Flying Start Logo

Un o fentrau Llywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg. Mae’n darparu cymorth a chyfleoedd i deuluoedd â phlant o dan bedair oed.

Mae’n darparu pedwar gwasanaeth craidd, sef:

  • Gwasanaeth Iechyd y Blynyddoedd Cynnar
  • Gofal Plant
  • Cymorth Magu Plant
  • Cymorth Cynnar o ran Iaith

A ydych chi’n gymwys?

Oes gennych chi blentyn rhwng 0-3 mlwydd ac 11 mis ac yn byw yng Ngheredigion?

Os felly, rhowch eich côd post yn y blwch i weld os ydych yn gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg.

  • Gwasanaeth Iechyd y Blynyddoedd Cynnar. Mae Tîm Iechyd y Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Teuluoedd sy’n gallu darparu cymorth dwys pan fo’i angen. Rhif Canolfan yr Ymwelwyr Iechyd: 07970 501 609 (9am – 5pm, dydd Llun – dydd Gwener, nid ar benwythnosau nac ar wyliau’r banc. Sylwch na all y gwasanaeth hwn dderbyn negeseuon testun.)
  • Gofal plant sesiynol o’r ansawdd uchaf, wedi’i ariannu, i blant dwy i dair oed. Darperir y gwasanaeth gofal plant mewn lleoliad o’ch dewis chi am ddwy awr a hanner y dydd, bum diwrnod yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
  • Cymorth magu plant drwy waith 1:1 neu mewn grwpiau lleol. Gall gofalu am blant ifanc fod yn gryn her a does neb yn gwybod yr atebion i gyd. Am y rheswm hwn, rydym yn darparu rhaglenni a chymorth magu plant drwy sesiynau 1:1 neu grwpiau lleol i drafod testunau fel:
  • Paratoi i fod yn rhieni
  • Bwydo ar y fron, symud o laeth i brydau bwyd (diddyfnu), a deiet iach
  • Trefn ddyddiol, cysgu, a hyfforddi i ddefnyddio’r toiled
  • Rhianta cadarnhaol
  • Cydnerthedd a lles emosiynol
  • Ymdrin ag ymddygiad plant, a’i reoli
  • Problemau cyffredin eraill sy’n codi wrth fagu plant
  • Cymorth ymarferol pan fo’i angen, e.e. cael gafael ar dalebau banciau bwyd, offer diogelwch yn y cartref, a chyngor a chymorth i wneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel a’i fod yn lle braf i’ch plant chwarae ynddo
  • Cyfeirio at gymorth a gwasanaethau eraill
  • Cymorth i ddatblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant, drwy gymorth 1:1 neu gymorth grŵp, i feithrin sgiliau ac ymwybyddiaeth

 

Facebook Logo - Free Vectors & PSDs to Download

 

www.facebook.com/TeuluoeddCeredigionFamilies

 

 

dewis.wales

 

I gael mwy o wybodaeth am sut gallai Dechrau’n Deg helpu’ch teulu chi, gwyliwch fideo Llywodraeth Cymru am raglen Dechrau’n Deg.