd, bydd eich uchelgais, eich cyflawniadau a'ch nodau yn newid wrth i chi ddysgu mwy am eich hun.  Wrth i chi dyfu, bydd eich hunan gorau yn tyfu hefyd

Rhowch gynnig arno... neilltuwch ychydig amser i feddwl am a disgrifio eich hunan gorau.

Pan fyddwch chi eich hunan gorau:

  • Sut ydych chi'n teimlo?
  • Beth sydd ar eich meddwl chi?
  • Sut ydych chi'n ymddwyn?

Ceisiwch gynnwys cymaint o fanylder ag y gallwch, bydd hyn yn ei gwneud yn haws i chi ddychmygu eich hun ar eich gorau.

Er mwyn eich helpu i wneud hyn, ceisiwch ei ysgrifennu.  Mae lle yn eich llyfr cofnodi personol i wneud hyn (tudalen 2), neu gallwch ddefnyddio darn o bapur a phen ysgrifennu.

Dyma rai enghreifftiau byr y mae pobl eraill wedi eu defnyddio i ddisgrifio eu hunain gorau.

Gan bod gennych chi syniad nawr o bwy ydych chi pan fyddwch eich hunan gorau, gadewch i ni weld pwy ydych chi pan na fyddwch yn teimlo gystal.

Graddfa Hunan Gorau

Mae'n annhebygol y byddwch yn teimlo eich hunan gorau drwy'r amser, ond gallwch anelu i fod eich hunan gorau pryd bynnag y gallwch.

Pan fyddwn dan straen neu'n teimlo'n isel, nid yw hi wastad yn hawdd bod ein hunan gorau neu deimlo fel ein bod yn gallu bod ein hunan gorau.

Nid yw ein hymennydd yn ei gwneud yn hawdd i ni, yn enwedig os byddwn yn mynd i fodd ymladd neu ffoi, ac ni allwn gael y rhan o'n hymennydd sy'n meddwl i weithio. Pan fyddwn dan straen cyson, rydym yn fwy tebygol o ddilyn yr un patrymau o ymddygiad di-fudd, sy'n ei gwneud yn fwy anodd i ni fod ar ein gorau.

Y newyddion da yw y gallwn edrych am ffyrdd i'n helpu i ddychwelyd i'n hunan gorau.  Trwy ymarfer, a hyd yn oed os byddwn yn ei wneud un cam ar y tro, byddwn yn gwella a byddwn yn dod yn fwy cydnerth.

Er mwyn helpu i'w gwneud yn haws i weithio tuag at fod ein hunan gorau, gallwn feddwl am les fel graddfa symudol a gallwn ei rhannu yn gamau.

Y raddfa symudol:

Ar y raddfa symudol, 'hunan gorau' yw'r gorau y gallwch chi fod a'r 'pwynt isaf' yw'r isaf y gallwch chi fod.  Meddyliwch sut ydych chi'n teimlo'n nawr.  Ble ydych chi ar y raddfa?

Gallai'r lliwiau goleuadau traffig eich helpu i feddwl am y man lle'r ydych ar y raddfa hefyd.

Gallwch ddefnyddio'r raddfa i'ch helpu i symud tuag at eich hunan gorau.  Yr unig beth y mae angen ei wneud yw ymarfer ychydig.

Gadewch i ni roi cynnig arno…

Gan ddefnyddio eich llyfr cofnodi personol (tudalen 2), neu ddarn o bapur, disgrifiwch pwy ydych chi ar y pwyntiau canlynol ar y raddfa:

Hunan Gorau

Disgrifiwch eich hunan gorau

Os ydych chi eisoes wedi nodi rhywbeth, ceisiwch ymhelaethu arno.

  • Sut ydych chi'n teimlo?
  • Sut ydych chi'n ymddwyn?
  • Beth ydych chi'n meddwl amdano?
  • Sut mae eich corff yn teimlo?

Pwynt Isaf

Disgrifiwch eich pwynt isaf

Unwaith eto, ceisiwch ateb y cwestiynau hyn:

  • Sut ydych chi'n teimlo?
  • Sut ydych chi'n ymddwyn?
  • Beth ydych chi'n meddwl amdano?
  • Sut mae eich corff yn teimlo?

A oedd hi'n haws disgrifio eich hunan gorau neu'ch pwynt isaf?  Ar y cyfan, mae pobl yn dweud ei bod yn haws disgrifio'r pwynt isaf.

Man Canol

Nawr disgrifiwch eich man canol

  • Sut ydych chi'n teimlo?
  • Sut ydych chi'n ymddwyn?
  • Beth ydych chi'n meddwl amdano?
  • Sut mae eich corff yn teimlo?

Efallai y bydd hi'n cymryd ychydig amser i chi feddwl am y ffordd yr ydych chi'n teimlo wrth bob pwynt ar y raddfa a bydd gofyn i chi ymarfer er mwyn ymgyfarwyddo â meddwl am eich hun fel hyn.  Trwy gydol yr wythnos nesaf, pan fyddwch yn teimlo eich bod yn dechrau teimlo dan straen, neilltuwch amser i stopio, cymryd anadl a holi eich hun 'Beth sy'n digwydd?  Sut ydw i'n teimlo?  Ble ydw i ar y raddfa?  A oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i'w wella?

Efallai y byddwch hyd yn oed yn dymuno ystyried pwy ydych chi yn y mannau rhwng y pwynt isaf, y man canol a'ch hunan gorau, wrth i'r lliw newid.  Er mwyn eich helpu i wneud hyn, rydym wedi rhannu'r raddfa yn fwy o adrannau, y byddwch yn eu gweld yn eich llyfr cofnodi (tudalennau 6 a 7). 

Rydych chi bron wedi cyrraedd diwedd rhan 3, ond cyn symud ymlaen i rhan 4, rydym yn awgrymu eich bod yn ceisio llenwi cymaint o'ch graddfa, rhwng eich pwynt isaf a'ch hunan gorau, ag y gallwch.

Pam ddylwn i wneud hyn?

Gall defnyddio'r raddfa er mwyn gwneud synnwyr o'r ffordd yr ydych chi'n teimlo eich helpu i darfu ar eich ymateb ymladd neu ffoi.

Pan fyddwch yn teimlo'n isel neu dan ychydig straen, po fwyaf y byddwch yn ymarfer tarfu ar eich ymennydd negyddol a'i atal rhag eich tynnu i lawr ymhellach ar eich graddfa, yr hawsaf y bydd hi i ddefnyddio eich ymennydd meddwl.  Mae angen i chi fod yn gallu defnyddio rhan meddwl eich ymennydd i wneud synnwyr o'ch meddyliau a gwneud penderfyniadau am yr hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn gwella pethau.

Gosod rhai nodau

Mae nawr yn amser da i osod rhai nodau i'ch hun a fydd yn eich helpu i:

  • roi hwb i'ch lles;
  • tynnu eich hun i fyny'r raddfa i'ch hunan gorau;
  • bod yn fwy caredig i'ch hun

Dylech osod 3 nod ar gyfer eich hun a fydd yn eich helpu i wneud hyn yn eich barn chi. Gallant fod mor fawr neu fach ag yr ydych yn dymuno iddynt fod.  Sicrhewch bod modd eu rheoli a'u bod o fewn cyrraedd, neu byddwch yn paratoi i fethu cyn i chi hyd yn oed gychwyn!

Ysgrifennwch eich nodau ar ddarn o bapur.  Mae lle yn eich lyfr cofnodi personol (tudalen 8) i nodi eich nodau, ond efallai y byddwch yn dymuno eu rhoi ar eich oergell neu eu cadw wrth ymyl eich gwely.  Cadwch eich nodau rywle lle y byddwch yn eu gweld yn aml fel nodyn atgoffa.

Eich nodau chi yw'r rhain a'ch ymrwymiad i ofalu am eich hun.

Dyma rai enghreifftiau o nodau a bennwyd gan ofalwyr eraill:

Rhan 3 crynodeb

Yn y rhan hon, rydych chi wedi:

  • Darganfod eich 'hunan gorau'
  • Dysgu am y raddfa hunan gorau
  • Gosod 3 nod a fydd yn gwella eich lles

Rydym yn awgrymu y dylech adael o leiaf wythnos cyn symud ymlaen i rhan 4.  Bydd hyn yn rhoi amser i chi ddod i adnabod eich graddfa ychydig yn well ac i nodi rhai nodau i'ch hun.