Brig y Tudalen

Beth yw Budd-dâl Tai?

Budd-dâl gan y Llywodraeth yw Budd-dâl Tai i roi cymorth i chi dalu eich rhent. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweinyddu'r cynllun i bobl sy'n byw yn ei ardal. Mae faint o arian a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a faint o rent y mae'n rhaid i chi ei dalu.

Brig y Tudalen

Beth yw'r Lwfans Tai Lleol?

Lwfans tai safonol yw'r Lwfans Tai Lleol sydd ar sail y lefelau rhent ar gyfer ardal benodol a maint aelwyd y tenant ac nid yr union rent a gwyd y landlord ar gyfer yr eiddo. Mae hynny'n golygu y bydd hawl gan denantiaid ar aelwydydd sydd â'r un meini prawf ac sy'n byw yn yr un ardal gael yr un gyfradd o'r Lwfans Tai Lleol – Gweler cyfraddau presennol

Brig y Tudalen

Beth yw Gostyngiad Treth y Cyngor?

Cynllun gan y Llywodraeth (DU a Cymru) yw Gostyngiad Treth y Cyngor sy'n rhoi cymorth i chi â'ch Treth Gyngor. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweinyddu'r cynllun i bobl sy'n atebol i dalu'r Dreth Gyngor ac sy'n byw yn ei ardal. Bydd faint o arian y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau a faint o Dreth Gyngor y mae'n rhaid i chi ei dalu.

Brig y Tudalen

A allaf hawlio Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol?

Gallwch wneud cais am yr uchod os byddwch ar incwm isel, yn ddiwaith, yn methu â gweithio oherwydd salwch, wedi ymddeol neu yn gofalu am rywun a'ch bod yn cwrdd â phob un o'r amodau canlynol :

Brig y Tudalen

A allaf hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor?

Gallwch wneud cais am yr uchod os byddwch ar incwm isel, yn ddiwaith, yn methu â gweithio oherwydd salwch, wedi ymddeol neu yn gofalu am rywun a'ch bod yn cwrdd â phob un o'r amodau canlynol :

  • Rhaid i chi fod yn atebol i dalu Treth Gyngor
  • Rhaid i chi feddiannu'r eiddo yr ydych yn atebol amdano i dalu Treth Gyngor fel eich cartref

Nid ydych yn disgyn o dan gategorïau'r bobl ganlynol: 'Pwy na fydd, neu efallai na fydd yn medru, gwneud cais?' i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Pwy na fydd neu efallai na fydd yn medru gwneud cais?

Ni fydd hawl gennych gael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Nid ydych chi na'ch cymar (lle bo'n briodol) yn gyfrifol am dalu'r rhent a/neu'r Dreth Gyngor .
  • Rydych chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) â chynilion a/neu fuddsoddiadau o fwy na £16,000 (oni bai eich bod yn cael elfen credyd gwarantiedig y Credyd Pensiwn)
  • Rydych yn talu rhent i berthynas agos sy'n byw yn yr un eiddo (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn rhentu eiddo yr oeddech chi (neu'ch cymar) yn berchen arno gynt (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn byw mewn cartref gofal, megis cartref nyrsio neu gartref i'r henoed (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn rhiant neu'n warcheidwad i blentyn eich landlord (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol)
  • Rydych yn byw gartref fel amod o'ch gwaith gan y landlord (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol)
  • Rydych yn geisydd lloches oni bai y rhoddwyd statws ffoadur neu ganiatâd eithriadol neu amhenodol i chi (gelwir caniatâd dyngarol neu ddewisol hefyd ar hynny) i aros yn y Deyrnas Unedig. 
  • Cawsoch eich derbyn i'r Deyrnas Unedig ar yr amod nad oes dim hawl gennych i gronfeydd cyhoeddus. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i chi beidio â hawlio budd-daliadau yn y Deyrnas Unedig. 
  • Rydych yn fewnfudwr noddedig ac rydych yn byw yma ers llai na phum mlynedd. 
  • Rydych yn y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon neu y mae'ch caniatâd i aros wedi dirwyn i ben. 

Efallai na fydd hawl gennych i Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Roeddech yn arfer byw gyda'ch landlord yn aelod o'r teulu, perthynas neu ffrind a'ch bod yn awr yn talu rhent i'r person hwnnw. 
  • Rydych yn byw mewn eiddo y mae urdd grefyddol yn ei gynnal ac rydych yn aelod o'r urdd grefyddol honno. 
  • Rydych yn rhentu oddi wrth ymddiriedolaeth ac rydych hefyd yn ymddiriedolwr neu fuddiolwr. 
  • Rydych yn rhentu eiddo oddi wrth gwmni ac rydych yn gyfarwyddwr neu yn gyflogai yn y cwmni. 
  • Roeddech yn arfer bod yn berchen ar yr eiddo yr ydych yn ei rentu bellach. 
  • Rydych yn fyfyriwr - gweler 'Myfyrwyr' i gael mwy o wybodaeth â phwy a all wneud cais.
  • Rydych yn byw dros dro oddi cartref - gweler 'AbsenoldebDros Dro' i gael mwy o wybodaeth

