Brig y Tudalen 

Beth yw Budd-dal Tai?

Cynllun y Llywodraeth yw Budd-dal Tai, sy'n eich cynorthwyo i dalu'ch rhent. Cyngor Sir Ceredigion sy'n gweinyddu'r cynllun ar gyfer pobl sy'n byw yn yr ardal hon. Mae'r swm a dderbyniwch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a faint o rent sy'n rhaid i chi ei dalu.

Brig y Tudalen

Beth yw'r Lwfans Tai Lleol?

Mae'r Lwfans Tai Lleol yn lwfans tai a delir ar gyfradd safonol, ac mae wedi ei seilio ar lefelau rhenti mewn ardal benodol a maint aelwyd y tenant, yn hytrach na'r union rent a godir am yr annedd. Mae hyn yn golygu y bydd hawl gan denantiaid y mae ganddynt yr un meini prawf o ran aelwydydd i'r Lwfans Tai Lleol ar yr un gyfradd – Gweld cyfraddau presennol.

Brig y Tudalen

Beth yw Gostyngiad Treth y Cyngor?

Cynllun y Llywodraeth Cymraeg yw Gostyngiad Treth y Cyngor sy'n rhoi cymorth i chi dalu Treth y Cyngor. Cyngor Sir Ceredigion sy'n gweinyddu'r cynllun ar gyfer pobl yn y Sir sy'n gorfod talu Treth y Cyngor. Mae'r swm a dderbyniwch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a faint o Dreth y Cyngor sy'n rhaid i chi ei dalu.

Brig y Tudalen

A oes unrhyw ffordd arall i chi leihau fy Nhreth Cyngor?

Oes. Yn ogystal â Gostyngiad Treth y Cyngor, gallwn leihau Treth y Cyngor drwy roi disgownt, rhyddhad neu leihad i bobl ag anableddau.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Treth y Cyngor.

Brig y Tudalen

A fedraf hawlio Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol?

Gallwch hawlio'r uchod os ydych yn derbyn incwm isel, yn ddi-waith, yn methu â gweithio oherwydd afiechyd, wedi ymddeol neu'n gofalu am rywun, a'ch bod yn bodloni'r holl amodau canlynol:

Brig y Tudalen 

A fedraf hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor?

Gallwch hawlio'r uchod os ydych yn derbyn incwm isel, yn ddi-waith, yn methu â gweithio oherwydd afiechyd, wedi ymddeol neu'n gofalu am rywun, a'ch bod yn bodloni'r holl amodau canlynol:

Brig y Tudalen

Pwy na fydd, neu efallai, na fydd yn medru hawlio'r budd-daliadau hyn?

Fel rheol, ni allwch hawlio Budd-dal Tai, Lwfans Tai lleol na Gostyngiad Treth y Cyngor os:

  • Nid ydych chi na'ch cymar (lle bo'n briodol) yn gyfrifol am dalu'r rhent a/neu'r Dreth Gyngor
  • Oes gennych chi a'ch partner (os yn berthnasol) gynilion a/neu fuddsoddiadau mwy na £16,000 (heblaw os ydych yn derbyn yr elfen gredyd gwarantedig o'r Credyd Pensiwn)
  • Ydych yn talu rhent i berthynas agos sy'n byw yn yr un eiddo (mewn achosion Budd-dal Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Ydych yn rhentu eiddo yr oeddech chi (neu'ch partner) yn berchen arno gynt (y nachos Budd-dal Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn byw mewn cartref gofal, megis cartref nyrsio neu gartref i'r henoed (yn achos Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn rhiant neu'n warcheidwad i blentyn eich landlord (yn achos Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Mae'n un o amodau'ch gwaith gan y landlord eich bod yn byw yn y cartref (yn achos Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn geisydd lloches, oni bai y rhoddwyd statws ffoadur neu ganiatâd amhenodol neu eithriadol (a elwir hefyd yn ganiatâd tyngarol neu ddewisol) i chi aros yn y Deyrnas Unedig. 
  • Fe'ch derbyniwyd i'r Deyrnas Unedig ar yr amod na fydd hawl gennych gael arian o gronfeydd cyhoeddus. Mae hynny'n golygu na chewch hawlio budd-daliadau yn y Deyrnas Unedig. 
  • Rydych yn fewnfudwr o dan nawdd ac rydych yn byw yma ers llai na phum mlynedd. 
  • Rydych yn y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon neu y mae'ch caniatâd i aros wedi dirwyn i ben. 

