Brig y Tudalen 

A yw myfyrwyr yn medru hawlio Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol?

Nid yw'r mwyafrif o fyfyrwyr llawn amser yn medru hawlio Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol gan fod y Llywodraeth yn disgwyl iddynt ddefnyddio arian arall i dalu'r rhent, megis grant, benthyciad i fyfyrwyr neu gronfa mynediad.

O ran Budd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor, diffinnir myfyriwr fel unrhyw unigolyn sy'n astudio cwrs mewn sefydliad addysgiadol gan astudio yn y sefydliad hwnnw am fwy nag 16 awr yr wythnos. Os ydych yn ansicr a ydych yn fyfyriwr llawn amser neu ran amser, cysylltwch â'ch Coleg neu Brifysgol i ofyn am eu cyngor.

Brig y Tudalen

Pa fyfyrwyr sydd efallai'n medru hawlio Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad  Treth y Cyngor?

  • myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ar sail incwm)
  • myfyrwyr rhan amser
  • myfyrwyr iau na 21 sy'n astudio cwrs addysg bellach (ond nid addysg uwch)
  • myfyrwyr iau na 20 sy'n gymwys am Fudd-dal Plant
  • myfyrwyr sydd wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, neu sydd â phartner sydd wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • myfyrwyr (cyplau a rhieni unigol) sy'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc
  • myfyrwyr sy'n gyfrifol am blentyn maeth
  • myfyrwyr sy'n gymwys am bremiwm anabledd oherwydd eu bod:
    • wedi cofrestru fel person dall
    • yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl
    • yn cael Taliad Annibyniaeth Bersonol
    • yn cael Tailad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
    • yn derbyn cyfradd tymor hir o Fudd-dal Analluogrwydd
    • yn derbyn cyfradd tymor byr uwch o Fudd-dal Analluogrwydd (sy'n cychwyn ar ôl 28 wythnos o fod yn analluog i weithio)
    • yn fyfyrwyr sydd wedi bod â chyfyngiad ar eu gallu i weithio, neu sy'n cael eu trin felly, am 28 wythnos neu'n hwy
  • myfyrwyr sy'n derbyn grant y Deyrnas Unedig sy'n cynnwys lwfans am fyddardod
  • myfyrwyr nad ydynt yn gallu cael grant neu fenthyciad i fyfyrwyr ar ôl bod yn absennol o'u hastudiaethau (gyda chaniatâd eu sefydliad addysgiadol) yn sgil salwch neu ddarparu gofal i unigolyn arall.

O ran cymhwyster cyplau, rhaid ystyried os yw'r ddau unigolyn yn fyfyrwyr ai peidio. Os yw'r ddau yn fyfyrwyr ni fyddant yn gymwys am fudd-dal os nad yw un ohonynt yn perthyn i un neu fwy o'r categorïau uchod.

SUT BYNNAG:

Ni fydd hawl gennych gael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Nid ydych chi na'ch cymar (lle bo'n briodol) yn gyfrifol am dalu'r rhent a/neu'r Dreth Gyngor .
  • Rydych chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) â chynilion a/neu fuddsoddiadau o fwy na £16,000 (oni bai eich bod yn cael elfen credyd gwarantiedig y Credyd Pensiwn)
  • Rydych yn talu rhent i berthynas agos sy'n byw yn yr un eiddo (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn rhentu eiddo yr oeddech chi (neu'ch cymar) yn berchen arno gynt (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn byw mewn cartref gofal, megis cartref nyrsio neu gartref i'r henoed (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn rhiant neu'n warcheidwad i blentyn eich landlord (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol)
  • Rydych yn byw gartref fel amod o'ch gwaith gan y landlord (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol)
  • Rydych yn geisydd lloches oni bai y rhoddwyd statws ffoadur neu ganiatâd eithriadol neu amhenodol i chi (gelwir caniatâd dyngarol neu ddewisol hefyd ar hynny) i aros yn y Deyrnas Unedig. 
  • Cawsoch eich derbyn i'r Deyrnas Unedig ar yr amod nad oes dim hawl gennych i gronfeydd cyhoeddus. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i chi beidio â hawlio budd-daliadau yn y Deyrnas Unedig. 
  • Rydych yn fewnfudwr noddedig ac rydych yn byw yma ers llai na phum mlynedd. 
  • Rydych yn y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon neu y mae'ch caniatâd i aros wedi dirwyn i ben. 