Dalier sylw mai canllawiau yn unig yw'r uchod. Mae'r rheoliadau cymhwysedd a 'Phobl o Dramor' yn dra chymhleth a gallwch gysylltu â ni ar 01970 633252 neu ein hebostio ar revenues@ceredigion.gov.uk i wirio a fyddech yn gymwys i gael budd-dâl. Fel arall, gallwch ddadlwytho a chwblhau Ffurflen Gais fel y gall yr Awdurdod Lleol benderfynu yn swyddogol ar unrhyw hawl.

Brig y Tudalen

A allaf ddarganfod faint yw'r Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol uchaf y mae hawl gennyf ei gael cyn i mi symud i'r llety newydd?

Gallwch. Mae'r Lwfans Tai Lleol yn seiliedig ar nifer yr ystafelloedd y mae eu hangen arnoch chi a'ch teulu (lle bo'n briodol) ynghyd â'r ardal lle yr ydych yn byw. I ddarganfod ym mha ardal y lleolir yr eiddo y dymunwch ei rentu, gwnewch wiriad yn uniongyrchol â'r Gwasanaeth Rhenti drwy fewnbynnu'r côd post ar eu gwefan, sef LHA Direct. 

Mae cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol yn cael eu hadolygu'n flynyddol ddechrau mis Ebrill bob blwyddyn oni fydd newid yn eich amgylchiadau a fydd yn effeithio ar nifer yr ystafelloedd gwely a ddefnyddir i gyfrifo'r Lwfans Tai Lleol, er enghraifft, os bydd rhywun yn symud i mewn neu allan o'ch eiddo chi.

Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch chi a'ch teulu chi (os yw hynny'n gymwys) gallwch – weld cyfraddau cyfredol Ceredigion

Yn achos tenantiaethau nad yw'r Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnynt, gallwch ddarganfod faint o'r rhent y byddwn yn ei ddefnyddio i gyfrifo'ch Budd-dâl Tai cyn i chi benderfynu meddiannu'ch eiddo. Gallwch wneud hynny drwy gwblhau ffurflen penderfynu cyn-denantiaeth.

Gallwch gysylltu â ni ar 01970 633252,ein hebostio ar revenues@ceredigion.gov.uk neu alw heibio i'n Swyddfeydd Lleol i ofyn am ffurflen penderfynu cyn-denantiaeth.

Dalier sylw bod ffigyrau penderfyniad cyn-denantiaeth/cyfraddau wythnosol y Lwfans Tai Lleol yn rhoi'r budd-dâl uchaf y gellid ei dalu. Bydd yn rhaid i'ch tenant gwblhau ffurflen gais a rhoi pob tystiolaeth ddogfennol fel y gall yr Awdurdod Lleol gyfrifo'ch hawl wythnosol.

Brig y Tudalen

A allaf gael budd-dâl cyn i mi symud i gartref newydd?

Os bydd yn rhaid i chi dalu rhent am gyfnod o amser rhwng y dyddiad pan ddechreuodd eich tenantiaeth a'r dyddiad y symudoch i'r cartref, efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-dâl am y cyfnod hwnnw. Serch hynny, rhaid i'r oedi cyn symud i'r cartref fod oherwydd un o'r canlynol:

1. Ni allwch symud i'r cartref newydd tan y gwneir newidiadau i gwrdd ag anghenion anabledd rhywun sydd yn eich teulu

2. Rydych yn disgwyl am daliad o'r gronfa gymdeithasol oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau ac mae plentyn gennych sydd yn 5 oed neu lai, neu rydych yn bensiynwr neu rydych yn cael incwm anabledd

3. Roeddech yn yr ysbyty, cartref nyrsio neu ofal preswyl pan ddechreuoch rentu'r eiddo.

Os byddwch yn cwrdd ag amod 2 neu 3, dim ond os nad ydych yn cael budd-dâl am ddim un llety arall y byddwch yn gymwys am fudd-dâl cyn i chi feddiannu'r eiddo.

Hefyd, dalier sylw nad ystyrir dim budd-dâl a dalwyd cyn i chi feddiannu'r eiddo ond ar ôl i chi symud i'r cartref newydd.

Brig y Tudalen

Sut yr wyf i yn gwneud cais?

Os byddwch wedi hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Credyd Pensiwn neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gallwch hefyd wneud cais am Fudd-dâl Tai / Lwfans Tai Lleol ac/neu Gostyniad treth y Cyngor yr un pryd a bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon hynny atom.Os na fyddwch yn hawlio neu os na fydd hawl gennych i un o fudd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais yr Awdurdod Lleol a rhoi tystiolaeth ddogfennol fel y'i manylir yn yr adran 'Pa wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gyfrifo fy mudd-dâl/gostyngiad?'.

Gallwch llenwi a ddatgan ffurflen gais ar lein, lawrlwytho Ffurflen Cais Budd-Talidau o'r dudalen Ffurflenni y Gallwch Lawrlwytho. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Awdurdod Lleol trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk, neu ffonio 01970 633252 neu drwy ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch. Gallwch hefyd ymweld ag un o'n Swyddfeydd Ardal Lleol i gasglu ffurflen.

Gallwch ddychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk neu ei phostio at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt neu ewch â hi i'ch Swyddfa Ardal Leol.

Mae'n bwysig i chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen gais atom i'r cyfeiriad a ddangosir cyn gynted ag y bo modd. Os na fydd gennych bob tystiolaeth ddogfennol y gofynasom amdani ar y ffurflen ar unwaith, dylech ei dychwelyd atom o hyd, gan nodi naill ai ar y ffurflen neu ar ddarn o bapur ar wahân pryd y darperir gweddill y wybodaeth. Os byddwch yn oedi cyn anfon y ffurflen atom, gallech golli budd-dâl/gostyngiad.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn cwblhau pob adran sydd ar y ffurflen a thicio pob un o'r blychau ateb. Os na chwblheir y ffurflen yn gywir, bydd yn rhaid i ni ei dychwelyd atoch a bydd hynny'n achosi oedi cyn talu'r cais.

Brig y Tudalen

Oes rhaid i mi gwblhau dwy ffurflen i hawlio Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a Gostyngiad Treth y Cyngor?

Nac oes – defnyddir yr un ffurflen gais i wneud cais am Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a Gostyngiad Treth y Cyngor.

Brig y Tudalen

Os bydd cymar gennyf, a fydd yn rhaid i'r ddau ohonom gwblhau ffurflen gais?

Na fydd – ni fydd yn rhaid i chi gwblhau ond un ffurflen gais i'ch cynnwys chi, eich cymar ynghyd ag unrhywun arall sydd hefyd yn preswylio yn eich cartref.

Brig y Tudalen

Os bydd fy nghymar yn gweithio ond na fyddaf i yn gweithio, a fyddaf yn medru gwneud cais drostof fy hun?

Na fyddwch. Bydd angen i chi wneud cais ar y cyd am fudd-dâl/gostyngiad, datgan manylion llawn eich cymar ynghyd â'ch cyd-incwm, cyfalaf a chynilion.

Brig y Tudalen

A allaf hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn os byddaf yn gweithio?

Gallwch hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn os byddwch yn gweithio ac yn cael incwm isel.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o'ch enillion - gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Ddogfennol' i gael rhestr lawn o ddogfennau y gellir eu darparu i gefnogi'ch cais.

Brig y Tudalen

A allaf hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn os byddaf yn hunangyflogedig?

Gallwch hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn os byddwch yn hunangyflogedig ac yn cael incwm isel o'ch busnes.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o'ch incwm hunangyflogedig - gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Ddogfennol' i gael rhestr lawn o ddogfennau y gellir eu darparu i gefnogi'ch cais.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os bydd yn rhaid i mi dalu am ofal plant?

Mae ceisiadau Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a/neu'r Gostyngiad Treth y Cyngor yn cynnwys cymorth i rieni sydd â chostau gofal plant.

Gellir didynnu costau gofal plant hyd at derfyn penodol o'ch enillion, credydau treth plant neu waith pan fyddwn yn cyfrifo'ch hawl. Gallai hynny gynyddu cyfanswm y budd-dâl/gostyngiad y mae hawl gennych iddo.

Gallwch hawlio costau gofal plant os ydych yn rhiant sengl a'ch:

  • bod yn gweithio 16 awr neu fwy'r wythnos; neu
  • eich bod ar wyliau mamolaeth neu fabwysiadu ac yn cael Tâl Mabwysiadu neu Famolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth.

Gall parau wneud cais yn yr amgylchiadau canlynol :

  • Rydych ill dau yn gweithio 16 awr neu fwy'r wythnos; neu
  • Mae un ohonoch yn gweithio 16 awr neu fwy'r wythnos ac mae'r llall yn anabl neu'n sâl; neu
  • Mae un ohonoch yn gweithio 16 awr neu fwy ac mae'r llall ar wyliau mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu ac yn cael Tâl Mamolaeth, Tadolaeth neu Fabwysiadu, Lwfans Mamolaeth neu Gymhorthdal Incwm oherwydd gwyliau tadolaeth

Rhaid i'r plentyn/plant fod o dan 15 oed (o dan 16 oed os byddant yn anabl) a rhaid bod y gofal plant yn cael ei ddarparu gan:

  • Warchodwr plant cofrestredig
  • Meithrinfa neu gynllun chwarae cofrestredig
  • Cynllun y tu allan i oriau arferol sy'n cael ei redeg gan ddarparwr cymeradwy
  • Cynllun neu glwb y tu allan i oriau ysgolion a ddarperir gan yr ysgol neu'r Awdurdod Lleol i blentyn wyth oed neu drosodd.

Mae uchafsymiau'r gofal plant a ganiateir fel a ganlyn:

  • £175.00 yr wythnos am un plentyn
  • £300.00 yr wythnos am ddau neu fwy o blant.

Brig y Tudalen

Pa wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gyfrifo fy mudd-dal/ngostyngiad?

Mae'n bwysig y telir yr hawl cywir i'n cwsmeriaid ac y canfyddir ac yr atalir twyll a chamgymeriadau cyn gynted ag y bo modd. Mae hynny'n dibynnu arnom ni, sef ein bod :

  • Yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth gywir i gefnogi ceisiadau; ac
  • Yn gwneud gwiriadau unwaith y telir eich cais.

Hefyd, mae'n dibynnu arnoch chi, sef eich bod yn dweud wrthom ar unwaith os bydd eich amgylchiadau yn newid. Os na fyddwch yn dweud wrthom am y newidiadau hyn, efallai y collwch arian y mae hawl gennych iddo neu efallai y cewch ormod o fudd-dâl/ostyngiad.

Yn ogystal â'ch ffurflen gais a fydd wedi'i chwblhau, bydd yn rhaid i chi ddarparu'r canlynol ar eich cyfer chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) :

  • Tystiolaeth o fodd adnabod
  • Tystiolaeth cyfeiriad
  • Tystiolaeth o'r rhif yswiriant gwladol
  • Tystiolaeth o gyfalaf, cynilion a buddsoddiadau
  • Tystiolaeth enillion
  • Tystiolaeth incwm arall
  • Tystiolaeth o fudd-daliadau, lwfansau neu bensiynau
  • Tystiolaeth o rent a thenantiaeth breifat
  • Tystiolaeth o arian arall a delir

Gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Ddogfennol' i gael rhestr lawn o ddogfennau y gellir eu darparu i gefnogi eich cais.

Dim ond dogfennau gwreiddiol y gallwn eu derbyn, ac nid llungopïau.

Os na fydd yr holl dystiolaeth a'r wybodaeth gennych y mae eu hangen arnoch i gefnogi eich cais, ni ddylech oedi cyn anfon eich ffurflen. Dylid cyflwyno pob tystiolaeth yn gefn i'r cais cyn gynted ag sy'n bosibl er mwyn inni fedru ystyried yr hawliad; fodd bynnag, bydd angen cyflwyno'r wybodaeth honno o fewn mis ar ôl cyflwyno eich ffurflen hawlio.

Brig y Tudalen

A yw'r cyfalaf sydd gennyf yn effeithio ar fy nghais?

Bydd y ffaith a fydd hyn yn effeithio ar eich hawl yn dibynnu ar faint o gyfalaf sydd gennych chi a'ch cymar (lle bo'n briodol):

  • Os bydd cyd-gyfalaf gennych chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) o fwy na £16,000, ni fyddwch fel arfer yn medru cael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor (oni bai eich bod yn cael lefel credyd gwarantiedig y Credyd Pensiwn)
  • Os byddwch chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) heb cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth gallwch gael cyd-gyfalaf o hyd at £6,000 cyn y bydd yn cael effaith ar eich hawl i fudd-dâl
  • Os byddwch chi neu'ch cymar (lle bo'n brodol) wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaethgallwch gael cyd-gyfalaf o hyd at £10,000 cyn bydd yn cael effaith ar eich hawl i fudd-dâl
  • Os byddwch chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) heb cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, ystyrir £1 ym mhob £250 (neu ran o £250) rhwng £6,000 a £16,000 pan fyddwn yn cyfrifo'ch hawl i fudd-dâl/gostyngiad. 'Incwm Tariff' yw'r enw ar hynny. Cliciwch ar 'incwm tariff' i gyfrifo'r incwm a ddefnyddir i asesu'ch cais.
  • Os byddwch chi neu'ch cymar (lle bo'n briodol) wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, ystyrir incwm o £1 ym mhob £500 (neu ran o £500) rhwng £10,000 a £16,000 pan fyddwn yn cyfrifo'r hawl i fudd-dâl/gostyngiad. Incwm Tariff' yw'r enw ar hynny. Cliciwch ar 'incwm tariff' i gyfrifo'r incwm a ddefnyddir i asesu'ch cais.

Mae cyfalaf yn cynnwys arian parod, cyfrifon cyfredol, cyfrifon banciau / cymdeithasau adeiladu / swyddfeydd post eraill, ymddiriedolaethau unedol, ISA, tystysgrifau cynilion cenedlaethol, stociau, cyfrandaliadau, bondiau premiwm ac eiddo (ac eithrio'r cartref lle yr ydych yn byw) neu dir yr ydych yn berchen arno.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os bydd pobl eraill yn byw gyda mi?

Efallai y gostyngir eich budd-dâl/gostyngiad os bydd rhywun arall 18 oed neu drosodd (ac eithrio'ch cymar) yn byw gyda chi, er enghraifft mab neu ferch, ffrind neu berthynas.

Gelwir 'annibynyddion' ar y bobl hynny a gellid cymryd swm penodol sy'n dibynnu ar eich incwm a'ch amgylchiadau o'ch hawl wythnosol ar gyfer pob un o'r annibynyddion sy'n byw yn eich cartref.

I ddarganfod lefelau presennol y didyniadau a phryd y bydd didyniad yn berthnasol, gweler 'Annibynyddion'.

Brig y Tudalen 

Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cael fy nghais?

Byddwn yn gwirio'r ffurflen gais a'r dystiolaeth ddogfennol a ddarparoch.

Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnom, byddwn yn cysylltu a chi. Rhaid rhoi'r wybodaeth honno i ni cyn pen un mis calendr neu efallai na fyddwn yn medru talu dim budd-dâl/gostyngiad i chi.

Os darparoch yr holl wybodaeth i ystyried eich cais, byddwn yn ei phrosesu cyn gynted ag y bo modd ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.

Brig y Tudalen

Faint o amser y bydd yn ei gymryd i asesu fy hawl?

Ein nod yw gwneud penderfyniad am eich cais cyn pen 14 diwrnod i dderbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Brig y Tudalen

Faint o Fudd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor y byddaf yn ei gael?

Asesir lefel y Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor drwy gymharu'ch incwm ac incwm eich cymar (lle bo'n briodol) â'ch Swm Perthnasol. Swm safonol yw'r Swm Perthnasol sy'n cael ei bennu gan y Llywodraeth (DU a Cymru) yn flynyddol a dyna yw'r swm y mae ei angen yn ôl y gyfraith i gwrdd â chostau byw beunyddiol.

Os ydych chi neu'ch cymar (lle bo'n briodol) yn cael cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yng nghyswllt incwm), mae'r swm o fudd-dâl/gostyngiad wythnosol y byddwch fel arfer yn ei gael fel a ganlyn:

  • Hyd at uchafswm cyfradd y Lwfans Tai Lleol neu asesiaid y Gwasanaeth Rhenti ar gyfer eich cais
  • Eich atebolrwydd wythnosol cymwys o ran rhent os ydych yn Denant Cymdeithas Dai (DS os bydd eich rhent yn cynnwys taliadau am wasanaethau h.y. ardrethi d?r, gwresogi etc, didynnir y rhain o'ch rhent wythnosol gan na all Budd-dâl Tai gwrdd â'r taliadau hyn).  Hefyd ar ôl 01.04.2013 gallai cwsmeriaid sydd o oedran gweithio weld gostyngiad yn eu Budd-dal Tai uchaf os ystyrir eu bod yn tanfeddiannu'r eiddo – gweler "Meini Prawf sy'n ymwneud â Budd-daliadau a Maint" am fwy o wybodaeth.
  • Eich atebolrwydd wythnosol i dalu'r Dreth Gyngor

Dyma'r uchafswm y gallwn ei dalu. Serch hynny, efallai y byddwch yn cael llai na'r uchafswm os bydd annibynyddion yn rhannu eich cartref.

Os nad ydych chi na'ch cymar (lle bo'n briodol) yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yng nghyswllt incwm), cymharwn eich incwm wythnosol ac unrhyw incwm tariff oddi wrth gyfalaf/cynilion â'ch Swm Perthnasol.

Defnyddiwn symiau a bennir yn flynyddol gan y Llywodraeth (DU a Cymru) a elwir yn bremiymau a lwfansau personol i gyfrifo faint o arian y mae ei angen arnoch chi a'ch aelwyd i fyw. Cyfanswm eich premiymau a'ch lwfansau personol yw'r Swm Perthnasol.

Bydd lwfans personol yn dibynnu ar:

  • Eich oedran;
  • Bôch yn sengl neu fod cymar gennych;
  • Faint o blant sy'n dibynnu arnoch a'u hoedrannau .

Ychwanegir premiymau at eich lwfansau personol i gydnabod anghenion arbennig :

  • Teuluoedd;
  • Pobl anabl;
  • Gofalwyr.

Os bydd eich incwm wythnosol yn llai na'ch Swm Perthnasol neu'r un faint ag ef, byddwn yn talu'r budd-dâl/gostyngiad uchaf (gweler uchod) namyn symiau i annibynyddion sy'n byw gyda chi.

Yn achos Budd-dâl Tai neu Lwfans Tai Lleol, os bydd eich incwm wythnosol yn uwch na'ch Swm Perthnasol, byddwn yn tynnu 65c oddi ar uchafswm eich budd-dâl (gweler yr uchod) am bob £1 o'ch incwm sydd yn fwy na'r Swm Perthnasol.

Yn achos Gostyngiad Treth y Cyngor, os bydd eich incwm wythnosol yn uwch na'ch Swm Perthnasol, byddwn yn cymryd 20c oddi ar eich gostyngiad uchaf (gweler yr uchod) am bob £1 o'ch incwm sydd yn fwy na'ch Swm Perthnasol.

Brig y Tudalen

A oes isafswm budd-dâl/gostyngiad sy'n daladwy?

Isafswm y Budd-dâl Tai neu'r Lwfans Tai Lleol sy'n daladwy yw 50c yr wythnos.

Nid oes dim isafswm Gostyngiad Treth y Cyngor yn daladwy yn wythnosol.

Brig y Tudalen

Sut y telir fy mudd-dâl/gostyngiad?

Os ydych yn denant preifat sy'n gymwys am Fudd-dâl Tai ers 7 Ebrill 2008 neu'n denant Cymdeithas Dai sy'n gymwys am Fudd-dâl Tai, byddwn yn talu lwfans rhent i chi. Telir y lwfans rhent fel arfer i chi bob pythefnos ar ffurf ôl-daliadau; serch hynny, gallwn weithiau ei dalu i'ch Cymdeithas Dai neu'ch landlord. Telir eich lwfans rhent yn uniongyrchol i'r Gymdeithas Dai neu'r landlord bob pedair wythnos ar ffurf ôl-daliadau.

Os ydych yn denant preifat sy'n gymwys am Lwfans Tai Lleol ers 7 Ebrill 2008 rhaid i ni dalu hwnnw i chi oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Dim ond mewn amgylchiadau penodol y gallwn wneud taliadau i'ch landlord a datblygom gyfres o feini prawf sy'n ein helpu i benderfynu ar yr achosion hynny, sef ein Polisi Mesurau Diogelwch.

Os ydych wedi cael Llety gan y tîm Llety Argyfwng a/neu'r tîm Digartrefedd ac os ydych yn gymwys i dderbyn Budd-dal Tai byddwn yn talu ad-daliad rhent wythnosol i chi. Telir ar ad-daliad rhent yn wythnosol. Telir yr ad-daliad rhent yn uniongyrchol i'ch cyfrif rhent ac mae'n gostwng swm y rhent wythnosol sydd yn rhaid i chi ei dalu.

Byddwn yn talu'ch Gostyngiad Treth y Cyngor yn uniongyrchol i'ch cyfrif Treth Gyngor a byddwn yn anfon bil Treth Gyngor newydd atoch i ddweud wrthoch faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu.

Brig y Tudalen

Pryd y bydd fy mudd-dâl/ngostyngiad yn dechrau?

Os byddwch yn gymwys i gael Budd-dâl Tai neu Lwfans Tai Lleol, byddwn fel arfer yn talu'ch budd-dâl o'r Dydd Llun ar ôl i chi ofyn i ni am ffurflen gais (cyn belled ag y byddwch yn dychwelyd y ffurflen gais cyn pen un mis i gysylltu â ni).

Os ydych chi'n gymwys i gael Gostyngiad Treth y Cyngor, fel rheol byddem yn rhoddi'r gostyngiad i chi o'r dyddiad y gofynnoch chi am ffurflen gais (os dychwelwch chi'r ffurflen gais o fewn mis ar ôl cysylltu â ni).

Pan fyddwch yn gwneud cais am Fudd-dâl Tai / Lwfans Tai Lleol ac/neu Gostyniad Treth y Cyngor dros y ffôn drwy gyfrwng y Ganolfan Byd Gwaith, neu Gwasanaeth Pensiwn byddwn yn ymdrin â dyddiad eich cais ar sail yr un dyddiad â'r un pan gysylltoch â'r Ganolfan Byd Gwaith/Gwasanaeth Pensiwn.

Os dyfernir y dylech gael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio GwaithLwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Credyd Pensiwn bydd pob un o'r budd-daliadau yn dwyn yr un dyddiad hawlio.

Brig y Tudalen

A ellir ôl-ddyddio fy mudd-dâl/gostyngiad?

Os byddwch chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) heb cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credydd Pensiwn y Wladwriaeth, y fan bellaf y gallwn ol-dyddio eich cais yw:

  • 1 mis am Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol
  • 3 mis am Gostyngiad Treth y Cyngor 

O'r dyddiad y gwnewch eich cais am ei ôl-ddyddio, cyn belled ag y byddwch yn medru dangos :

  • Bod 'achos da' gennych dros beidio â gwneud eich cais yn gynharach
  • Na fedrech wneud cais gydol y cyfnod yr ydych am i'ch cais gael ei ôl-ddyddio ar ei gyfer

Rhaid gwneud cais ôl-ddyddiedig yn ysgrifenedig.

Os byddwch chi neu'ch cymar (lle bo'n briodol) wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, byddwn yn ôl-ddyddio'ch cais yn awtomatig am hyd at 3 mis cyn belled ag y medrwch ddangos eich bod yn gymwys i gael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor yn ystod y cyfnod hwnnw.

Gweler Ôl-ddyddio i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Am ba hyd y telir budd-dâl/gostyngiad?

Telir budd-dâl/gostyngiad cyhyd ag y bydd yr hawl iddo yn parhau. O bryd i'w gilydd, bydd angen i ni gadarnhau manylion eich cais a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd yn rhaid gwneud hynny neu efallai y byddwn yn trefnu ymweliad.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os byddaf yn anghytuno â'ch penderfyniad?

Pan fyddwn wedi penderfynu ar eich cais, byddwn yn anfon llythyr hysbysu swyddogol atoch. Bydd y llythyr yn cadarnhau'r holl fanylion y buom yn eu defnyddio i gyfrifo'ch hawl ac mae'n bwysig eich bod yn gwirio bod y wybodaeth yn gywir.

AR GYFER BUDD-DAL TAI NEU LWFANS TAI LLEOL:

Os ydych chi am gael gwybod mwy am y penderfyniad neu os ydych chi'n credu ei fod yn anghywir, dylech chi gysylltu â ni o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr neu efallai na allwn ni ystyried unrhyw angydfod.

Gallwch naill ai ofyn am esboniad neu:

  • ofyn, yn ysgrifenedig, am 'Ddatganiad Rhesymau' ysgrifenedig
  • gofyn i ni ystyried y penderfyniad eto – 'Cwestiyna'r Penderfyniad'. Rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig. Os gellir newid y penderfyniad, anfonwn benderfyniad newydd atoch. Os na fedrwn newid y penderfyniad, rhoddwn wybod i chi paham. Os byddwch yn dal i anghytuno, bydd un mis gennych i apelio o ddyddiad y penderfyniad newydd.
  • Apelio yn erbyn y penderfyniad – ni ellir gwenud hyn ond yn ysgrifenedig. Os byddwch yn apelio yn erbyn y penderfyniad, cyfeirir eich apêl at Dribiwnlys Annibynnolo dan weinyddiaeth y Gwasanaeth Tribiwnlys.

AR GYFER GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR

Os oes arnoch chi angen mwy o fanylion ynghylch unrhyw fater sydd wedi ei osod yn yr hysbysiad neu'r rhesymau dros y penderfyniad gallwch chi wneud cais o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr am 'Ddatganiad Ysgrifenedig o'r Rhesymau'.

Os ydych chi'n anghytuno â'r penderfyniad , gallwch o fewn un mis wedi dyddiad y llythr hyn  gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor yn nodi'n glir y mater(ion) yr ydych chi'n anfodlon arno a'r rhesymau. Byddwn yn ystyried y mater(ion) sydd ynglŷn â'ch hysbysiad chi a rhoddwn wybod i chi'n ysgrifenedig o'n penderfyniad ni gyda rhesymau. Yn dilyn y llythyr hwnnw os byddwch chi'n dal yn anfodlon bydd gennych chi 2 fis i apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Sylwer, gallwch chi apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru os na fyddwn ni wedi rhoi gwybod i chi ynghylch ein penderfyniad o fewn 2 fis ar ôl i chi gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor.

Gweler Apeliadau i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os bydd fy amgylchiadau yn newid?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi roi gwybod i ni os bydd unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a ddefnyddiom i bennu faint yw'r Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor y mae hawl gennych ei gael.

Mae'n dra phwysig rhoi gwybod i ni ar unwaith. Dylech gysylltu â ni hyd yn oed os ydynt yn dal i ddisgwyl clywed oddi wrthom am eich cais a hyd yn oed os y dywedoch wrth rywun arall, er enghraifft, yr Adran Gwaith a Phensiynau neu'ch landlord.

Os na fyddwch yn dweud wrthom, efallai y bydd hynny'n golygu y bydd swm y budd-dâl/gostyngiad a gewch yn anghywir. Efallai na byddwn yn talu digon a gallech beidio â chael arian y mae hawl gennych iddo neu efallai y gallai hefyd olygu bod ni yn gor-dalu chi a bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu yn ddiweddarach.

I gael gwybodaeth fanwl am y modd o roi gwybod i ni am newid amgylchiadau a pha newidiadau y mae'n rhaid i chi eu hysbysu, gweler 'Newid Amgylchiadau'.

Brig y Tudalen

A allaf hawlio budd-dâl ar ddau gartref?

Dim ond ar gyfer y cartref lle yr ydych yn byw ac yn talu rhent ar hyn o bryd y telir budd-dâl fel arfer. Serch hynny, mae rhai amgylchiadau lle efallai y gallech gael cymorth ar gyfer dau gartref:

I gael mwy o wybodaeth, gweler Hawlio Budd-dâl ar Ddau Gartref

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os byddaf yn absennol o'm cartref dros dro?

Telir Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor fel arfer yn unig tra bôch yn preswylio mewn eiddo. Serch hynny, efallai y gellir dal i dalu budd-dâl/gostyngiad tra bôch oddi cartref dros dro mewn rhai amgylchiadau.

I gael mwy o wybodaeth, gweler Absenoldeb Dros Dro.

Brig y Tudalen

Os byddaf yn dechrau gweithio, beth y bydd angen i mi ei wneud?

Os buoch yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dâl Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol a bod y rheini'n gorffen oherwydd eich bod yn dechrau gweithio neu fod eich oriau neu'ch enillion yn eich gwaith presennol yn cynyddu, efallai y bydd hawl gennych gael taliadau estynedig.

Gweler Taliadau Estynedig/Gostyngiad Estynedig i gael mwy o wybodaeth.

Efallai y bydd hawl gennych gael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor o hyd ar ôl i chi ddechrau gweithio os byddwch ar incwm isel. Os na fydd y nifer angenrheidiol o slipiau cyflog gennych i gefnogi'ch cais, gallwch ofyn i'ch cyflogwr wneud amcangyfrif o'ch enillion gros a'ch didyniadau treth ac yswiriant gwladol i alluogi ystyried eich hawl i fudd-dâl dros dro. Wedyn, gellir anfon manylion eich gwir enillion pan ddônt i law. Gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Gefnogol'i gael mwy o wybodaeth.

Hefyd, bydd angen i chi gwblhau ffurflen Newid mewn Enillion/Cyfalaf a darparu dogfennau sy'n rhoi tystiolaeth ddogfennol o'ch holl incwm wythnosol arall ynghyd â'ch cyfalaf a'ch cynilion.

Gallwch chi roi gwybod am newid amgylchiadau trwy lenwi ffurflen Newid Amgylchiadau, neu'r ffurflen Newid Cyfeiriad. Ar yn ail gallwch gysylltu â'r Awdurdod Lleol trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk, neu ffonio 01970 633252 neu drwy ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch. Gallwch hefyd ymweld ag un o'n Swyddfeydd Ardal Lleol i gasglu ffurflen.

Gallwch ddychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk neu ei phostio at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt neu ewch â hi i'ch Swyddfa Ardal Leol.

Brig y Tudalen

A allaf gael cymorth ychwanegol i dalu fy rhent?

Os byddwch yn cael Budd-dâl Tai neu Lwfans Tai Lleol ond eich bod yn dal i'w chael yn anodd talu gweddill eich rhent, efallai y byddwch yn medru cael taliad ychwanegol i'ch helpu i oresgyn y diffyg. Taliad Tai Dewisol yw'r enw ar hwnnw.

Ystyrir pob cais am Daliad Tai Dewisol yn ôl rhinweddau unigol yr achos. Gwneir taliadau os gallwch ddangos eich bod yn destun caledu ariannol neu fod rhyw amgylchiad arbennig arall gennych sy'n achosi anhawster i chi dalu'ch rhent.

Gweler Taliad Tai Dewisol i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Beth yw gordaliad Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol, a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor?

Bydd gordaliad wedi digwydd pan fyddwch wedi cael mwy o Fudd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol, a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor nag y mae hawl gennych ei gael.

I gael mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n achosi gordaliadau a sut y mae ad-dalu'r gordaliad, gweler Gordaliadau a Dyled.

Brig y Tudalen

Sut yr wyf yn hysbysu amheuaeth o Dwyll Budd-daliadau?

Mae'r Awdurdod Lleol yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl yn cael eu hawl cywir i Fudd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol, a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor a gwneir pob ymdrech i ymdrin â cheisiadau cyn gyflymed ag y bo modd.

Serch hynny, mae'n bwysig rhoi gwybod i'r Gwasanaeth Budd-daliadau am bobl sy'n hawlio budd-daliadau/gostyngiadau nad oes hawl ganddynt iddynt, fel y gellir cymryd camau priodol yn eu herbyn.

Os ydych yn ymwybodol neu yn credu y gallai rhywun fod yn hawlio budd-dâl ar ffurf twyll, gallwch gysylltu â ni ar Linell Gymorth Twyll Budd-daliadau ar 0800 854 440 sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. Byddwn yn ymdrin â phob gwybodaeth a roddwch i ni yn gyfrinachol.

Gweler Twyll Budd-daliadau i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen