Ymhle mae'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal?

Fel rheol mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal Cyfarfodydd Cynllunio ar yr ail ddydd Mercher bob mis am 10am yn swyddfeydd y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron.

Pwy sy'n cael mynychu cyfarfodydd y pwyllgor?

Mae croeso i bawb ddod i gyfarfodydd y pwyllgor cynllunio. Bydd aelodau o'r Cabinet yn bresennol, a chynghorwyr lleol eraill, swyddogion cynllunio a'r wasg hefyd gan ddibynnu pa geisiadau sy'n cael eu trafod.

Sut mae cael copi o'r agenda?

Mae agenda'r Pwyllgor Cynllunio ar gael i'r cyhoedd ar y dydd Gwener cyn y cyfarfod ar y dydd Mercher. FE allwch weld yr agenda a chofnodion y cyfarfod diwethaf ar lein trwy ddilyn y ddolen ganlynol: Agenda a Chofnodion.

Aelodau o'r Cyhoedd yn Annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredu

Atodiad dros dro i'r “gweithdrefnau gweithredol ar gyfer aelodau'r cyhoedd sy'n annerch y pwyllgor rheoli datblygu” mewn ymateb i Covid-19

Cyflwyniad Ysgrifenedig i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu