Yn y rhan hwn, byddwch yn dysgu am:

  • Yr hyn y mae lles yn ei olygu i chi
  • Yr hyn y mae cydnerthedd yn ei olygu a pham ei bod yn bwysig ei gael

Gadewch i ni ddechrau gyda chwestiwn pwysig: Beth mae lles yn ei olygu i chi?

  • Mae lles yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb, ond gan amlaf, mae'n golygu bod yn gyffyrddus, yn iach, neu'n hapus
  • Treuliwch ychydig amser yn meddwl am yr hyn y mae lles yn ei olygu i chi...os yw hynny'n helpu, gallwch ei nodi ar bapur.  Gallwch ddefnyddio eich llyfr cofnod personol i wneud nodiadau (tudalen 1)
  • Gall lles gynnwys pethau fel eich teimladau, lle, gweithgarwch, pobl neu hyd yn oed hoff amser o'r flwyddyn
  • Nid oes ateb cywir, gwyliwch y fideo byr hwn i ddarganfod yr hyn a ddywedodd gofalwyr eraill
  • Mae'ch lles yn bwysig gan ein bod i gyd yn haeddu bod yn gyffyrddus, yn iach ac yn hapus.  Trwy wneud y pethau yr ydym yn eu hoffi fwyaf neu fod yng nghwmni'r bobl yr ydym yn eu caru fwyaf, gallwn wella ein lles cyffredinol

Rydym yn gwybod ei bod hi'n bwysig gofalu am ein lles, ond a wyddoch chi ei bod yr un mor bwysig cael cydnerthedd?

Eich cynllun yn erbyn realiti

Byddai pob un ohonom yn dymuno i fywyd fod yn daith esmwyth, heb unrhyw ddarnau garw mawr yn y ffordd.

Fodd bynnag, nid yw realiti fel hynny, ac weithiau, bydd pantiau a rhwystrau mawr yn ein rhwystro.

Weithiau, gall gofalu am rywun olygu bod eich taith bywyd ychydig yn fwy anodd, a'i bod ychydig yn fwy anodd goresgyn y rhwystrau.

Os byddwn yn gofalu am ein lles ac os byddwn yn gydnerth, bydd y rhwystrau yn haws i'w hwynebu a gallwn adfer yn gyflymach.

Felly, beth yw cydnerthedd a pham bod cydnerthedd yn bwysig?

Pan fyddwn yn sôn bod rhywun yn gydnerth, byddwn fel arfer yn golygu eu bod yn gallu bod yn gryf unwaith eto ar ôl i rywbeth gwael ddigwydd, yna byddant yn parhau gyda'u bywyd.

Mae cael cydnerthedd yn bwysig gan bod anawsterau a sialensiau sy'n ein blino ac sy'n dysgu gwersi i ni yn rhan fawr o'n bywydau.  Os ydym yn gydnerth, gallwn ddysgu o'r gwersi hynny a chael ystyr ohonynt.

Mae cydnerthedd yn cryfhau gydag amser ac wrth ymarfer.  Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddarganfod ffyrdd o wella eich gallu i fod yn gydnerth!

Gallwch weld nifer fawr o fideos da ar-lein sy'n esbonio pwysigrwydd cydnerthedd, ac mae hon yn enghraifft dda: Brains: Journey to resilience (Saesneg yn unig)

Rhan 1 crynodeb

Yn y rhan hon, rydych chi wedi dysgu:

  • Yr hyn y mae lles yn ei olygu i chi
  • Ystyr cydnerthedd a pham ei bod mor bwysig ei gael

Gan eich bod yn deall yr hyn y mae'ch lles yn ei olygu i chi nawr a'r hyn y byddwn yn ei olygu pan fyddwn yn defnyddio'r term cydnerthedd, gadewch i ni ddechrau ar rhan 2 - Deall Straen.