Croeso cynnes

Yn aml fel gofalwr, ni fyddwn yn neilltuo'r amser i feddwl am ein hunain, a byddwn wastad yn rhoi iechyd a lles pobl arall cyn ein hiechyd a'n lles ni. Byddwn yn gwneud hyn mor aml fel ein bod yn anghofio pa mor bwysig yw hi i ofalu am ein hunain. Mae'n hawdd anghofio, os byddwn yn gofalu am ein hiechyd a'n lles ein hunain, gallwn fod yn gryfach ar gyfer y bobl yr ydym yn gofalu amdanynt.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn dysgu am ffyrdd o:

  • leihau lefelau straen
  • sicrhau cydbwysedd o ran lles
  • meithrin cydnerthedd emosiynol
  • cofio bod yn garedig i'ch hun (byddwn yn eich annog i wneud hyn yn amlach!)

Mae'r cwrs ar-lein hwn yn cynnwys 5 rhan, y gallwch eu cwblhau ar eich cyflymder eich hun.  Mae pob rhan a gweithgarwch yn dweud wrthych faint y dylai ei gymryd i chi ei gwblhau.

Mae'r 5 rhan fel a ganlyn:

Rhan 1 - Beth mae lles a chydnerthedd yn ei olygu?

Rhan 2 - Deall straen

Rhan 3 - Eich 'hunan gorau' a sut i ddod o hyd iddo

Rhan 4 - Datblygu eich pecyn cymorth ar gyfer straen

Rhan 5 - Sicrhau bod newid yn digwydd a meddwl am y dyfodol

Awgrymwn eich bod yn cwblhau'r gweithgareddau dros gyfnod o bythefnos er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau. Gallwch gwblhau rhai o'r gweithgareddau dros sawl diwrnod.

Fel y rhan fwyaf o bethau, mae'n well cychwyn yn y dechrau, gan weithio trwyddo i'r diwedd.

Cofiwch roi hoe i'ch llygaid, gan gymryd digon o seibiant i ffwrdd o'ch sgrin a sicrhau eich bod yn gyffyrddus cyn i chi ddechrau.  Heb os, mae paned o de a bisgïen yn helpu!

Gallwch lawrlwytho'r llyfr cofnod personol i'ch helpu i weithio trwy'r gweithgareddau.  Fodd bynnag, nid yw'n hanfodol, a bydd darn o bapur a phensil llawn cystal.

Yn ogystal, mae holl destun y cwrs ar gael i'w lawrlwytho mewn ffurf PDF - Croeso Cynnes

Mae'r pecyn cymorth ar-lein hwn yn fersiwn byr o'r cwrs hyfforddiant Cydnerthedd a Lles Gofalwyr, sydd ar gael i'r holl ofalwyr di-dâl yng Ngheredigion.  Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu hyfforddiant am ddim, ar-lein neu yn gorfforol, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Cymunedol a Gofalwyr i gael gwybod pryd fydd y cwrs hyfforddiant nesaf ar gael. 01545 574200 neu anfonwch e-bost at cysylltu@ceredigion.gov.uk.