Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Beth yw'r Rheoliadau Adeiladu: yr hyn y ddylech ei wybod

Mae Rheoliadau Adeiladu a chaniatâd cynllunio yn ofynion cyfreithiol ar wahân. Hyd yn oed os nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich prosiect, mae’n bosib bydd rhaid i chi gydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu.

Yng Nghymru, mae’r Rheoliadau Adeiladu yn safonau cenedlaethol sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o waith adeiladu—boed yn breswyl neu’n fasnachol. Mae’r rheoliadau hyn ar waith i sicrhau bod ein hamgylchedd adeiledig yn ddiogel, yn iach, ac yn gynaliadwy. Maent hefyd yn gosod safonau ar gyfer effeithlonrwydd ynni, hygyrchedd i bobl ag anableddau, a pherfformiad amgylcheddol cyffredinol.

Fel Arolygwyr Adeiladau Cofrestredig, rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth rhagweithiol, proffesiynol, sydd yn hawdd i’w ddefnyddio. Mae ein tîm o arolygwyr cymwys yn ymrwymedig i gefnogi eich prosiect gyda chyngor arbenigol ar bob agwedd o’r rheoliadau adeiladu. Trwy gydweithio’n agos ag adrannau Cynllunio, Priffyrdd ac Iechyd yr Amgylchedd, rydym yn helpu i symleiddio’r broses ddatblygu. Fodd bynnag, nid yw hyn yn disodli unrhyw ymgynghoriad rhyngoch chi a’r gwasanaethau unigol hynny a all fod yn angenrheidiol fel rhan o’ch proses gymeradwyo.

Mae ein arolygwyr yn meddu ar wybodaeth leol werthfawr ac yn ymwneud yn weithredol â rhoi cyngor ar ddiogelwch y cyhoedd, gwaith dymchwel, strwythurau peryglus, a diogelwch ar dir chwaraeon. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a’r gwasanaethau brys eraill i sicrhau diogelwch y cyhoedd ym mhob ardal.

Cyn dechrau unrhyw waith adeiladu, mae’n bwysig gwirio a oes angen cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu. Y person sy’n gwneud y gwaith adeiladu, ac os nad nhw yw perchennog yr adeilad, yna’r perchennog ei hun sy’n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Adeiladu.

Pryd mae angen gwneud cais am gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu

Enghreifftiau o waith adeiladu sy’n gofyn am gymeradwyaeth.

Pryd mae angen gwneud cais am gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu

Gwneud cais am gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu

Mae rhan fwyaf o brosiectau adeiladu, boed yn adeiladau newydd, estyniadau, neu addasiadau i adeilad presennol, yn gofyn am gydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Adeiladu.

Gwneud cais am gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu

Pwy yw’r Arolygwr Adeiladu Cofrestredig sy’n gyfrifol am fy ngwaith

Defnyddiwch y Lleoliwr Ardal er mwyn adnabod yr Arolygwr Adeiladu Cofrestredig sy’n gyfrifol am eich ardal.

Pwy yw’r Arolygwr Adeiladu Cofrestredig sy’n gyfrifol am fy ngwaith

Deddfwriaeth Rheoli Adeiladu a Dogfennau Cymeradwy (Cymru)

Dyma rai dogfennau defnyddiol – trwy ddilyn y canllawiau ynddynt wrth gynnal gwaith adeiladu, rydych yn dangos eich bod wedi cyflawni’r safonau lleiaf sydd eu hangen i gydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu.

Deddfwriaeth Rheoli Adeiladu a Dogfennau Cymeradwy (Cymru)