Yn y rhan hwn, byddwch yn dysgu am:

  • Beth yw straen a sut y mae'n effeithio ar eich corff
  • Gwahanol ffordd o ystyried eich iechyd a'ch lles

Beth yw straen?

Gall straen fod yn beth da ac yn beth gwael.

Credwch neu beidio, gall ychydig straen fod yn beth da.

Miloedd o flynyddoedd yn ôl, roedd y ffordd yr oedd ein hymennydd a'n corff yn ymateb i straen neu berygl yn hanfodol er mwyn i ni oroesi, ac weithiau, gelwir yr ymateb hwn yr ymateb ymladd neu ffoi.

Defnyddir yr ymateb ymladd neu ffoi i ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd y tu mewn i ni pan fydd ein hymennydd yn synhwyro perygl.

Pan fydd ein hymennydd yn gweld perygl, bydd y rhan hynaf a mwyaf cyntefig yn tanio, gan ddweud wrthym yn gyflym i redeg i ffwrdd neu i ymladd yn erbyn y perygl.

Efallai eich bod wedi clywed am ymateb ymladd, ffoi, rhewi, mynd yn llipa hefyd, ac mae hyn yr un fath, ond fel y mae'n awgrymu, ceir 2 ymateb posibl arall:

  • Rhewi – efallai y byddwch yn tynhau eich corff ac yn rhewi yn y fan a'r lle
  • Mynd yn llipa – mae hwn yn debyg i rewi, ond bydd eich corff yn mynd yn llipa

Bydd yr ymatebion hyn yn digwydd yn awtomatig, cyn y bydd rhan modern ein hymennydd sy'n meddwl yn gallu penderfynu a ydym mewn perygl neu beidio.

A cartoon of a caveman running away from a tiger

Roedd ymateb ymladd neu ffoi yn ddefnyddiol iawn i'n cyndeidiau. Roedd yn rhaid iddynt ddibynnu arno i ffoi rhag perygl go iawn mewn sefyllfaoedd o fywyd a marwolaeth, megis rhedeg i ffwrdd wrth deigr ysgithrog crac!

Heddiw, rydym yn ei ddefnyddio i gadw ein hunain yn ddiogel o hyd, ond bydd pob math o bethau nad ydynt yn fygythiad i'n bywyd mewn gwirionedd yn ysgogi'r ymateb hefyd. Mae ein cyrff yn ymateb yn yr un ffordd ag yr arferai ei wneud yr holl flynyddoedd yn ôl.

Rydym yn wynebu pob math o straen, bob dydd:

  • Gofalu am rywun
  • Mynd i'r gwaith
  • Terfynau amser yn y gwaith
  • Cael y plant i'r ysgol
  • Cael y plant gartref o'r ysgol
  • Pryderon ariannol
  • Arholiadau
  • Perthnasoedd yn chwalu
  • Gyrru
  • Symud tŷ
  • Mynd ar wyliau
  • Mae'r rhestr yn ddiddiwedd...

 

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng straen da a straen drwg?

Gydag amser, os byddwch yn dioddef gormod o straen gwael, gall waethygu a throi i fod yn straen gwenwynig.

Dyma fideo byr ar YouTube sy'n esbonio effeithiau straen ar ein hymennydd (Saesneg yn unig)

“Mae gwybodaeth yn cynnig grim” – Syr Francis Bacon, 1597
“Arfog a gaffo rybudd” – Abraham Tucker, 1768

Gall deall yr hyn sy'n digwydd yn eich ymennydd a'ch corff eich helpu i wneud synnwyr o sefyllfaoedd a pharatoi ar gyfer pethau gwael neu a fydd yn peri straen, pan fyddant yn digwydd.

Mae'n eich helpu i wybod hefyd yr hyn sy'n rhoi straen arnoch, fel y gallwch gynllunio a bod yn barod am y tro nesaf y bydd yn digwydd.

Gofynnom i ofalwyr nodi'r hyn a oedd yn rhoi'r straen mwyaf arnynt, gwyliwch y fideo i glywed yr hyn a ddywedont:

Neilltuwch ychydig amser i feddwl am yr hyn sy'n peri i chi deimlo dan straen, nodwch hwn ar bapur os yw'n helpu. Gallwch ddefnyddio eich llyfr cofnod personol i wneud nodiadau (tudalen 1).

Byddwn yn ystyried y pethau hyn sy'n achosi straen unwaith eto yn rhan 4, pan fyddwch yn ystyried ffyrdd o reoli straen.

Ffordd wahanol o feddwl am eich iechyd a'ch lles

Meddwl cyffredin – arhoswch nes i chi fod yn dost neu nes i bethau fynd o le cyn i chi ei drwsio

Trwy gydol ein bywydau, bydd cyfnodau pan fydd ein hiechyd yn dda a chyfnodau pan fydd ein hiechyd yn wael.

Pan fydd ein hiechyd yn dda a phan fyddwn yn teimlo'n dda, ni fyddwn yn meddwl rhyw lawer am yr amseroedd gwael.  Fel arfer, byddwn yn aros i rywbeth fynd o'i le, yna byddwn yn mynd at y meddyg ac yn gofyn iddynt ein gwella.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai'r unig adeg y gallwn fod yn iach ac yn hapus yw os ydym yn iawn a heb unrhyw beth o'i le arnom:

  • dim salwch nac afiechyd
  • dim straen
  • dim anawsterau annisgwyl

Meddyliwch yn ôl i'r lluniau 'eich cynllun' yn erbyn 'realiti' y buom yn eu hystyried yn gynharach.

Nid yw meddwl fel hyn yn realistig ac mae'n arwain atom yn cael ein siomi.

Mewn gwirionedd, mae bywyd yn llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, cyfnodau o iechyd da ac iechyd gwael.

Byddwch yn falch i glywed, os byddwn yn derbyn y realiti hyn mewn bywyd, bod ffordd wahanol i ni feddwl am ein hiechyd, sy'n fwy realistig ac sy'n gallu gwella ein lles ar yr un pryd.

Safbwynt gwahanol – canolbwyntio ar y pethau sy'n cynorthwyo ein hiechyd a'n lles

Meddyliwch am eich iechyd fel graddfa symudol ac rydych yn symud i fyny ac i lawr y raddfa yn gyson, rhwng iechyd da ac iechyd gwael, a gallwch fod ar unrhyw bwynt yn y canol.

Os byddwn yn derbyn y canlynol am ein bywydau:

  • y byddwn yn cael cyfnodau o iechyd da a chyfnodau o iechyd gwael neu hyd yn oed ychydig o'r ddau;
  • y byddwn yn wynebu sialensiau;
  • ac y byddwn yn gorfod wynebu rhwystrau na allwn eu rheoli

Gallwn baratoi am y cyfnodau gwael a hyd yn oed dysgu sut i fyw'n dda gydag iechyd gwael.

Trwy ganolbwyntio ar fyw'n dda, er gwaethaf sialensiau bywyd, gallwch wella eich lles cyffredinol, rhoi hwb i'ch cydnerthedd a rheoli eich realiti.

Man cycling over the hill, in the rain, holding an umbrella

Rhan 2 crynodeb

Yn y rhan hon, dysgoch chi am:

  • Straen a sut y mae'n effeithio ar eich corff
  • Ffordd wahanol o ystyried eich iechyd a'ch lles

Yn y rhannau canlynol, byddwn yn ystyried ffyrdd o'ch helpu i ganolbwyntio ar eich lles, a sut y gallwch chi, trwy ymarfer, baratoi eich hun yn well i ddelio gyda sialensiau bywyd.