Efallai na fydd hawl gennych i Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Roeddech yn arfer byw gyda'ch landlord yn aelod o'r teulu, perthynas neu ffrind a'ch bod yn awr yn talu rhent i'r person hwnnw. 
  • Rydych yn byw mewn eiddo y mae urdd grefyddol yn ei gynnal ac rydych yn aelod o'r urdd grefyddol honno. 
  • Rydych yn rhentu oddi wrth ymddiriedolaeth ac rydych hefyd yn ymddiriedolwr neu fuddiolwr. 
  • Roeddech yn arfer bod yn berchen ar yr eiddo yr ydych yn ei rentu bellach. 
  • Rydych yn byw dros dro oddi cartref - gweler 'Absenoldeb Dros Dro' i gael mwy o wybodaeth

Dalier sylw mai canllawiau yn unig yw'r uchod. Mae'r rheoliadau cymhwysedd a 'Phobl o Dramor' yn dra chymhleth a gallwch gysylltu â ni ar 01970 633252 neu ein hebostio ar revenues@ceredigion.gov.uk i wirio a fyddech yn gymwys i gael budd-dâl. Fel arall, gallwch ddadlwytho a chwblhau Ffurflen Gais fel y gall yr Awdurdod Lleol benderfynu yn swyddogol ar unrhyw hawl.

Brig y Tudalen

A yw myfyrwyr sy'n rhentu eiddo gan Brifysgol neu Goleg yn medru hawlio Budd-dal Tai?

Ydynt, mae myfyrwyr llawn amser neu ran amser sy'n gymwys i hawlio Budd-dal Tai yn gallu hawlio ar gyfer yr eiddo a rentir gan y brifysgol neu'r coleg.

Brig y Tudalen

Rhaid i mi gadw dau d? – un yn y coleg ac un adref. A ydw i'n gallu hawlio Budd-dal Tai?

Os ydych yn perthyn i un o'r grwpiau o fyfyrwyr all fod yn gymwys i hawlio Budd-dal Tai, yna mae Budd-dal Tai fel arfer yn daladwy ar gyfer y t? yr ydych yn byw ynddo ac yn talu rhent amdano yn unig. Fodd bynnag, ceir ambell i eithriad i'r rheol hon yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Cysylltwch â ni am gyngor.

Brig y Tudalen

Rwy'n byw mewn eiddo â myfyrwyr eraill. A fydd rhaid i ni dalu Treth y Cyngor?

Fel arfer, ni fydd rhaid i chi dalu Treth y Cyngor. Os ydych yn byw mewn eiddo sy'n dal myfyrwyr yn unig, gallwch hawlio rhyddhad o Dreth y Cyngor (hynny yw, peidio gorfod talu Treth y Cyngor). Er mwyn gwneud hyn, rhaid i bawb sy'n byw yn yr eiddo gyflwyno'u tystysgrifau myfyrwyr* i Swyddfa Treth y Cyngor. Os nad yw Swyddfa Treth y Cyngor yn derbyn tystysgrifau gan bawb yn yr eiddo, maent fel arfer yn gyrru bil am Dreth y Cyngor.

*Os ydych yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth neu Llanbedr Pont Steffan, y cyfan sy'n rhaid i chi ei ddarparu yw eich enw llawn, eich cytundeb tenantiaeth, eich rhif cwrs a rhif cofrestru, a gellir croesgyfeirio'r manylion hyn â'r rhestr o'r holl fyfyrwyr llawn amser sydd wedi cofrestru a ddarperir gan y Brifysgol.

Brig y Tudalen

Rwy'n byw mewn neuadd breswyl. A fydd rhaid i mi dalu Treth y Cyngor?

Na, ni fydd rhaid i chi dalu'r Dreth Gyngor fel rheol. Gan fod yr eiddo'n rhydd o'r dreth, ni fydd angen i chi hawlio rhyddhad.

Brig y Tudalen

Rwy'n rhannu llety â phobl eraill nad ydynt oll yn fyfyrwyr. A fydd rhaid i mi dalu Treth y Cyngor?

Nid yw myfyrwyr bellach yn gallu bod yn atebol ar y cyd o ran talu Treth y Cyngor, felly dim ond os mai chi yw'r perchennog neu'r prif denant y byddech yn atebol.

Gall y rhai nad ydynt yn fyfyrwyr hawlio ar sail eu hincwm. Ond ni fyddech chi'n medru hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor os nad ydych yn perthyn i un o'r categorïau o fyfyrwyr sy'n medru hawlio. Gweler y pennawd Pa fyfyrwyr sydd efallai'n medru hawlio Budd-dal Tai, Lwfans Tai Leol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor?.

Brig y Tudalen

Sut ydw i'n hawlio os ydw i'n gymwys?

Gallwch llenwi a ddatgan ffurflen gais ar lein, lawrlwytho Ffurflen Cais Budd-Talidau o'r dudalen Ffurflenni y Gallwch Lawrlwytho. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Awdurdod Lleol trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk, neu ffonio 01970 633252 neu drwy ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch. Gallwch hefyd ymweld ag un o'n Swyddfeydd Ardal Lleol i gasglu ffurflen.

Gallwch ddychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk neu ei phostio at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt neu ewch â hi i'ch Swyddfa Ardal Leol.

Nodwch taw mewn achosion cyplau fe ddylai'r un sydd dim yn myfyriwr gwneud y gais.

Brig y Tudalen

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei ddarparu?

Mae'n bwysig ein bod yn talu'r swm cywir i'n cwsmeriaid, ac y caiff twyll a chamgymeriadau eu canfod cyn gynted ag y bo modd a'u hatal. Mae hyn yn dibynnu ar:

  • Y Cyngor yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth briodol i gefnogi hawliadau; a'r
  • Cyngor yn gwirio'r wybodaeth ar ôl dechrau talu.

Rydym hefyd yn dibynnu arnoch chi i'n hysbysu ar unwaith os yw eich amgylchiadau'n newid. Os nad ydych yn rhoi gwybod i ni am y newidiadau hyn gallwch golli allan ar arian y mae gennych hawl amdano, neu efallai y fyddwn yn gordalu chi ac y bydd rhaid i chi ad-dalu ni yn ddiweddarach.   

Yn ogystal â'ch ffurflen gais wedi'i llanw bydd rhaid i chi a'ch partner (os yw'n berthnasol) ddarparu'r canlynol:

  • Tystiolaeth adnabod
  • Tystiolaeth o gyfeiriad
  • Tystiolaeth rhif yswiriant cenedlaethol
  • Tystiolaeth o gyfalaf, cynilion a buddsoddiadau
  • Tystiolaeth enillion
  • Tystiolaeth o incwm arall
  • Tystiolaeth o fudd-daliadau, lwfansau neu bensiynau
  • Tystiolaeth o rent preifat a thenantiaeth
  • Tystiolaeth o unrhyw arian arall a dalwyd

Gweler y 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Ategol' am restr gyflawn o'r dogfennau y gellir eu cyflwyno i gefnogi'ch hawliad am fudd-dal.

Gallwn dderbyn dogfennau gwreiddiol yn unig ac nid llungopïau.

Os nad oes gennych yr holl dystiolaeth a'r wybodaeth sydd angen arnom, peidiwch ag oedi cyn gyrru eich ffurflen gais. Dylid cyflwyno pob tystiolaeth yn gefn i'r cais cyn gynted ag sy'n bosibl er mwyn inni fedru ystyried yr hawliad; fodd bynnag, bydd angen cyflwyno'r wybodaeth honno o fewn mis ar ôl cyflwyno eich ffurflen hawlio.

Brig y Tudalen

Sut ydych chi'n cyfrif incwm myfyriwr?

Ystyrir y swm llawn o fenthyciad i fyfyrwyr sydd ar gael, hyd yn oed os na dderbynnir y swm llawn. Fodd bynnag, rydym yn anwybyddu'r £10 cyntaf o'r arian hwn bob wythnos.

Incwm wythnosol o fwrsari a gaiff ei ystyried ar gyfer myfyriwr sydd ar gwrs diploma nyrsio neu fydwreigiaeth.

O ran myfyrwyr nyrsio nad ydynt yn astudio ar gyfer diploma, rydym yn cyfrif unrhyw fwrsari a'r swm llawn o incwm drwy fenthyciad, yn yr un modd ag y gwnawn ar gyfer pob myfyriwr.

Brig y Tudalen

A yw'r swm o gyfalaf sydd gennyf yn effeithio ar fy hawliad?

Mae cyfalaf yn cynnwys arian parod, cyfrifon cyfredol, cyfrifon banc/cymdeithas adeiladu/swyddfa'r post eraill, ymddiriedolaethau unedol, cyfrifon cynilo unedol, tystysgrifau cynilion cenedlaethol, stociau, cyfrannau, bondiau premiwm ac eiddo (heblaw am y cartref yr ydych yn byw ynddo), neu dir sy'n eiddo i chi.

Os ydych chi a'ch partner (os yw'n berthnasol) heb cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yr effaith ar eich hawl yn dibynnu ar y swm o gyfalaf sydd gennych.

  • Os ydych chi a'ch partner (os yn berthnasol) yn meddu ar gyfalaf ar y cyd dros £16,000 ni fyddwch fel rheol yn gallu cael Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor
  • Gallwch chi a'ch partner (os yn berthnasol) feddu ar gyfalaf ar y cyd hyd at £6,000 cyn y caiff eich hawl ei effeithio
  • Os ydych chi neu'ch partner heb cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, ystyrir incwm o £1 am bob £500 (neu ran o £500) rhwng £6,000 ac £16,000 wrth i ni benderfynu eich hawl. Gelwir hyn yn 'incwm tariff'. Rhowch glic ar 'incwm tariff' i gyfrifo'r incwm a ddefnyddir wrth asesu'ch hawliad.

Os ydych chi a'ch partner (os yw'n berthnasol) wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yr effaith ar eich hawl yn dibynnu ar y swm o gyfalaf sydd gennych.

  • Os ydych chi a'ch partner (os yn berthnasol) yn meddu ar gyfalaf ar y cyd dros £16,000 ni fyddwch fel rheol yn gallu cael Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor (heblaw os ydych yn derbyn yr elfen credyd gwarantedig o Gredyd Pensiwn)
  • Gallwch chi a'ch partner (os yn berthnasol) feddu ar gyfalaf ar y cyd hyd at £10,000 cyn y caiff eich hawl am fudd-dal ei effeithio
  • Os ydych chi neu'ch partner wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, ystyrir incwm o £1 am bob £500 (neu ran o £500) rhwng £10,000 ac £16,000 wrth i ni benderfynu eich hawl am fudd-dal. Gelwir hyn yn 'incwm tariff'. Rhowch glic ar 'incwm tariff' i gyfrifo'r incwm a ddefnyddir wrth asesu'ch hawliad.

Brig y Tudalen 

Beth sy'n digwydd os oes pobl eraill yn byw gyda fi?

Efallai y caiff eich hawl ei gwtogi os oes unigolyn arall sy'n 18 mlwydd oed neu'n hyn (heblaw am eich partner) yn byw gyda chi yn eich cartref, er enghraifft, mab neu ferch sy'n oedolyn, cyfaill neu berthynas.

Gelwir yr unigolion hyn yn 'bobl annibynnol', ac mae'n bosibl y tynnir swm penodol oddi ar eich hawl wythnosol ar gyfer pob person annibynnol sy'n byw yn eich cartref, yn dibynnu ar eu hincwm a'u hamgylchiadau.

I weld faint yw'r swm penodol ar hyn o bryd, a phryd y tynnir y swm oddi ar eich budd-dal, gweler 'Pobl annibynnol'.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd pan rydych yn derbyn fy hawliad?

Byddwn yn gwirio'r ffurflen gais a'r dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd gennych.

Os byddwn angen mwy o wybodaeth fe byddwn yn cysylltu a chi. Rhaid darparu'r wybodaeth hyn cyn pen un mis calendr neu mae'n bosibl na fyddwn yn gallu talu chi.

Brig y Tudalen

Faint o amser a gymerwch chi wrth asesu fy nghais?

Rydym yn anelu at ddod i benderfyniad cyn pen 14 niwrnod ar ôl derbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Brig y Tudalen

A fydd Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol yn talu'r swm llawn o rent a godir gan fy landlord preifat?

Efallai na fydd Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol yn talu'ch rhent yn llawn ac felly byddwch yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg rhwng y budd-dal a ddyfarnwyd a'r union rent a godir gan eich landlord.

Yn gyntaf, byddwn yn gwirio a yw eich hawliad yn cael ei ystyried o dan Reoliadau Budd-dal Tai neu Reoliadau Lwfans Tai Lleol.

Rhowch glic ar gysylltiad Lwfans Tai Lleol i weld os cewch eich ystyried o dan y cynllun hwn ac i wirio cyfraddau wythnosol cyfredol y Lwfans Tai Lleol.

Os ydych yn rhentu'ch cartref gan landlord preifat (nid yw hyn yn cynnwys tenantiaeth Cymdeithas Tai) ac yn anghymwys o dan gynllun y Lwfans Tai Lleol, mae'n rhaid i ni ofyn i'r Gwasanaeth Rhent os ydych yn talu rhent rhesymol.

Brig y Tudalen

Beth yw'r Gwasanaeth Rhent?

Mae'r Gwasanaeth Rhent yn annibynnol o'r Awdurdod Lleol a byddant yn ein darparu â phrisiant rhent ar gyfer eich llety, a ystyrir wrth asesu eich hawliad am Fudd-dal Tai. Y Gwasanaeth Rhent sydd hefyd yn gosod cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol.

Penderfyniadau Budd-dal Tai

Wrth ddod i benderfyniad bydd y Swyddog Rhent yn ystyried:

  • Lefel y rhent
  • Y rhent am eiddo tebyg yn y cyffiniau
  • Nifer ystafelloedd
  • Oedran y bobl sy'n byw yn yr eiddo a asesir, a'u nifer

Fel arfer, bydd y penderfyniad yn gymwys i'ch hawliad am 12 mis os nad oes newid arwyddocaol i'r eiddo neu'r nifer o bobl sydd yn byw yn yr eiddo.

Lwfans Tai Lleol

Pennir cyfradd y Lwfans Tai Lleol wrth ystyried y canlynol:

  • Ble'r ydych yn byw
  • Oedran y bobl sy'n byw yn eich cartref, a'u nifer

Cyfradd uchaf y Lwfans Tai Lleol o ran eich hawliad chi yw'r gyfradd ym mis Ebrill y flwyddyn ariannol yr hawliwch chi h.y. bydd cyfraddau Lwfans Tai Lleol Ebrill 2014 yn gymwys ar gyfer hawliadau a wneir neu yr ystyrir eu bod wedi eu gwneud yn ystod y cyfnod 01.04.2014 hyd 31.03.2015

Gweler Lwfans Tai Lleol os bydd y rhent y mae'ch landlord yn ei godi yn is/uwch na chyfradd y Lwfans Tai Lleol.

Brig y Tudalen

Beth os ydw i'n iau na 35 mlwydd oed?

Mae rheolau'r Llywodraeth yn cyfyngu ar faint o Fudd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol y gall pobl sengl o dan 35 nad oes plant yn byw gyda nhw ei hawlio. Byddwch yn gallu hawlio Cyfradd Llety a Rennir (SAR) yn unig i'ch helpu chi gyda'r rhent.

Cewch eich eithrio rhag Cyfradd Llety a Rennir o dan yr amgylchiadau isod:-

  • Os ydych o dan 22 oed ac yr oeddech yn arfer bod yng ngofal y Gwasanaethau Cymdeithasol,
  • Os mae gennych ofalwr dibreswyl sy'n aros yn rheolaidd gyda chi dros nos i ddarparu gofal ,
  • Mae gennych hawl i gael y Premiwm Anabledd Difrifol wedi ei gynnwys wrth gyfrif eich budd-dal oherwydd eich bod chi'n cael cyfradd ganol neu uchaf elfen ofal Lwfans Byw'r Anabl, yr elfen o'r Taliad Annibyniaeth Bersonol sy'n ymwneud â Bywyd Beunyddiol neu Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Yr ydych rhwng 25 a 35 oed ac yr ydych chi wedi treulio o leiaf 3 mis mewn hostel arbennig ar gyfer y digartref,
  • Yr ydych yn gyn-droseddwr sy'n peri risg i'r cyhoedd

Brig y Tudalen

A fedraf ddarganfod beth yw'r uchafswm o Fudd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol y gallaf ei hawlio cyn i mi symud i lety newydd?

Medrwch. Mae'r Lwfans Tai Lleol yn seiliedig ar y nifer o ystafelloedd sydd angen arnoch chi a'ch teulu (os yn berthnasol), a'r ardal ble'r ydych yn byw. Gallwch wirio ym mha ardal mae'r eiddo y dymunwch ei rentu drwy roi'r cod post i'r Gwasanaeth Rent ar eu gwefan LHA Direct.

Mae'r cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol yn cael eu hadolygu'n flynyddol ddechrau mis Ebrill bob blwyddyn oni fydd newid yn eich amgylchiadau a fydd yn effeithio ar nifer yr ystafelloedd gwely a ddefnyddir i gyfrifo'r Lwfans Tai Lleol, er enghraifft, os bydd rhywun yn symud i mewn neu allan o'ch eiddo chi.

Unwaith y byddwch wedi sefydlu y nifer o ystafelloedd gwely a fudd hangen arnoch chi a'ch teulu (os yn berthnasol) gallwch weld – Cyfraddau cyfredol ar gyfer Ceredigion.

I denantiaethau na chaiff eu heffeithio gan y Lwfans Tai Lleol, gallwch ddarganfod faint o'r rhent y byddwn yn ei ystyried wrth gyfrifo'ch Budd-dal Tai cyn i chi ymgartrefu yn yr annedd. Gallwch wneud hyn drwy lanw ffurflen penderfyniad cyn-denantiaeth.

Gallwch gysylltu â ni ar 01970 633252, gyrru e-bost i ni ar revenues@ceredigion.gov.uk neu alw heibio unrhyw un o'n Swyddfeydd Rhanbarthol Lleol i ofyn am ffurflen penderfyniad cyn-denantiaeth.

Noder bod cyfraddau wythnosol y Lwfans Tai lleol neu'r ffigyrau penderfyniad cyn-denantiaeth yn rhoi'r uchafswm o fudd-dal y gellid ei dalu. Bydd gofyn i chi lanw ffurflen gais a darparu'r holl dystiolaeth ategol er mwyn i'r Cyngor Sir gyfrifo'ch hawl wythnosol.

Brig y Tudalen

Faint o Fudd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor fyddai'n ei dderbyn?

Asesir y lefel o Fudd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor drwy gymharu'ch incwm ac incwm eich partner (os yn berthnasol) gyda'ch Swm Perthnasol. Swm safonol a osodir bob blwyddyn gan y Llywodraeth (DU a Chymru) yw'r Swm Perthnasol, a hwn yw'r swm yn ôl y gyfraith sydd angen arnoch er bywoliaeth.

Os byddwch chi neu'ch cymar (lle bo'n briodol) yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yng nghyswllt incwm), neu elfen warantedig o Gredyd Pensiwn mae swm y budd-dâl wythnosol a gewch fel arfer fel a ganlyn :

  • Hyd at uchafswm cyfradd y Lwfans Tai Lleol  neu asesiad y Gwasanaeth Rhenti am eich cais
  • Eich atebolrwydd cymwys wythnosol o ran rhent os ydych yn denant Cymdeithas Dai (DS os bydd eich rhent yn cynnwys taliadau am wasanaethau h.y. ardrethi dwr, gwres etc, didynnir y rheini oddi ar eich rhent wythnosol gan na all Budd-dâl Tai gwrdd â'r taliadau hynny). Hefyd ar ôl 01.04.2013 gallai cwsmeriaid sydd o oedran gweithio sy'n rhentu gan un o'r Cymdeithasau Tai cofrestredig weld gostyngiad yn eu Budd-dal Tai uchaf os ystyrir eu bod yn tanfeddiannu'r eiddo – gweler "Meini Prawf sy'n ymwneud â Budd-daliadau a Maint" am fwy o wybodaeth.
  • Eich atebolrwydd wythnosol i gwrdd â'r Dreth Gyngor

Dyma'r swm uchaf y gallwn ei dalu. Serch hynny, gallech gael llai na'r swm uchaf os oes annibynyddion yn rhannu'ch cartref.

Os nad ydych chi neu'ch cymar (lle bo'n briodol) yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yng nghyswllt incwm), byddwn yn cymharu'ch incwm wythnosol ac unrhyw incwm tariff  sy'n deillio o gyfalaf/cynilion â'ch Swm Perthnasol.

Os nad ydych yn derbyn yr elfen warantedig o Gredyd Pensiwn byddwn yn cymharu'ch incwm wythnosol ac unrhyw incwm tariff o gyfalaf/cynilion â'ch Swm Perthnasol.

Rydym yn defnyddio symiau a bennir yn flynyddol gan y llywodraeth (DU a Chymru) o'r enw lwfansau personol a phremiymau i gyfrifo faint o arian y mae ei angen arnoch chi a'ch aelwyd i fyw. Eich Swm Perthnasol yw cyfanswm y lwfansau personol a'r premiymau.

Bydd lwfans personol yn dibynnu ar:

  • Eich oedran;
  • A ydych yn sengl neu a oes cymar gennych;
  • Sawl plentyn sy'n dibynnu arnoch a'u hoedrannau.

Ychwanegir premiymau at eich lwfansau personol i gydnabod anghenion:

  • Teuluoedd;
  • Pobl Anabl;
  • Gofalwyr.

Os yw'ch incwm wythnosol yn llai na'ch Swm Perthnasol, neu'r un faint ag ef, byddwn yn talu'r budd-dâl uchaf (gweler uchod), namyn symiau ar gyfer annibynyddion sy'n byw gyda chi.

Yn achos Budd-dâl Tai neu Lwfans Tai Lleol, os bydd eich incwm wythnosol yn uwch na'ch Swm Perthnasol, byddwn yn tynnu 65c oddi ar eich budd-dâl uchaf (gweler uchod) am bob £1 o'ch incwm sydd dros eich Swm Perthnasol.

Yn achos Gostyngiad Treth y Cyngor – os bydd eich incwm wythnosol yn uwch na'ch Swm Perthnasol, byddwn yn tynnu 20c oddi ar eich gostyngiad uchaf (gweler uchod) am bob £1 o'ch incwm sydd dros eich Swm Perthnasol.

Brig y Tudalen

A oes isafswm sy'n daladwy?

50c yr wythnos yw isafswm y Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol sy'n daladwy.

Nid oes isafswm ar gyfer faint o Ostyngiad Treth y Cyngor sy'n daladwy bob wythnos.

Brig y Tudalen

Sut caiff fy mudd-dal/ngostyngiad ei dalu?

Os ydych yn denant preifat sy'n gymwys am Fudd-dal Tai ers cyn 7 Ebrill 2008 neu'n Denant Cymdeithas Tai sy'n gymwys am Fudd-dal Tai, fe dalwn 'lwfans rhent' i chi. Telir y lwfans rhent fel ôl-daliad bob pythefnos fel arfer; fodd bynnag, ar adegau gallwn ei dalu i'ch Cymdeithas Dai neu'ch landlord. Os felly, telir eich lwfans rhent yn uniongyrchol i'ch Cymdeithas Tai neu'ch landlord fesul 4 wythnos, fel ôl-daliad.

Os ydych yn denant preifat sy'n gymwys am Lwfans Tai Lleol ers 7 Ebrill 2008 mae'n rhaid i ni ei dalu i chi os nad oes unrhyw amgylchiadau eithriadol. Gallwn gyflwyno taliadau i'ch landlord mewn amgylchiadau penodol yn unig ac rydym wedi datblygu cyfres o feini prawf i'n cynorthwyo wrth benderfynu ar yr achosion hyn; dyma yw ein Polisi Diogelu.

Fe ad-dalwn eich Gostyngiad Treth y Cyngor yn uniongyrchol i'ch cyfrif Treth Cyngor, cyn gyrru bil Treth Cyngor newydd i roi gwybod faint sydd angen i chi ei dalu.

Brig y Tudalen

Pryd fydd fy nghais yn cychwyn?

Os ydych yn gymwys am Fudd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol, fe dalwn eich budd-dal fel arfer o'r dydd Llun cyntaf ar ôl i chi ofyn i ni am ffurflen gais (cyn belled ac eich bod yn dychwelyd y ffurflen cyn pen un mis calendr ar ôl cysylltu â ni).

Os ydych chi'n gymwys i gael Gostyngiad Treth y Cyngor, fel rheol byddem yn rhoddi'r gostyngiad i chi o'r dyddiad y gofynnoch chi am ffurflen gais (os dychwelwch chi'r ffurflen gais o fewn mis ar ôl cysylltu â ni).

Pan wnewch chi hawliad am Fudd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyniad Treth yr Cyngor dros y ffôn drwy'r Ganolfan Byd Gwaith, byddwn yn ystyried mai'r dyddiad y cysylltoch â hwy yw dyddiad eich hawliad.

Os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth fe fydd dyddiad hawlio pob budd-dal yr un fath.

Brig y Tudalen

A ellir ôl-ddyddio fy nghais?

Os ydych chi neu'ch partner (os yn berthnasol) heb cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth y fan bellaf y gallwn ol-dyddio eich cais yw:

  • 1 mis ar rhan Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol
  • 3 mis ar rhan Gostyngiad Treth y Cyngor

a hynny o'r dyddiad y gofynnwch iddo gael ei ôl-ddyddio, cyn belled ag y medrwch ddangos :

  • Bod 'achos da' gennych am beidio â gwneud eich cais ynghynt
  • Na allech wneud cais gydol y cyfnod yr ydych yn dymuno i'ch hawl gael ei ôl-ddyddio ar ei gyfer

Rhaid gwneud cais ysgrifenedig am ôl-ddyddiad.

Os ydych chi neu'ch partner (os yn berthnasol) wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth byddwn yn ôl-ddyddio'ch hawliad am hyd at 3 mis yn awtomatig ar yr amod eich bod yn gallu dangos eich bod yn gymwys ar gyfer Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor yn y cyfnod hwnnw.

Gweler Ôl-ddyddio am fwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Am faint o amser y telir budd-dal/gostyngiad?

Telir eich budd-dal/gostyngiad am ba hyd bynnag eich bod yn gymwys. O bryd i'w gilydd bydd angen i ni gadarnhau manylion eich hawliad, a byddwn yn cysylltu â chi fel bo'r angen neu drefnu dod i'ch gweld.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os ydw i'n anghytuno â'ch penderfyniad?

