Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi llunio Polisi Rheoli Cyfeiriadau ac mae hwnnw'n nodi sut y byddwn yn delio â'r broses hon yn y sir.

Mae'r polisi Rheoli Cyfeiriadau'n cynnwys y pynciau canlynol:

  • Enwi a rhifo strydoedd newydd, gan gynnwys protocol
  • Enwi anheddau newydd
  • Sut mae newid enw eich ty?
  • Ailenwi neu ail-rifo stryd
  • Eiddo Masnachol

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob eiddo newydd yng Ngheredigion boed yn stad newydd, yn annedd sengl, troi annedd sengl yn anheddau lluosog (ac fel arall), neu'n safle masnachol. Does dim eithriadau.

Mae cyfeiriadau tai'n fater pwysig iawn. Mae angen ffordd effeithiol o ddod o hyd i dai ac at ddibenion cyfeirio ar gyrff a sefydliadau, gwasanaethau'r post, negeswyr a'r gwasanaethau brys a'r cyhoedd hefyd. Mae ambell un yn credu mai'r Post Brenhinol sy'n gyfrifol am reoli cyfeiriadau. Mewn gwirionedd, mae cyfrifoldeb statudol ar Awdurdodau Lleol i enwi a rhifo strydoedd a thai o fewn eu hardaloedd gweinyddol.

Mae Awdurdodau Lleol y Deyrnas Unedig hefyd yn gyfrifol am gadw cronfa ddata ddiffiniol o gyfeiriadau, sef y Rhestr Genedlaethol o Dir ac Eiddo. Pan gaiff tai a strydoedd newydd eu datblygu dylid eu rhoi ar y gronfa ddata hon cyn gynted ag y bo modd a chyn i'r adeilad gael ei gwblhau.

Gall perchnogion sydd am newid enw eu tŷ wneud hynny trwy gyflwyno'r newid arfaethedig i'r Swyddog Rheoli Cyfeiriadau yn ysgrifen ( Ffurflen Cais). Os na fydd unrhyw amwysedd mewn perthynas ag eiddo arall sydd ag enw tebyg yn yr ardal, bydd y newid i enw'r tŷ'n cael ei gymeradwyo, i ddigwydd ar unwaith, a'i ychwanegu at y Rhestr Genedlaethol o Dir ac Eiddo. Bydd y Rhestr yn diwygio enw'r tŷ yn awtomatig ymhlith adrannau mewnol eraill y cyngor a chyrff allanol megis y Post Frenhinol a’r gwasanaethau brys.

O ran Cynllun Iaith Gymraeg Ceredigion, mabwysiadwyd arfer anffurfiol o annog rhoi un enw ar eiddo newydd, a hwnnw’n enw Cymraeg. Os yw’r enw presennol yn un gwreiddiol a hanesyddol, yn enwedig felly os yw’n enw Cymraeg hanesyddol, yna dylid anfon llythyr safonol at y cwsmer yn gofyn iddynt ailystyried, a chadw’r enw presennol (hyd yn oed os yw’r enw newydd a gynigir yn un Cymraeg). Mae’r llythyr safonol yn rhoi 10 diwrnod i’r cwsmer ailystyried y penderfyniad. Fodd bynnag, y cwsmer sydd â’r hawl i benderfynu yn y pen draw.

Yna bydd y Swyddog Rheoli Cyfeiriadau'n anfon cadarnhad ysgrifenedig o'r newid enw swyddogol i'r perchennog, a ddylai fynd ati i roi gwybod i'w gysylltiadau personol (ee banciau, ffrindiau a pherthnasau).

Mae'n ofynnol bod unrhyw un sy'n gyfrifol am ddatblygiadau adeiladu sy'n arwain at eiddo fydd â chyfeiriad newydd, yn delio â'r broses o enwi a rhifo'r strydoedd a'r tai newydd cyn gynted â phosib ar ôl derbyn caniatâd cynllunio, ac yn sicr unwaith bod y gwaith wedi dechrau.

I ddechrau'r broses, dylai datblygwyr anfon eu ceisiadau at y Swyddog Rheoli Cyfeiriadau gan gynnwys:

  • Cynllun lleoliad yn dangos y cynllun newydd yn glir mewn perthynas ag unrhyw strydoedd neu fynedfeydd (neu byddai rhif Cais Cynllunio'n ein helpu i ddod o hyd i gynlluniau a gyflwynwyd eisoes)
  • Cynllun manwl o'r datblygiad gyda rhifau'r lleiniau wedi'u nodi'n glir ar y cynllun arfaethedig
  • Map o'r safle'n dangos maint y stryd(oedd) newydd a'r enw(au) (wrth gyflwyno enw newydd bydd y Swyddog Rheoli Cyfeiriadau yn gorfodi strydoedd newydd i gael un ffurf Gymraeg ar yr enw) a gynigir, gan roi ystyriaeth i brotocol y Cyngor. Os nad ydy'r datblygwr am gynnig enwau strydoedd ar gyfer y datblygiad newydd, dylai ef/hi hysbysu'r Swyddog Rheoli Cyfeiriadau, fydd yn gwahodd y Cyngor Plwyf/Cymuned lleol a Chynghorydd y Ward i gyflwyno awgrymiadau
  • Os yn briodol, cynllun o osodiad mewnol unrhyw eiddo sy'n cael ei rannu'n unedau neu fesul llawr – er enghraifft, bloc o fflatiau
  • Codir tâl os yw’r datblygiad yn cynnwys tri o blotiau neu fwy. Dylid cynnwys siec yn daladwy i Gyngor Sir Ceredigion gyda’r cais

Bydd y Swyddog Rheoli Cyfeiriadau'n ymgynghori â'r Rhestr Genedlaethol o Dir ac Eiddo i wneud yn siŵr nad oes unrhyw wrthdaro neu ddyblygu'r enw(au) stryd a awgrymir o fewn cyffiniau'r datblygiad arfaethedig. Os bydd yna wrthdaro, gofynnir i'r datblygwr am gynigion eraill. Pan na fydd unrhyw wrthdaro, bydd y Swyddog Rheoli Cyfeiriadau'n dechrau'r broses ymgynghori.

Ar ôl enwi'r stryd(oedd) newydd, bydd y Swyddog Rheoli Cyfeiriadau'n pennu rhifau tai ar gyfer y safle. Yna anfonir rhestr o'r cyfeiriadau newydd at y datblygwr, a ddylai ddangos yr wybodaeth i'r asiantau (ee gwerthwyr tai sydd ynghlwm wrth y broses o werthu'r eiddo) a thrwy hynny, unrhyw ddarpar brynwyr.

Os oes angen cymorth arnoch i enwi'ch eiddo neu stryd newydd gallwch ymweld â'r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol i gael awgrymiadau. Mae Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru yn adnodd arloesol ac arloesol sy’n cynnwys cannoedd o filoedd o enwau lleoedd a gasglwyd o fapiau hanesyddol a ffynonellau eraill. Mae’n rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar ddefnydd tir, archaeoleg a hanes Cymru.

Wefan Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru

Categori Tâl (yn cynnwys TAW)
Newid enw eiddo £59
Cofrestru plot sengl £86
Cofrestru plot sengl a fflatiau £86 a £11 am bob fflat
Enwi a rhifo datblygiad - 2-5 plot £202 a £27 am bob plot
Enwi a rhifo datblygiad - 6-25 plot £202 a £22 am bob plot
Enwi a rhifo datblygiad - 26-50 plot £202 a £17 am bob plot
Enwi a rhifo datblygiad - 50 plot a mwy £202 a £11 am bob plot

Gallwch dalu yn un o’r ffyrdd canlynol. Trwy siec sy’n daladwy i Gyngor Sir Ceredigion, dros y ffôn neu ar-lein.

Rhif Ffôn: 01545 572290

Os byddwch yn talu dros y ffôn, defnyddiwch y cyfeirnod ‘Ffioedd PP1016/9391 SNN’.

Talu ar-lein - Taliadau Ar-lein

Dilynwch y ddolen uchod. Dewiswch ‘Arall’ o’r gwymplen. Yna, dewiswch ‘Enwi a Rhifo Strydoedd’ a dilynwch y ffurflen.

Swyddog Rheoli Cyfeiriadau

Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, ABERAERON, SA46 0PA

Rhif ffôn: 01545 572115

E-bost: canolfanrheolicyfeiriadau@ceredigion.gov.uk

FindMyAddress a galluogi unrhyw un i chwilio am a gweld eu cyfeiriad swyddogol, UPRN a lleoliad.

Gan weithio ar ran awdurdodau lleol, mae GeoPlace wedi creu FindMyAddress i ddarparu pwynt canolog ar gyfer ymholiadau ynghylch Cyfeirnodau Eiddo Unigryw (UPRNs) agored. Mae’n bartneriaeth gydag OS a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA).

Wefan FindMyAddress (Saesneg yn unig)


Mae FindMyStreet yn dangos pob stryd yng Nghymru a Lloegr sy’n cael ei chadw yn y National Street Gazetteer.

Bydd yn dweud wrthych ble mae stryd, beth yw ei henw swyddogol, a chyfrifoldeb cynnal a chadw’r stryd honno. Mae’r data’n cael ei greu a’i gynnal gan awdurdodau lleol, ei gasglu, a’i reoli’n ganolog gan GeoPlace.

Wefan FindMyStreet (Saesneg yn unig)