Skip to main content

Ceredigion County Council website

Darparu Gwasanaeth Gofal Plant a/neu Chwarae

Gall rhedeg eich Lleoliad Gofal Plant eich hun fod yn uchelgais oes, yn ddiddordeb newydd, neu'n gam nesaf yn eich gyrfa gofal plant.

Hyd yn oed os ydych wedi gweithio ym maes gofal plant o'r blaen gall fod yn broses frawychus a hir. Mae llawer o bethau i'w hystyried, felly mae angen i chi sicrhau eich bod yn gwbl barod ar gyfer yr hyn y bydd yn ei olygu.

Beth mae sefydlu Lleoliad Gofal Plant Cofrestredig yn ei olygu?

  • Mae gofal plant a reoleiddir yn cwmpasu ystod eang o wahanol fathau o ddarpariaeth sydd i'w cael ar ein tudalen Gofal Plant yng Ngheredigion
  • Bydd y lleoliad yn cael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) , ac yn cael ei reoleiddio a’i arolygu ganddi
  • Mae lleoliadau cofrestredig yn ddarostyngedig i set o Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir  y bydd angen eu cyflawni neu ragori arnynt
  • Rhaid i strwythur fod yn ei le ar gyfer y math o ddarpariaeth i sicrhau cydymffurfedd â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol
  • Mae'n hanfodol cyflogi staff â chymwysterau priodol i sicrhau bod yr holl gymarebau a safonau'n cael eu bodloni. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y cedwir at gyfraith cyflogaeth ym mhob maes, gan gynnwys amodau gwaith, tâl a chyfraniadau
  • Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn elwa ar ofal o ansawdd uchel sy’n eu helpu i ddatblygu’n gyfannol

Sut i gychwyn Lleoliad Gofal Plant cofrestredig

  • Ar gyfer cymorth a chyngor am ddim o’r cychwyn, cysylltwch â’r Uned Gofal Plant drwy ffonio Clic ar 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at clic@ceredigion.gov.uk. Ein rôl yw eich cefnogi, sybsideiddio costau hyfforddi a chynnig grantiau i ddarparwyr gofal plant cofrestredig
  • Ymchwil i'r Farchnad - Bydd angen i chi wneud ymchwil i’r farchnad i benderfynu a oes galw am y math o ddarpariaeth yr ydych yn bwriadu ei chynnig. Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant bob pum mlynedd lle mae'r cyflenwad a'r galw am ofal plant yn cael eu dadansoddi ac mae bylchau yn y ddarpariaeth yn cael eu nodi. Gall yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant fod yn arf defnyddiol wrth ymchwilio i anghenion gofal plant o fewn maes penodol
    Ystyriwch:
    • Ardal
    • Oedran Plant
    • Oriau gweithredol
    • Iaith/ieithoedd y ddarpariaeth
    • Argaeledd, math, a chost y safle
    • Ffioedd i'w codi
    • Cystadleuaeth
  • Cyllid - Mae cynllunio busnes a chynllunio ariannol yn allweddol i sicrhau cynaliadwyedd unrhyw fusnes. Mae'n bwysig ystyried yr holl gostau sy'n mynd allan, megis rhent/morgais, cyflogau, yswiriant a chyfleustodau yn ogystal â chost offer
  • Cymorth Busnes - Mae gan Busnes Cymru dudalen we benodol ar gyfer darparwyr Gofal Plant a Gwaith Chwarae  i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i sefydlu, datblygu a thyfu eu busnes yn gynaliadwy.
    Gall Busnes Cymru hefyd eich helpu gyda’r holl wybodaeth, cyngor, ac arweiniad sydd eu hangen arnoch os ydych yn ystyried dechrau busnes o’ch cartref  neu’n tyfu eich busnes. Ewch i wefan Busnes Cymru  a chwiliwch am ‘Gofal plant’
  • Cofrestru - Mae gwybodaeth am sut i Gofrestru Lleoliad Gofal Plant gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ar gael ar tudalen Cofrestru Gwasanaeth Gofal Plant a Chwarae nhw 
  • Staffio - Mae pethau i’w hystyried mewn perthynas â staffio lleoliad yn cynnwys:

Os credwch fod pob plentyn yn haeddu'r dechreuad gorau mewn bywyd, bod yn hyblyg, ac yr hoffech redeg eich busnes eich hun o'ch cartref eich hun, beth am ystyried Gwarchod Plant fel gyrfa?

Fel Gwarchodwr Plant Cofrestredig byddwch:

  • Yn weithiwr gofal plant proffesiynol hyfforddedig;
  • Yn cynnig amgylchedd ysgogol a hapus i'r plant rydych chi'n gofalu amdanynt;
  • Yn darparu cyfleoedd dysgu a gweld y plant yn datblygu;
  • Yn gweithio yn eich cartref, dewis yr oriau rydych chi'n gweithio a rhedeg busnes eich hun;
  • Yn gallu gofalu am blant eich hunain ochr yn ochr â phlant sy'n cael eu gwarchod (byddant yn cyfrif yn eich niferoedd);
  • Yn gallu cwrdd â Gwarchodwyr Plant eraill, yn lleol mewn rhwydweithiau, neu ar-lein;
  • Derbyn cylchlythyrau rheolaidd gan yr Uned Gofal Plant am gyfleoedd hyfforddi, grantiau ac unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth

Beth mae bod yn Warchodwr Plant Cofrestredig yn ei olygu?

  • Os ydych yn gofalu am un neu fwy o blant o dan 12 oed, am fwy na dwy awr y dydd, yn eich cartref eich hun, am daliad (naill ai mewn nwyddau neu arian) rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, gofrestru fel Gwarchodwr Plant;
  • Ymgyrch Gofalwn Cymru gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn esbonio beth mae swydd yn y sector gofal yn ei olygu, gan gynnwys Gofal Plant yn y Cartref , a fideos am fod yn Warchodwr Plant;
  • Bydd angen i chi gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) , sy'n rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru;
  • I wneud hyn, bydd angen i chi fodloni neu ragori ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) ;
  • Bydd angen i chi ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd i ddiweddaru eich sgiliau a'ch gwybodaeth;
  • Fel person hunangyflogedig, bydd angen i chi redeg eich busnes mewn modd cyfreithiol a thalu treth ar eich incwm trwy gwblhau’r ffurflen dreth hunanasesu 

Sut i ddod yn Warchodwr Plant Cofrestredig yng Ngheredigion?

  • Cysylltwch â'r Uned Gofal Plant drwy ffonio Clic ar 01545 570881 neu drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk;
  • Mynychu sesiwn friffio Gwarchodwr Plant ar-lein, lle bydd y Cydlynydd Gofal Plant a Hyfforddiant yn esbonio'r holl hyfforddiant angenrheidiol a'r broses o ddod yn Warchodwr Plant Cofrestredig;
  • Mynychu cwrs cyn cofrestru addas; bydd hyn yn cymryd rhwng 8-16 wythnos. Bydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu eich polisiau a’ch gweithdrefnau eich hun i gydymffurfio â rheoliadau;
  • Ar ôl cwblhau'r cwrs cyn cofrestru byddwch yn cael eich mentora gan ein swyddog i sicrhau eich bod wedi cwblhau popeth angenrheidiol i gofrestru fel darparwr gofal plant gydag AGC;
  • Mynychu a chwblhau pob cwrs gorfodol gan gynnwys Cymorth Cyntaf Pediatreg, Diogelu ac Amddiffyn Plant, Diogelwch a Hylendid Bwyd, Alergedd ac Anoddefiad Bwyd a ‘PREVENT’ (Ymwybyddiaeth Radicaleiddio);
  • Bydd angen i chi wneud cais am Dystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i chi'ch hun ac unrhyw un dros 16 oed sy'n byw yn eich cartref;
  • Cyflwynwch eich cais i AGC, a fydd yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad safle a chyfweliad;
  • Ar ôl cofrestru, byddwch yn parhau i gael cefnogaeth yr Uned Gofal Plant trwy gydol eich cofrestriad

Dolenni Perthnasol:

Sefydlodd Llywodraeth Cymru’r ‘Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Gofal Plant yn y Cartref’, y cyfeirir ato weithiau fel y “Cynllun Nani” fel cynllun gwirfoddol, a weinyddir gan AGC. Ymhlith pethau eraill, mae cael eu cynnwys o fewn y cynllun yn galluogi rhieni sy’n defnyddio nani sydd wedi’i chymeradwyo, i gael cymorth ariannol trwy ystod o gonsesiynau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU megis Credydau Treth, Credyd Cynhwysol a Gofal Plant Di-dreth, lle maent yn gymwys.

Beth mae bod yn Nani neu rywun sydd wedi’i gofrestru ar y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol yn ei olygu?

Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais am y cynllun fod dros 18 oed. Ni ddylech fod wedi’ch gwahardd na chael eich ystyried yn anaddas i weithio gyda phlant.

Sut i Gofrestru o dan y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol

Cefnogaeth Busnes

Mae gan Fusnes Cymru dudalen we bwrpasol i ddarparwyr Gofal Plant a Gwaith Chwarae sydd yn darparu’r wybodaeth am y gefnogaeth sydd angen at sefydlu, datblygu a thyfu eu busnes yn gynaliadwy.

Gall Busnes Cymru hefyd eich helpu gyda'r holl wybodaeth, cyngor a chanllawiau sydd eu hangen arnoch os ydych chi'n ystyried dechrau busnes o'ch cartref neu am dyfu eich busnes. Ewch i wefan Busnes Cymru a chwiliwch 'Gofal Plant'.

Gwybodaeth Defnyddiol

Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi’r gweithlu a gwelliannau yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Medrwch gofrestru i gael e-fwletin misol drwy e-bostio newsletter@socialcare.wales.

Gofalwn

Mae Gofalwn yn wefan sydd yn ceisio helpu i ddenu, recriwtio a chadw staff gofal yng Nghymru. Mae'r wefan yn cynnal rhestr gynyddol o gyflogwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru, a gallwch ddod o hyd i nifer o gyfleoedd sydd ar gael i weithio gydag oedolion a phlant, a chlywed am brofiadau gweithio yn y maes gofal wrth y bobl sy’n gwneud y swydd yn barod.

Cymrwch gip ar eu cronfa ddata o ddarparwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar am gyfleoedd am swyddi.

Rhaglen Hyfforddiant Gofal Plant a Chwarae

Fel darparwr Gofal Plant a Chwarae Cofrestredig eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cymwysterau chi neu eich staff yn gyfredol a'ch bod yn cynllunio eich hyfforddiant ymlaen llaw. Argymhellir eich bod yn archebu eich lle ar gyrsiau hyfforddi chwech mis cyn y dyddiad adnewyddu gan fod lleoedd yn gyfyngedig a gall cyrsiau lenwi'n gyflym.

Mae’r Uned Gofal Plant yn trefnu cyrsiau hyfforddi gorfodol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) sy’n ofynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy’n agored i bob lleoliad gofal plant a chwarae cofrestredig (neu’r rhai sy’n bwriadu cofrestru), sy’n cynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd dydd, cylchoedd meithrin. / cylchoedd chwarae (gofal plant sesiynol), clybiau y tu allan i oriau ysgol a chlybiau gwyliau.

Mae’r hyfforddiant a/neu wasanaethau yn cael eu comisiynu yn fewnol ac yn allanol a thra gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y rhaglen hyfforddiant yn gweithredu’n effeithlon, ni ellir dal yr Uned Gofal Plant yn gyfrifol am unrhyw faterion sy’n ymwneud yn uniongyrchol â hwyluswyr cyrsiau, lleoliadau, a materion TG yn ystod cyrsiau ar-lein.

I ddarganfod mwy am ddyddiadau’r cyrsiau hyfforddi sydd ar gael (Gorfodol a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)) ac i gael mynediad at yr hyfforddiant ewch i DEWIS Cymru (Cofrestru / Mewngofnodi - Dewis Cymru). Bydd angen creu cyfrif dysgwr a chwblhau manylion i fynegi diddordeb yn y cwrs.

Bydd pob cwrs yn cael ei restru ar Raglen Cyrsiau Hyfforddiant Dewis Cymru

Os oes lle ar y cwrs byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau, ac efallai y bydd angen i chi lenwi rhai ffurflenni cofrestru ychwanegol a fydd yn cael eu e-bostio atoch.

Gellir hefyd cael mynediad I fodiwlau e-ddysgu trwy borth e-ddysgu’r Cyngor Pwll Dysgu Ceredigion - Cyngor Sir Ceredigion.   Bydd angen i chi greu cyfrif, neu gysylltu â dysgu@ceredigion.gov.uk  am gyngor a chefnogaeth.

Dilynwch y cyfarwyddiadau yn ofalus

Dim ond ar gyfer archebu, cwblhau a mynychu cyrsiau y mae angen e-byst personol.

Bydd pob cyfranogwr yn derbyn y gall y cyfeiriadau e-bost hyn fod yn weladwy i eraill ar Microsoft TEAMS / hyfforddiant rhithiol yn ystod yr hyfforddiant.

MAE ARCHEBU LLE YN HANFODOL – HYD YN OED OS YW'R CWRS AM DDIM.

Mae costau hyfforddiant yn aml yn cael eu sybsideiddio gan gyllid Cyngor Sir Ceredigion neu Lywodraeth Cymru, ond weithiau y bydd angen talu taliadau enwol (costau yn dibynnu ar y cwrs). Gall ffioedd canslo fod yn berthnasol hefyd.

Gweler y Telerau ac Amodau isod.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch hyfforddiant neu os oes angen rhagor o gyngor neu arweiniad arnoch ar faterion eraill sy’n ymwneud â gofal plant a chwarae, cysylltwch â’r Uned Gofal Plant:

Rhif ffôn Clic. 01545 570881 – gofynnwch am yr Uned Gofal Plant

E-bost: gofalplant@ceredigion.gov.uk

Croesewir adborth am eich profiadau hyfforddi, sylwadau a dymuniadau hyfforddiant yn y dyfodol.

TELERAU AC AMODAU:

Cyflwyno'r cwrs

  • Gall cyrsiau fod yn gymysgedd o e-ddysgu, hyfforddiant hybrid ar-lein ac wyneb yn wyneb, neu wyneb yn wyneb mewn lleoliad penodol
  • Bydd pob cwrs yn cael ei gynnig ar sail y cyntaf i'r felin
  • Ar hyn o bryd nid oes uchafswm o staff o bob lleoliad sy'n gallu mynychu

Ffioedd a thaliadau

  • Mae rhai cyrsiau gorfodol yn cael cymhorthdal gan grantiau'r Awdurdod Lleol neu Lywodraeth Cymru
  • Codir ffi amrywiol am gyrsiau nad ydynt yn orfodol / cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) / cyrsiau ar-lein / hybrid
  • Efallai y bydd gan rai cyrsiau gyfarwyddiadau arbennig (gweler manylion y cwrs)
  • Lle bo'n berthnasol anfonir anfoneb i'r lleoliad trwy e-bost ar ôl dyddiad y cwrs
  • Os na thelir anfonebau, efallai na fyddwch yn gymwys ar gyfer cyrsiau hyfforddi â chymhorthdal yn y dyfodol
  • Taliad i'w wneud trwy drosglwyddiad banc

Cadarnhad

  • Eich cyfrifoldeb chi yw cofio pa hyfforddiant rydych chi / eich staff wedi'ch bwcio arno.
  • Bydd nodyn atgoffa yn cael ei anfon tua 7-10 diwrnod gwaith cyn yr hyfforddiant gan DEWIS Cymru. Os oes unrhyw newidiadau ar yr adeg hon rhowch wybod i ni i osgoi codi tâl am ganslo'n hwyr / diffyg presenoldeb (gweler canslo cyfranogwyr / diffyg presenoldeb)
  • Sicrhewch fod eich staff yn cael yr amser angenrheidiol i gwblhau'r elfen ar-lein o unrhyw gwrs hybrid cyn y diwrnod ymarferol fel yr amlinellir ym manylion y cwrs
  • Bydd pob archeb cwrs yn cael ei gadarnhau trwy e-bost gyda'r dysgwr. Nodwch gyfeiriad e-bost personol ar eich e-bost/ffurflen archebu

Canslo Cyrsiau

  • Yn achlysurol bydd angen i ni ganslo cyrsiau oherwydd niferoedd annigonol. Ein nod yw gwneud y penderfyniadau hyn o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y disgwylir i'r cwrs redeg
  • Os oes angen canslo cwrs ar fyr rybudd e.e. tywydd gwael, salwch tiwtor byddwn yn hysbysu cyfranogwyr cyn gynted â phosibl. I gynorthwyo gyda hyn, sicrhewch eich bod wedi rhoi rhifau cyswllt priodol yn eich manylion archebu

PWYSIG: Canslo Cyfranogwr / Diffyg Presenoldeb (2024-2025)

  • Ffi canslo (llai na 10 diwrnod o rybudd) = £57.00
  • Ffi diffyg presenoldeb / peidio hysbysu = £57.00
  • Ffi canslo DPP (llai na 10 diwrnod o rybudd) = £15.00
  • Bydd ffioedd canslo / diffyg presenoldeb ar gyfer cyrsiau eraill yn amrywio
  •  Lle mae cyfranogwyr yn colli cyrsiau hyfforddi dro ar ôl tro, byddwn yn cysylltu â rheolwr / goruchwyliwr y lleoliad, ac efallai y byddwch yn dod yn anghymwys ar gyfer cyrsiau hyfforddi â chymhorthdal yn y dyfodol
  • Cofiwch fod gennym restr aros ar gyfer rhai cyrsiau, a gorau po gyntaf y gallwch roi gwybod i ni am ddiffyg presenoldeb oherwydd gallai ganiatáu i rywun gymryd eich lle, a pheidio â chodi ffi i'ch lleoliad

Darparwyr Sir Gyfagos

  • Os ydych yn darparu gofal plant mewn sir gyfagos i Geredigion, byddwn yn ystyried eich cais, ond rhoddir blaenoriaeth gyntaf o ran lleoedd i staff o Geredigion
  • Os oes angen hyfforddiant arnoch, rydym yn eich cynghori i gysylltu â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol gan y byddant yn gallu dweud wrthych pryd y bydd y cwrs nesaf yn rhedeg yn eich ardal
  • Os ydych yn mynychu cwrs gorfodol yng Ngheredigion o sir gyfagos, codir tâl arnoch ar gyfradd hyfforddiant eich awdurdod lleol

Hyfforddiant yn y Gymraeg

  • Ble mae’n bosib byddwn yn ymgeisio i drefnu hyfforddiant yn y Gymraeg.  Nid yw hyn yn bosib bob tro oherwydd y corff dyfarnu

Tystysgrifau

  • RHAID cyflwyno ID gyda LLUN adnabod i hyfforddiant Cymorth Cyntaf. DIM ID Â LLUN = DIM TYSTYSGRIF
  • Darperir tystysgrifau ar gyfer pob cwrs. Bydd y rhain yn cael eu dosbarthu trwy e-bost i fanylion y dysgwr a nodir ar ffurflen cofrestru y cwrs
  • Ar gyfer cyrsiau Diogelu Grŵp B mae'n rhaid i gynrychiolwyr anfon e-bost at gofalplant@ceredigion.gov.uk  i ofyn am dystysgrif.   Dosbarthwyd yn dilyn cadarnhad presenoldeb

Cofiwch:
Pan fyddwch chi ar gwrs hyfforddiant bydd angen:

  • Cydymffurfio â holl ganllawiau Iechyd a Diogelwch cyn ac yn ystod yr hyfforddiant.
  • Bod yn gwrtais, yn barchus ac yn onest ar bob achlysur
  • Troi fyny ar amser ac aros nes bydd y cwrs wedi ei gorffen.  Nid yw’n dderbyniol gofyn am ganiatâd gan hwylusydd y cwrs i adael yn gynnar ar ddiwrnod yr hyfforddiant
  • Ar gyfer hyfforddiant ar-lein, bydd angen gliniadur eu hunain gyda chamera a sain ar ddysgwyr; clustffonau i osgoi gwrthdyniadau, man tawel, beiro a phapur ar gyfer cymryd nodiadau
  • Sicrhau bod yr offer TG yn gydnaws â'r platfform ar-lein sawl diwrnod cyn dechrau unrhyw hyfforddiant rhithiol
  • Cadw'r camera ymlaen yn ystod cyflwyno hyfforddiant ar-lein a chymryd rhan weithredol, cyfrannu at ac ymgysylltu mewn trafodaethau
  • Oherwydd pwnc rhai cyrsiau hyfforddi, nid yw'n addas i blant fod yn bresennol yn yr ystafell os gallant glywed neu weld unrhyw gynnwys neu drafodaethau
  • Sicrhewch fod unrhyw ddeunydd a ddarparwyd cyn dechrau unrhyw gwrs wedi'i ddarllen
  • Byddwch yn ymwybodol mai'r amseroedd a nodir ar yr e-bost cadarnhau yw'r isafswm amserau cyfranogiad sy'n ofynnol gan y cyrff dyfarnu er mwyn dyfarnu tystysgrifau a bod gan hyfforddwyr yr awdurdod i wrthod mynediad i gynrychiolwyr sy'n cyrraedd fwy na 10 munud yn hwyr
  • Yn yr un modd, mae gan hyfforddwyr yr awdurdod i wrthod dyfarnu tystysgrif ar gyfer cynrychiolwyr sy'n gadael mwy na 15 munud yn ystod neu cyn yr amser gorffen a drefnwyd
  • Ni fydd bwyd a lluniaeth yn cael eu darparu mewn cyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb, felly cynghorir cynrychiolwyr i ddod â'r rhain gyda nhw yn ôl yr angen

Os oes problem ar ddiwrnod yr hyfforddiant ac nad ydych yn gallu mynychu, e-bostiwch gofalplant@ceredigion.gov.uk  gydag esboniad o'ch absenoldeb, neu ffoniwch ni ar 01545 570881 yn ystod oriau swyddfa a gofynnwch am yr Uned Gofal Plant.

Sicrhewch fod eich staff yn ymwybodol o'r gwybodaeth cyswllt hyn hefyd.

 

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

Mae hysbysiad preifatrwydd yn ddatganiad sy’n disgrifio’r modd y mae’r Cyngor yn casglu gwybodaeth bersonol a’i ddefnyddio, ei gadw a’i ddatgelu. Defnyddir gwahanol dermau am hyn mewn gwahanol sefydliadau, ac mae rhai’n cyfeirio ato fel datganiad preifatrwydd, hysbysiad prosesu teg neu bolisi preifatrwydd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi’i gofrestru yn Rheolydd Data ac rydym yn gyfrifol am gasglu eich gwybodaeth bersonol a’i brosesu.

Darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Uned Gofal Plant (link I DDILYN)   ac   Hysbysiad Preifatrwydd Dysgu Bro - Cyngor Sir Ceredigion  am fwy o wybodaeth.