Rydym yn awgrymu eich bod yn cwblhau'r gweithgareddau yn rhan 4 dros ychydig ddyddiau er mwyn cael y budd mwyaf ohonynt.

Yn y rhan hon, byddwch yn:

  • Gweithio ar eich graddfa hunan gorau
  • Ystyried effaith straen arnoch chi a'r bobl o'ch cwmpas
  • Darganfod ffyrdd o reoli eich straen

Graddfa fy hunan gorau

Y gobaith yw eich bod wedi bod yn gweithio ar eich graddfa hunan gorau, gan ddod i wybod sut y byddwch yn teimlo ar y gwahanol bwyntiau ar y raddfa.

Ni ddylech ofidio os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ysgrifennu am eich teimladau.  Byddwn yn ystyried gwahanol ffyrdd y gallwch chi lunio eich graddfa eich hun, fel ei bod yn gweithio i chi.

Ble ydych chi ar y raddfa heddiw?

I ddechrau, stopiwch a neilltuwch funud i feddwl am y man lle'r ydych ar eich graddfa hunan gorau, nawr.

  • A yw wedi newid yn ystod y dydd?
  • A yw wedi gwaethygu neu a yw wedi gwella?
  • Os ydych chi'n teimlo unrhyw beth yn llai na'ch hunan gorau, a ydych chi'n gallu meddwl am unrhyw beth a fydd yn eich helpu i symud tuag at eich hunan gorau?

Mae'n bosibl profi ystod lawn o bwyntiau ar y raddfa mewn un diwrnod yn unig!

Sut all hyn ddigwyddPwynt isel?

Ceisiwch ddefnyddio gwahanol ffyrdd i ddisgrifio eich graddfa

Gallai defnyddio geiriau i ddisgrifio eich hun ar y gwahanol bwyntiau ar y raddfa fod yn anodd.  Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn ei chael hi'n haws deall neu adnabod eich meddyliau a'ch teimladau trwy gyfrwng lluniau, synau neu arogleuon hyd yn oed.

Gall defnyddio gwahanol ddeunyddiau, yr ydych chi'n teimlo'n fwy cyffyrddus gyda nhw, eich helpu i ddod i adnabod eich hun trwy eich graddfa hunan gorau mewn ffordd sy'n addas i chi.

Er enghraifft:

Gallech geisio defnyddio rhai o'r syniadau hyn i gynrychioli sut ydych chi'n teimlo ar y gwahanol bwyntiau ar eich graddfa:

  • tynnwch neu baentiwch eich lluniau eich hun
  • defnyddiwch ddelweddau y byddwch yn dod o hyd iddynt ar y rhyngrwyd
  • defnyddiwch emojis
  • tynnwch eich ffotograffau eich hun
  • torrwch luniau, lliwiau a gweadau allan o hen gylchgronau i wneud collage
  • defnyddiwch gerddoriaeth neu ganeuon
  • defnyddiwch synau o fyd natur
  • casglwch synau o'ch cwmpas
  • y tywydd

Eich dewis chi ydyw, po fwyaf y byddwch yn personoli eich graddfa hunan gorau, yr hawsaf y bydd hi i'w defnyddio.  Byddwch yn ei chael hi'n haws adnabod hefyd pan fyddwch yn llithro i lawr y raddfa, i ddeall yr hyn sy'n digwydd a'r hyn y mae angen i chi ei wneud i dynnu eich hun yn ôl i fyny i'ch hunan gorau.

Gweithgarwch

Mae'n bryd rhoi cynnig arno… (Gallwch dreulio cyn lleied o amser neu gymaint o amser o amser ag yr ydych yn ei ddymuno ar y gweithgarwch hwn!)

Ceisiwch greu graddfa i'ch hun gan ddefnyddio rhai o'r awgrymiadau uchod, neu rhowch gynnig ar gymysgu gwahanol syniadau.  Nid oes yn rhaid i chi rannu eich graddfa gydag unrhyw un ac nid oes ots sut y mae'n edrych, dylech wneud yr hyn sy'n teimlo'n iawn i chi.

Mae lle yn eich cofnod personol i roi cynnig ar hyn (tudalennau 9 i 12), neu gallech ddefnyddio papur a phen ysgrifennu neu hyd yn oed ddyfais symudol, os oes un gennych chi.

Sut y mae straen yn effeithio arnoch chi a'r bobl o'ch cwmpas

Hyd yn hyn, rydym wedi ystyried y gwahanol fathau o straen yr ydym yn eu hwynebu yn ein bywydau a sut y gall ein teimladau amrywio o ddydd i ddydd a hyd yn oed o un funud i'r llall.

Gall yr hyn sy'n digwydd o'n cwmpas effeithio ar ein meddyliau, ein teimladau a'n hymddygiad.

Nid ydym wastad yn gallu rheoli'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas ac ni allwn reoli'r holl sialensiau sy'n codi mewn bywyd.

Beth allwch chi ei wneud i deimlo dan llai o straen yn ystod sialensiau bywyd?

Efallai na fyddwch yn gallu rhagweld holl sialensiau bywyd efallai, ond mae'n debygol eich bod yn gallu rhestru nifer o bethau sy'n peri i chi deimlo dan straen neu y maent wedi peri i chi deimlo dan straen yn y gorffennol.

Gadewch i ni ystyried sut yr ydych chi'n ymateb i straen…

Edrychwch ar restr y straenachoswyr a lunioch yn rhan 2, mae croeso i chi ychwanegu mwy i'r rhestr neu gychwyn rhestr newydd os ydych yn dymuno.

Os ydych chi'n cychwyn ar restr newydd, gwnewch nodyn o'r holl bethau sy'n peri i chi deimlo dan straen.

Mae lle i wneud hyn yn eich cofnod personol (tudalennau 13 i 16), neu gallwch ysgrifennu eich rhestr ar ddarn o bapur.

Dyma rai enghreifftiau o'r pethau y mae gofalwyr eraill wedi dweud sy'n achosi straen:

Mae'n debygol y byddwch yn adnabod rhai o'r enghreifftiau hyn, efallai eu bod ar eich rhestr hyd yn oed, ac efallai y byddwch wedi gallu rhestru rhai ychwanegol.

Mae'n bwysig nodi'r hyn sy'n achosi straen i chi.  Gall eich helpu i ystyried pa gamau y mae angen i chi eu cymryd i leihau effaith y straen a'ch tynnu yn ôl i fyny ar y raddfa tuag at eich hunan gorau, a bydd y camau hyn yn helpu i wella eich lles.

Beth fydd yn digwydd i mi pan fyddaf dan straen?

Gan ystyried eich rhestr o straenachoswyr, meddyliwch am y ffordd yr ydych chi'n ymateb i bob straenachosydd pan fydd yn digwydd...

Gwnewch nodyn o'r canlynol:

  • Sut ydych chi'n teimlo?
  • Beth sydd ar eich meddwl chi?
  • Sut mae eich corff yn teimlo?

Y rhain yw eich ymatebion mewnol i straen.  A ydych chi'n gallu nodi lle y gallech fod ar eich graddfa?

Sut mae fy ymateb i straen yn effeithio ar yr hyn sy'n digwydd o'm cwmpas?

Nawr edrychwch ar bob straenachosydd, gan wneud nodyn o'r hyn sy'n digwydd nesaf:

  • Sut ydych chi'n ymddwyn?
  • Sut mae pobl arall yn ymateb i chi?
  • Beth yw canlyniad eich ymateb?

Y rhain yw'r ymatebion allanol i straen.

Nawr edrychwch ar yr hyn yr ydych chi wedi'i ysgrifennu, a ydych chi'n gallu gweld sut y gall eich ymatebion mewnol gychwyn cyfres o ddigwyddiadau sy'n:

  • gallu peri i chi ymddwyn neu weithredu mewn ffyrdd nad ydych yn dymuno;
  • effeithio ar y bobl o'ch cwmpas;
  • achosi hyd yn oed yn fwy o straen dianghenraid arnoch chi?

Os ydych chi'n gwybod sut y mae sefyllfa yn mynd i ddatblygu, gallwch baratoi eich hun ar gyfer yr adeg pan fydd yn digwydd.  Efallai na fyddwch yn gallu atal y straenachosydd rhag digwydd, neu efallai na fydd gennych chi unrhyw reolaeth dros y straenachosydd, ond gallwch reoli a newid y ffordd yr ydych yn ymateb iddo.

Sut allaf i reoli fy ymateb i straen?

Rydych chi wedi treulio ychydig amser yn ystyried y pethau sy'n peri straen i chi ac rydych chi wedi nodi'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch dan straen.  Nawr mae'n amser meddwl am yr hyn y gallwch chi ei wneud amdano.

Os na fyddwn yn darganfod ffyrdd o leddfu straen, gall y straen ddatblygu i bwynt sy'n niweidiol i ni (straen gwenwynig).

Gallwn osgoi sefyllfa lle y bydd lefel ein straen yn beryglus o uchel trwy ddefnyddio adnoddau o'n cwmpas sy'n gallu cael gwared ar y pwysau sy'n datblygu y tu mewn i ni…

Mae'n debygol bod gennych chi rai strategaethau ymdopi yn barod, y byddwch yn eu defnyddio pan fyddwch dan straen;  byddwn yn galw'r rhain 'eich offerynnau'.  Ceir offerynnau o'n cwmpas ac mae angen i ni ddod o hyd i'r offeryn cywir am y gwaith!

Beth yw ‘eich offerynnau chi’?

Ein hofferynnau yw'r hyn y gallwn eu defnyddio i ryddhau pwysau straen pan fydd angen i ni wneud hynny.

  • A ydych chi'n gallu meddwl am rai offerynnau defnyddiol y gallent eich helpu chi i reoli lefel y straen yn eich bwced straen?
  • Pa offerynnau yr ydych chi'n eu defnyddio yn barod?
  • A ydych chi'n gallu meddwl am rai newydd?

Er mwyn eich helpu, ewch ati i greu rhestr o'ch holl offerynnau.  Mae lle i wneud hyn yn eich llyfr cofnodi personol (tudalen 17) neu gallwch ysgrifennu eich rhestr ar ddarn o bapur sbâr.

A hand holding a toolbox

Dyma rai enghreifftiau:

Mae'r rhestr yn ddiddiwedd;  gall newid a thyfu gyda phob her newydd y byddwch yn ei hwynebu.

Wrth i chi fyw eich bywyd, byddwch yn goresgyn sialensiau newydd ac anodd.  Bob tro y byddwch yn gwneud hyn, byddwch yn gallu defnyddio'r hyn y byddwch wedi'i ddysgu o'ch profiadau blaenorol i oresgyn y sialensiau hynny, a byddwch yn casglu rhagor o offerynnau ar eich taith.

Mae bod yn ymwybodol o'r offerynnau sydd gennych chi, yn eich pecyn cymorth, yn eich helpu i baratoi ar gyfer y pethau sy'n peri straen i chi ac sy'n tarfu ar eich ymateb ymladd neu ffoi.

Defnyddiwch yr hyn sy'n gweithio i chi.

Chi yw eich offeryn eich hun!  Gallwch ddewis sut yr ydych yn ymateb i straen a pha offerynnau y byddwch yn eu defnyddio.

Rhan 4 crynodeb

Yn y rhan hon, rydych chi wedi:

  • Gweithio ar eich graddfa hunan gorau, gan ystyried y gwahanol ffyrdd y gallwch greu eich graddfa
  • Ystyried yr effaith y mae straen yn ei chael arnoch chi a'r bobl o'ch cwmpas
  • Darganfod sut y gall defnyddio 'offerynnau' eich helpu i reoli eich straen

Cyn i ni symud ymlaen i ran olaf y cwrs, efallai y byddwch yn dymuno neilltuo ychydig ddiwrnodau i weithio ar ddod i adnabod eich graddfa hunan gorau ychydig yn well.

Yn ogystal, efallai y byddwch yn dymuno cymryd ychydig yn fwy o amser i feddwl am eich offerynnau. 

Yn ogystal, peidiwch ag anghofio eich nodau.  Sut ydych chi'n dod ymlaen gyda'r rhain?  A ydych chi'n llwyddo i gadw atynt?

Rhan 4 wedi'i chwblhau, symudwch ymlaen i rhan 5.