Efallai na fydd hawl gennych gael Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Roeddech yn arfer byw gyda'ch landlord fel aelod o'r teulu, perthynas neu ffrind ac rydych yn talu rhent i'r person hwnnw bellach. 
  • Rydych yn byw mewn eiddo y mae urdd grefyddol yn ei gynnal ac rydych yn aelod o'r urdd grefyddol honno. 
  • Rydych yn rhentu oddi wrth ymddiriedolaeth ac rydych hefyd yn ymddiriedolwr neu'n fuddiolwr. 
  • Rydych yn rhentu'r eiddo oddi wrth gwmni ac rydych yn gyfarwyddwr neu'n gyflogai yn y cwmni. 
  • Roeddech yn arfer bod yn berchen ar yr eiddo yr ydych bellach yn ei rentu. 
  • Os ydych yn fyfyriwr - gweler 'Myfyrwyr' i gael mwy o wybodaeth am bwy a all wneud cais.
  • Rydych yn byw dros dro oddi cartref

Dalier sylw mai canllawiau yn unig yw'r uchod. Mae'r rheoliadau am gymhwysedd a 'Phobl o Dramor' yn gymhleth iawn a gallwch gysylltu â ni ar 01970 633252 neu ein hebostio ar revenues@ceredigion.gov.uk i wirio a gyddech yn gymwys i hawlio budd-dâl. Fel arall, gallwch ddadlwytho a chwblhau Ffurflen Gais fel y gall yr Awdurdod Lleol benderfynu yn swyddogol a oes hawl gennych i fudd-dâl.

Brig y Tudalen

A allaf gael budd-dâl cyn i mi symud i gartref newydd?

Os oes yn rhaid i chi dalu rhent am gyfnod rhwng y dyddiad pan ddechreuodd eich tenantiaeth a'r union ddyddiad y symudoch i'r cartref newydd, efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-dâl ar gyfer y cyfnod hwnnw. Serch hynny, rhaid i un o'r rhesymau canlynol fod yn gyfrifol am yr oedi cyn symud i mewn :

  • 1. Ni allwch symud i mewn i'r cartref newydd tan y gwneir newidiadau i gwrdd ag anghenion rhywun yn eich teulu sy'n anabl
  • 2. Rydych yn disgwyl taliad o'r gronfa gymdeithasol oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau ac mae plentyn 5 oed neu lai gennych, neu yr ydych yn benisynwr neu yn cael incwm anabledd
  • 3. Roeddech mewn ysbyty, cartref gofal neu ofal preswyl pan ddechreuoch rentu'r eiddo

Os byddwch yn cwrdd ag amod 2 neu 3, dim ond os nad ydych yn cael budd-dâl gogyfer â dim un llety arall y byddwch yn gymwys i gael budd-dâl cyn i chi feddiannu'r cartref newydd.

Daliwch sylw hefyd mai dim ond ar ôl i chi symud i mewn i'r cartref newydd y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i unrhyw fudd-dâl a delir cyn meddiannu'r cartref.

Brig y Tudalen

Sut ydw i'n hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn os ydw i'n derbyn Credyd Pensiwn?

Os ydych wedi hawlio Credyd Pensiwn gallwch hefyd hawlio Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol ac/neu Gostyngiad Treth y Cyngor ar yr un pryd, ac fe atgyfeirir eich cais atom ni gan Y Gwasanaeth Pensiwn. 

Brig y Tudalen

Sut ydw i'n hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn os nad ydw i'n derbyn Credyd Pensiwn?

Os nad ydych yn hawlio Credyd Pensiwn neu ddim yn gymwys am Gredyd Pensiwn bydd angen i chi lanw ffurflen gais yr Awdurdod Lleol a chyflwyno tystiolaeth ddogfennol, fel yr eglurir yn 'Pa wybodaeth sydd angen arnoch er mwyn penderfynu fy mudd-dal/gostyngiad?'

Gallwch llenwi a ddatgan ffurflen gais ar lein, lawrlwytho Ffurflen Cais Budd-Talidau o'r dudalen Ffurflenni y Gallwch Lawrlwytho. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Awdurdod Lleol trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk, neu ffonio 01970 633252 neu drwy ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch. Gallwch hefyd ymweld ag un o'n Swyddfeydd Ardal Lleol i gasglu ffurflen.

Gallwch ddychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk neu ei phostio at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt neu ewch â hi i'ch Swyddfa Ardal Leol.

Mae'n bwysig eich bod yn llanw'r ffurflen a'i dychwelyd i ni cyn gynted ag y bo modd. Os na fedrwch ddod o hyd i'r holl dystiolaeth ddogfennol y gofynnir amdano ar y ffurflen ar unwaith, dylech ddychwelyd y ffurflen i ni beth bynnag, yn datgan pryd y byddwch yn darparu'r wybodaeth, un ai ar y ffurflen neu ar daflen o bapur ar wahân. Os byddwch yn oedi cyn dychwelyd y ffurflen, gallwch golli budd-dal/gostyngiad.

Mae'n dra phwysig eich bod yn cwblhau pob adran o'r ffurflen ac yn ticio pob un o'r blychau ateb. Os na fydd y ffurflen wedi'i chwblhau yn gywir, bydd yn rhaid i ni ei dychwelyd atoch a bydd oedi cyn talu'ch cais.

Brig y Tudalen

Pa wybodaeth sydd angen arnoch er mwyn penderfynu fy mudd-dal/gostyngiad?

Mae'n bwysig ein bod yn talu'r swm cywir i'n cwsmeriaid a bod twyll a chamgymeriadau'n cael eu darganfod a'u hatal cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni:

  • Gasglu'r wybodaeth a'r dystiolaeth briodol i gefnogi hawliadau; a
  • Chynnal gwiriadau pan fo'r cais yn cael ei dalu.

Mae hefyd yn angenrheidiol eich bod yn ein hysbysu ar unwaith os yw eich amgylchiadau'n newid. Os na wnewch roi gwybod i ni am y newidiadau hyn mae'n bosibl y byddwch yn colli arian y mae gennych hawl amdano, neu'n derbyn gormod o fudd-dal/gostyngiad.

Yn ogystal â'ch ffurflen gais wedi'i llanw, bydd rhaid i chi ddarparu ar ran eich partner (os yn berthnasol) a chwithau:

  • Tystiolaeth adnabod
  • Tystiolaeth o gyfeiriad
  • Tystiolaeth o rif yswiriant cenedlaethol
  • Tystiolaeth o gyfalaf, cynilion a buddsoddiadau
  • Tystiolaeth o enillion
  • Tystiolaeth o incwm arall
  • Tystiolaeth o fudd-daliadau, lwfansau neu bensiynau
  • Tystiolaeth o rent preifat a thenantiaeth
  • Tystiolaeth o daliadau eraill

Gweler y 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Ategol' am restr gyflawn o'r dogfennau y gellir eu cyflwyno i gefnogi'r hawliad.

Gallwn dderbyn dogfennau gwreiddiol yn unig ac nid llungopïau.

Os nad oes gennych yr holl dystiolaeth a'r wybodaeth sydd angen arnom peidiwch ag oedi cyn gyrru'r ffurflen.  Dylid cyflwyno pob tystiolaeth yn gefn i'r cais cyn gynted ag sy'n bosibl er mwyn inni fedru ystyried yr hawliad; fodd bynnag, bydd angen cyflwyno'r wybodaeth honno o fewn mis ar ôl cyflwyno eich ffurflen hawlio.

Brig y Tudalen

A yw'r swm o gyfalaf sydd gennyf yn effeithio ar fy hawliad?

Efallai y caiff eich hawl ei effeithio, yn dibynnu ar y swm o gyfalaf sydd gennych chi a'ch partner (os yn berthnasol).

  • Os ydych chi a'ch partner (os yn berthnasol) yn meddu ar gyfalaf ar y cyd dros £16,000 ni fyddwch fel rheol yn gallu cael Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor (heblaw os ydych yn derbyn yr elfen credyd gwarantedig o Gredyd Pensiwn)
  • Gallwch chi a'ch partner (os yn berthnasol) feddu ar gyfalaf ar y cyd hyd at £10,000 cyn y caiff eich hawl ei effeithio
  • Os ydych chi neu'ch partner wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, ystyrir incwm o £1 am bob £500 (neu ran o £500) rhwng £10,000 ac £16,000 wrth i ni benderfynu eich hawl am fudd-dal. Gelwir hyn yn 'incwm tariff'. Rhowch glic ar 'incwm tariff' i gyfrifo'r incwm a ddefnyddir wrth asesu'ch hawliad.

Mae cyfalaf yn cynnwys arian parod, cyfrifon cyfredol, cyfrifon banc/cymdeithas adeiladu/swyddfa'r post eraill, ymddiriedolaethau unedol, cyfrifon cynilo unedol, tystysgrifau cynilion cenedlaethol, stociau, cyfrannau, bondiau premiwm ac eiddo (heblaw am y cartref yr ydych yn byw ynddo), neu dir sy'n eiddo i chi.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os oes pobl eraill yn byw gyda fi?

Efallai y caiff eich budd-dal/gostyngiad ei leihau os oes rhywun arall 18 oed neu'n hyn (heblaw am eich partner) yn byw gyda chi, er enghraifft, mab neu ferch sy'n oedolyn, cyfaill neu berthynas.

Gelwir y rhain yn 'bobl annibynnol' ac efallai y bydd swm safonol yn cael ei dynnu oddi ar eich hawl wythnosol am bob person annibynnol sy'n byw yn eich cartref, yn dibynnu ar eu hincwm a'u hamgylchiadau.

Gweler 'Pobl annibynnol' am wybodaeth ynglyn â'r lefelau cyfredol o ran didyniadau, a phryd y gwneir didyniadau.

Brig y Tudalen

Os oes gennyf bartner, a fydd rhaid i'r ddau ohonom lanw ffurflen hawlio?

Na - chi yn unig fydd yn gorfod llanw un ffurflen gais ar ran eich partner a chwithau, ynghyd ag unrhyw bobl eraill sy'n byw gyda chi.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd pan dderbyniwch fy hawliad?

Byddwn yn gwirio'r ffurflen a'r dystiolaeth ddogfennol y darperir gennych.

Os byddwn angen mwy o wybodaeth fe fyddwn yn cysylltu a chi. Rhaid darparu'r wybodaeth hyn cyn pen un mis calendr neu mae'n bosibl na fyddwn yn gallu talu.

Brig y Tudalen

Faint o amser a gymerwch wrth asesu fy hawliad?

Rydym yn anelu at ddod i benderfyniad cyn pen 14 niwrnod ar ôl derbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Brig y Tudalen

A fydd Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol yn talu'r swm llawn o rent a godir gan fy landlord preifat?

Efallai na fydd Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol yn talu'ch rhent yn llawn ac felly byddwch yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg rhwng y budd-dal a ddyfarnwyd a'r union rent a godir gan eich landlord.

Yn gyntaf, byddwn yn gwirio a yw eich hawliad yn cael ei ystyried o dan Reoliadau Budd-dal Tai neu Reoliadau Lwfans Tai Lleol.

Rhowch glic ar gysylltiad Lwfans Tai Lleol i weld os cewch eich ystyried o dan y cynllun hwn ac i wirio cyfraddau wythnosol cyfredol y Lwfans Tai Lleol.

Os ydych yn rhentu'ch cartref gan landlord preifat (nid yw hyn yn cynnwys tenantiaeth Cymdeithas Tai) ac yn anghymwys o dan gynllun y Lwfans Tai Lleol, mae'n rhaid i ni ofyn i'r Gwasanaeth Rhent os ydych yn talu rhent rhesymol.

Brig y Tudalen

Beth yw'r Gwasanaeth Rhent?

Mae'r Gwasanaeth Rhent yn annibynnol o'r Awdurdod Lleol a byddant yn ein darparu â phrisiant rhent ar gyfer eich llety, a ystyrir wrth asesu eich hawliad am Fudd-dal Tai. Y Gwasanaeth Rhent sydd hefyd yn gosod cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol.

Penderfyniadau Budd-dal Tai

Wrth ddod i benderfyniad bydd y Swyddog Rhent yn ystyried:

  • Lefel y rhent
  • Y rhent am eiddo tebyg yn y cyffiniau
  • Nifer ystafelloedd
  • Oedran y bobl sy'n byw yn yr eiddo a asesir, a'u nifer

Fel arfer, bydd y penderfyniad yn gymwys i'ch hawliad am 12 mis os nad oes newid arwyddocaol i'r eiddo neu'r nifer o bobl sydd yn byw yn yr eiddo.

Achosion Lwfans Tai Lleol

Pennir cyfradd y Lwfans Tai Lleol wrth ystyried y canlynol:

  • Ble'r ydych yn byw
  • Oedran y bobl sy'n byw yn eich cartref, a'u nifer

Cyfradd uchaf y Lwfans Tai Lleol o ran eich hawliad chi yw'r gyfradd ym mis Ebrill y flwyddyn ariannol yr hawliwch chi h.y. bydd cyfraddau Lwfans Tai Lleol Ebrill 2014 yn gymwys ar gyfer hawliadau a wneir neu yr ystyrir eu bod wedi eu gwneud yn ystod y cyfnod 01.04.2014 hyd 31.03.2015

Gweler Lwfans Tai Lleol os bydd y rhent y mae'ch landlord yn ei godi yn is/uwch na chyfradd y Lwfans Tai Lleol.

Brig y Tudalen

A fedraf ddarganfod beth yw'r uchafswm o Fudd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol y gallaf ei hawlio cyn i mi symud i lety newydd?

Medrwch. Mae'r Lwfans Tai Lleol yn seiliedig ar y nifer o ystafelloedd sydd angen arnoch chi a'ch teulu (os yn berthnasol), a'r ardal ble'r ydych yn byw. Gallwch wirio ym mha ardal mae'r eiddo y dymunwch ei rentu drwy roi'r cod post i'r Gwasanaeth Rent ar eu gwefan LHA Direct.

Caiff cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol eu hadolygu'n flynyddol ddechrau mis Ebrill bob blwyddyn oni fydd newid yn eich amgylchiadau a fydd yn effeithio ar nifer yr ystafelloedd gwely a ddefnyddir i gyfrifo'r Lwfans Tai Lleol, er enghraifft, os bydd rhywun yn symud i mewn neu allan o'ch eiddo chi.

Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch chi a'ch teulu chi (os yw hynny'n gymwys) gallwch – weld cyfraddau cyfredol Ceredigion.

I denantiaethau na chaiff eu heffeithio gan y Lwfans Tai Lleol, gallwch ddarganfod faint o'r rhent y byddwn yn ei ystyried wrth gyfrifo'ch Budd-dal Tai cyn i chi ymgartrefu yn yr annedd. Gallwch wneud hyn drwy lanw ffurflen penderfyniad cyn-denantiaeth.

Gallwch gysylltu â ni ar 01970 633252, gyrru e-bost i ni ar revenues@ceredigion.gov.uk neu alw heibio unrhyw un o'n Swyddfeydd Rhanbarthol Lleol i ofyn am ffurflen penderfyniad cyn-denantiaeth.

Noder bod cyfraddau wythnosol y Lwfans Tai lleol neu'r ffigyrau penderfyniad cyn-denantiaeth yn rhoi'r uchafswm o fudd-dal y gellid ei dalu. Bydd gofyn i chi lanw ffurflen gais a darparu'r holl dystiolaeth ategol er mwyn i'r Cyngor Sir gyfrifo'ch hawl wythnosol.

Brig y Tudalen

Faint o Fudd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor fyddai'n ei dderbyn?

Asesir y lefel o Fudd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor drwy gymharu'ch incwm ac incwm eich partner (os yn berthnasol) gyda'ch Swm Perthnasol. Swm safonol a osodir bob blwyddyn gan y Llywodraeth (DU a Chymru) yw'r Swm Perthnasol, a hwn yw'r swm yn ôl y gyfraith sydd angen arnoch er bywoliaeth.

Os ydych yn derbyn yr elfen credyd warantedig o Gredyd Pensiwn, bydd y swm o fudd-dal/gostyngiad wythnosol a dderbyniwch fel arfer:

  • Yn cyrraedd uchafswm cyfradd y Lwfans Tai Lleol neu asesiad y Gwasanaeth Rhent 
  • Yn gyfartal â'ch rhent wythnosol os ydych yn Denant Cymdeithas Tai (NODER os yw eich rhent yn cynnwys taliadau am wasanaeth, hynny yw, trethi dwr, gwresogi ac ati, fe ddidynnir y rhain o'ch rhent wythnosol gan na ellir defnyddio Budd-dal Tai i dalu am y costau hyn).
  • Yn gyfartal â'r hyn a dalwch mewn Treth y Cyngor bob wythnos

Dyma'r uchafswm y gallwn ei dalu. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn derbyn swm sy'n llai na'r uchafswm os oes unrhyw bobl annibynnol yn rhannu'ch cartref.

Os nad ydych yn derbyn yr elfen credyd warantiedig o Gredyd Pensiwn byddwn yn cymharu'ch incwm wythnosol ac unrhyw incwm tariff o gyfalaf/cynilion â'ch Swm Perthnasol.

Rydym yn defnyddio symiau a bennir bob blwyddyn gan y Llywodraeth (DU a Chymru) a elwir yn lwfansau personol a phremiymau er mwyn cyfrifo faint sydd angen arnoch chi a'ch cartref er bywoliaeth. Cyfanswm eich lwfansau personol a phremiymau yw eich Swm Perthnasol.

Bydd eich lwfans personol yn dibynnu ar:

  • Eich oedran;
  • Os ydych yn sengl neu â phartner;
  • Faint o blant dibynnol sydd gennych a'u hoedrannau.

Ychwanegir premiymau i'ch lwfansau personol er mwyn cydnabod anghenion arbennig:

  • Teuluoedd;
  • Pobl anabl;
  • Gofalwyr.

Os yw eich incwm wythnosol yn llai na'ch Swm Perthnasol neu'r un faint, byddwn yn talu uchafswm y budd-dal/gostyngiad (gweler uchod), wedi tynnu symiau ar gyfer unrhyw bobl annibynnol sy'n byw gyda chi.

O ran Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol - os yw eich incwm wythnosol yn uwch na'ch Swm Perthnasol byddwn yn tynnu 65c oddi ar uchafswm eich budd-dal (gweler uchod) ar gyfer pob £1 o'ch incwm sydd dros ben eich Swm Perthnasol.

O ran Gostyngiad Treth y Cyngor - os yw eich incwm wythnosol yn uwch na'ch Swm Perthnasol byddwn yn tynnu 20c oddi ar uchafswm eich gostyngiad (gweler uchod) ar gyfer pob £1 o'ch incwm sydd dros ben eich Swm Perthnasol.

Brig y Tudalen

A oes isafswm o fudd-dal/gostyngiad sy'n daladwy?

50c yr wythnos yw isafswm y Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol sy'n daladwy.

Nid oes isafswm ar gyfer faint o Gostyngiad Treth y Cyngor sy'n daladwy bob wythnos.

Brig y Tudalen

Sut caiff fy mudd-dal/gostyngiad ei dalu?

Os ydych yn denant preifat sy'n gymwys am Fudd-dal Tai ers cyn 7 Ebrill 2008 neu'n Denant Cymdeithas Tai sy'n gymwys am Fudd-dal Tai, fe dalwn 'lwfans rhent' i chi. Telir y lwfans rhent fel ôl-daliad bob pythefnos fel arfer; fodd bynnag, ar adegau gallwn ei dalu i'ch Cymdeithas Dai neu'ch landlord. Os felly, telir eich lwfans rhent yn uniongyrchol i'ch Cymdeithas Tai neu'ch landlord fesul 4 wythnos, fel ôl-daliad.

Os ydych yn denant preifat sy'n gymwys am Lwfans Tai Lleol ers 7 Ebrill 2008 mae'n rhaid i ni ei dalu i chi os nad oes unrhyw amgylchiadau eithriadol. Gallwn gyflwyno taliadau i'ch landlord mewn amgylchiadau penodol yn unig ac rydym wedi datblygu cyfres o feini prawf i'n cynorthwyo wrth benderfynu ar yr achosion hyn; dyma yw ein Polisi Diogelu.

Os ydych chi wedi cael llety gan y Tîm Llety Argyfwng ac/neu'r Tîm Digartrefedd ac yr ydych chi'n gymwys i gael Budd-dal Tai yr ydym yn talu ad-daliad rhent wythnosol i chi. Caiff yr ad-daliad rhent ei dalu'n syth i'ch cyfrif rhent ac mae'n lleihau'r rhent wythnosol y byddwch yn ei dalu.

Fe ad-dalwn eich Gostyngiad Treth y Cyngor yn uniongyrchol i'ch cyfrif Treth Cyngor, cyn gyrru bil Treth Cyngor newydd i roi gwybod faint sydd angen i chi ei dalu.

Brig y Tudalen

Pryd fydd fy mudd-dal/gostyngiad yn cychwyn?

Os ydych yn gymwys am Fudd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol, fe dalwn eich budd-dal fel arfer o'r dydd Llun cyntaf ar ôl i chi ofyn i ni am ffurflen gais (cyn belled ac eich bod yn dychwelyd y ffurflen cyn pen un mis calendr ar ôl cysylltu â ni).

Os ydych chi'n gymwys i gael Gostyngiad Treth y Cyngor, fel rheol byddem yn rhoddi'r gostyngiad i chi o'r dyddiad y gofynnoch chi am ffurflen gais (os dychwelwch chi'r ffurflen gais o fewn mis ar ôl cysylltu â ni).

Pan wnewch chi hawliad am Fudd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol dros y ffôn drwy'r Gwasanaeth Pensiwn, byddwn yn ystyried mai'r dyddiad y cysylltoch â hwy yw dyddiad eich hawliad.

Os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn fe fydd dyddiad hawlio eich budd-dal yr un fath.

Brig y Tudalen

A ellir ôl-ddyddio fy mudd-dal/gostyngiad?

Os ydych chi neu'ch partner (os yn berthnasol) wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth byddwn yn ôl-ddyddio'ch hawliad am hyd at 3 mis yn awtomatig ar yr amod eich bod yn gallu dangos eich bod yn gymwys ar gyfer Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor yn y cyfnod hwnnw.

Gweler Ôl-ddyddio am fwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Am ba hyd y telir budd-dal/gostyngiad?

Telir budd-dal/gostyngiad am ba hyd bynnag eich bod yn gymwys. O bryd i'w gilydd bydd angen i ni gadarnhau manylion eich hawliad, a byddwn yn cysylltu â chi fel bo'r angen neu drefnu dod i'ch gweld.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os ydw i'n anghytuno â'ch penderfyniad?

Ar ôl penderfynu ar eich hawliad byddwn yn gyrru llythyr hysbysu swyddogol atoch. Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi am yr holl fanylion a ystyriwyd gennym wrth benderfynu'ch hawl, ac mae'n bwysig eich bod yn gwirio'r holl wybodaeth.

AR GYFER BUDD-DAL TAI NEU'R LWFANS TAI LLEOL:

Os ydych chi am gael gwybod mwy am y penderfyniad neu os ydych chi'n credu ei fod yn anghywir, dylech chi gysylltu â ni o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr neu efallai na allwn ni ystyried unrhyw angydfod.

Gallwch un ai ofyn am eglurhad, neu:

  • ofyn yn ysgrifenedig am 'Ddatganiad Rheswm' ysgrifenedig
  • gofyn i ni ailystyried y penderfyniad - 'Dadlau â'r Penderfyniad'. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig. Os medrwn newid y penderfyniad fe yrrwn yr un newydd i chi. Os na fedrwn wneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod pam. Os ydych yn dal i anghytuno gallwch wneud apêl cyn pen mis ar ôl dyddiad y penderfyniad newydd.
  • 'Apelio' yn erbyn y penderfyniad - gellir gwneud hyn yn ysgrifenedig yn unig. Os ydych yn gwneud apêl yn erbyn penderfyniad caiff eich apêl ei atgyfeirio i Dribiwnlys Annibynnol a weinyddir gan y Gwasanaeth Tribiwnlys.

AR GYFER GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR

Os oes arnoch chi angen mwy o fanylion ynghylch unrhyw fater sydd wedi ei osod yn yr hysbysiad neu'r rhesymau dros y penderfyniad gallwch chi wneud cais o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr am 'Ddatganiad Ysgrifenedig o'r Rhesymau'.

Os ydych chi'n anghytuno â'r penderfyniad gallwch o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor yn nodi'n glir y mater(ion) yr ydych chi'n anfodlon arno a'r rhesymau. Byddwn yn ystyried y mater(ion) sydd ynglŷn â'ch hysbysiad chi a rhoddwn wybod i chi'n ysgrifenedig o'n penderfyniad ni gyda rhesymau. Yn dilyn y llythyr hwnnw os byddwch chi'n dal yn anfodlon bydd gennych chi 2 fis i apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Sylwer, gallwch chi apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru os na fyddwn ni wedi rhoi gwybod i chi ynghylch ein penderfyniad o fewn 2 fis ar ôl i chi gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor.

Gweler Apeliadau am fwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os yw fy amgylchiadau'n newid?

Yn ôl y gyfraith rhaid i chi ein hysbysu am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a ystyriwyd gennym wrth benderfynu faint o Fudd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol, a/neu Budd-dal Treth y Cyngor mae gennych hawl amdano.

Fodd bynnag, nid oes rhaid i rai pensiynwyr adrodd pob newid mewn amgylchiadau yn yr un modd â phobl eraill.

Y prif reolau yw:-

Os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn –

Dylech hysbysu'r Gwasanaeth Pensiwn am unrhyw newidiadau o ran eich incwm. Bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn hysbysu'r Awdurdod Lleol os yw'r newid i'ch incwm yn effeithio ar eich hawl i Fudd-dal Tai, Lwfans Tai lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor.

Dylech hysbysu'r Awdurdod Lleol am unrhyw newidiadau eraill, er enghraifft, newidiadau o ran eich cyfalaf/cynilion, eich rhent neu unrhyw bobl sy'n byw gyda chi.

Gweler Newid Amgylchiadau am fwy o wybodaeth.

Os nad ydych yn derbyn Credyd Pensiwn –

Dylech hysbysu'r Awdurdod Lleol am unrhyw newidiadau ar unwaith.

Gweler Newid Amgylchiadau am fwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

A allaf hawlio budd-dâl ar ddau gartref?

Telir budd-dâl fel arfer yn unig ar gyfer y cartref lle yr ydych yn byw ar hyn o bryd ac yn talu rhent. Serch hynny, mae yna rai amgylchiadau lle y gallech gael cymorth ar gyfer dau gartref:

I gael mwy o wybodaeth, gweler 'Hawlio Budd-dâl ar Ddau Gartref'.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os byddaf oddi cartref dros dro?

Dim ond tra bôch yn preswylio yn yr eiddo y telir Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor fel arfer. Serch hynny, efallai y gellid talu budd-dâl/gostyngiad o hyd tra bôch oddi cartref dros dro mewn rhai amgylchiadau.

Brig y Tudalen

A fedraf gael cymorth ychwanegol i dalu fy rhent?

Os ydych yn derbyn rhywfaint o Fudd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol ond yn cael anhawster talu gweddill eich rhent, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn taliad ychwanegol i'ch cynorthwyo i dalu'r diffyg. Gelwir hyn yn Daliad Tai Dewisol.

Ystyrir pob cais am Daliad Tai Dewisol yn ôl teilyngdod pob achos penodol. Rhoddir y taliad os gallwch ddangos eich bod yn profi caledi ariannol, neu fod amgylchiadau arbennig yn peri anhawster i chi o ran talu'ch rhent.

Gweler Taliad Tai Dewisol am fwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen