Gofal Plant Dechrau’n Deg i blant 2-3 oed
Un o fentrau Llywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg. Mae’n darparu cymorth a chyfleoedd i deuluoedd â phlant o dan 4 oed mewn ardaloedd cod post penodol.
Mae’n darparu pedwar gwasanaeth craidd, sef:
- Gwasanaeth Iechyd y Blynyddoedd Cynnar
- Gofal Plant Sesiynol a Ariennir
- Cymorth Magu Plant
- Cymorth Cynnar o ran Iaith
Efallai y byddwch yn gymwys i gael gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer plant 2-3 oed yn dibynnu ar eich cod post. Darperir y gofal plant o fewn lleoliad o’ch dewis am 2 awr a hanner y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos o’r flwyddyn.
Gwiriwch a ydych yn gymwys trwy'r gwiriwr Cod Post ar gyfer Gofal Plant Dechrau'n Deg a ariennir yma: Dechrau’n Deg - Cyngor Sir Ceredigion
Gofal plant a ariennir i blant 2 oed (Cyffredinol): (Haf 2026)
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gwblhau'r trefniadau ar gyfer darparu hyn.
Gan fod y ddarpariaeth gofal plant presennol yn amrywio ledled Cymru, gall y dull gweithredu amrywio ychydig rhwng ardaloedd awdurdodau lleol.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn datblygu ei gynllun ar gyfer yr ehangu, a bydd angen iddo gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Unwaith y bydd hyn wedi’i gadarnhau, byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth ac yn cysylltu â darparwyr gofal plant a theuluoedd a allai elwa o’r newidiadau hyn.