Ar ôl penderfynu ar eich hawliad byddwn yn gyrru llythyr hysbysu swyddogol atoch. Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi am yr holl fanylion a ystyriwyd gennym wrth benderfynu'ch hawl, ac mae'n bwysig eich bod yn gwirio'r holl wybodaeth.

AR GYFER BUDD-DAL TAI NEU LWFANS TAI LLEOL:

Os ydych chi am gael gwybod mwy am y penderfyniad neu os ydych chi'n credu ei fod yn anghywir, dylech chi gysylltu â ni o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr neu efallai na allwn ni ystyried unrhyw angydfod.

Gallwch un ai ofyn am eglurhad, neu:

  • ofyn yn ysgrifenedig am 'Ddatganiad Rheswm' ysgrifenedig
  • gofyn i ni ailystyried y penderfyniad - 'Dadlau â'r Penderfyniad'. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig. Os medrwn newid y penderfyniad fe yrrwn yr un newydd i chi. Os na fedrwn wneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod pam. Os ydych yn dal i anghytuno gallwch wneud apêl cyn pen mis ar ôl dyddiad y penderfyniad newydd.
  • 'Apelio' yn erbyn y penderfyniad - gellir gwneud hyn yn ysgrifenedig yn unig. Os ydych yn gwneud apêl yn erbyn penderfyniad caiff eich apêl ei atgyfeirio i Dribiwnlys Annibynnol a weinyddir gan y Gwasanaeth Tribiwnlys.

AR GYFER GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR

Os oes arnoch chi angen mwy o fanylion ynghylch unrhyw fater sydd wedi ei osod yn yr hysbysiad neu'r rhesymau dros y penderfyniad gallwch chi wneud cais o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr am 'Ddatganiad Ysgrifenedig o'r Rhesymau'.

Os ydych chi'n anghytuno â'r penderfyniad gallwch o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor yn nodi'n glir y mater(ion) yr ydych chi'n anfodlon arno a'r rhesymau. Byddwn yn ystyried y mater(ion) sydd ynglŷn â'ch hysbysiad chi a rhoddwn wybod i chi'n ysgrifenedig o'n penderfyniad ni gyda rhesymau. Yn dilyn y llythyr hwnnw os byddwch chi'n dal yn anfodlon bydd gennych chi 2 fis i apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Sylwer, gallwch chi apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru os na fyddwn ni wedi rhoi gwybod i chi ynghylch ein penderfyniad o fewn 2 fis ar ôl i chi gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor.

Gweler Apeliadau am fwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os yw fy amgylchiadau'n newid?

Yn ôl y gyfraith rhaid i chi ein hysbysu am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a ystyriwyd gennym wrth benderfynu faint o Fudd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol, a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor mae gennych hawl amdano.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni ar unwaith. Dylech gysylltu â ni hyd yn oed os ydych yn disgwyl clywed yn ôl gennym ynglun â'ch hawliad, neu hyd yn oed os ydych wedi rhoi gwybod i rywun arall, megis eich landlord neu'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Os na rowch wybod i ni, efallai y byddwch yn derbyn y swm anghywir o fudd-dal/gostyngiad. Mae'n bosibl na fyddwn yn talu digon o fudd-dal i chi a'ch bod yn colli arian y mae gennych hawl i'w dderbyn, neu mae'n bosibl hefyd y byddwn yn gordalu chi ac bydd rhaid i chi ei dalu'n ôl yn ddiweddarach.

Am wybodaeth fanwl ynglyn â hysbysu am newid mewn amgylchiadau, a pha newidiadau sydd raid i chi ein hysbysu amdanynt - gweler 'Newid Amgylchiadau'.

Brig y Tudalen

A fedraf gael cymorth ychwanegol i dalu fy rhent?

Os ydych yn derbyn rhywfaint o Fudd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol ond yn cael anhawster talu gweddill eich rhent, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn taliad ychwanegol i'ch cynorthwyo i dalu'r diffyg. Gelwir hyn yn Daliad Tai Dewisol.

Ystyrir pob cais am Daliad Tai Dewisol yn ôl teilyngdod pob achos penodol. Rhoddir y taliad os gallwch ddangos eich bod yn profi caledi ariannol, neu fod amgylchiadau arbennig yn peri anhawster i chi o ran talu'ch rhent.

Gweler Taliad Tai Dewisol am fwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen