Beth sy'n digwydd os bydd fy amgylchiadau yn newid?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi ddweud wrthom os bydd unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a ddefnyddiom i benderfynu ar faint o Fudd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol, Gostyngiad Treth y Cyngor y mae hawl gennych iddo.

Rhaid i chi roi gwybod i'r Awdurdod Lleol os bu newid yn eich amgylchiadau a allai wneud gwahaniaeth i'ch Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol, Gostyngiad Treth y Cyngor presennol. Gweler 'Pryd y mae'n rhaid i mi ddweud wrthoch am newidiadau?'

Nid yw dweud wrth adran arall o'r Llywodraeth, megis Cyllid y Wlad, Canolfan Byd Gwaith neu'r Adran Gwaith a Phensiynau, yn golygu y byddwn yn cael gwybod am y newidiadau.

Brig y Tudalen

Pa fath o newidiadau y mae'n rhaid i mi ddweud wrthoch amdanynt?

Os ydych yn bensiynwr, hefyd gweler 'Beth sy'n digwydd os mai pensiynwr ydwyf a bod fy amgylchiadau yn newid?'

Dyma enghreifftiau o newidiadau y dylech ddweud wrthom amdanynt:

Unrhyw newidiadau i'ch Budd-daliadau

Er enghraifft, os byddwch chi neu'ch cymar (lle bo'n briodol) yn dechrau neu yn gorffen cael :

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chyngor
  • Budd-dâl Analluogrwydd neu Salwch
  • Unrhyw fudd-dâl arall

Newidiadau mewn incwm

Er enghraifft, os bydd unrhyw newid i'ch incwm chi neu incwm eich cymar (lle bo'n briodol). Dywedwch wrthom os bydd yn dechrau, yn gorffen, y swm yn cynyddu neu yn gostwng. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Cyflog
  • Credyd Treth
  • Pensiynau gwaith
  • Cynhaliaeth
  • Unrhyw incwm arall

Pobl sy'n byw gyda chi

Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau sy'n ymwneud â'r bobl sydd fel arfer yn byw gyda chi, er enghraifft:

  • Os bydd rhywun yn dod i fyw gyda chi neu fod rhywun yn symud ymaith
  • Os bydd rhywun sy'n byw gyda chi yn dechrau neu yn gorffen gweithio
  • Os bydd newid yn incwm rhywun sy'n byw gyda chi
  • Genir plentyn
  • Mae plentyn yn gadael yr ysgol

Cyfrifon Banc, Cynilion a Buddsoddiadau

Rhaid i chi roi gwybod i ni os bydd unrhyw newidiadau yn lefel eich cyfalaf/cynilion neu rai'ch cymar (lle bo'n briodol). Nid oes rhaid i chi ddweud wrthom am fân newidiadau yn eich cyfrif cyfredol na newidiadau o ddydd i dydd mewn unrhyw stociau neu gyfrandaliadau sydd gennych. Rhaid i chi ddweud wrthom:

  • Os aiff eich cynilion dros £6,000 (os nad ydych eto wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) neu £10,000 (os ydych wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth) am y tro cyntaf
  • Os aiff eich cynilion dros £16,000 am y tro cyntaf
  • Os bydd gostyngiad mawr yn eich cynilion oherwydd y bu'n rhaid i chi brynu rhywbeth sylweddol

Rhenti Preifat

Rhaid i chi ddweud wrthom:

  • Os bydd eich landlord yn cynyddu neu yn gostwng eich rhent
  • Y gwasanaethau sy'n gynwysiedig yn eich newid rhent
  • Os bydd rhan o'r eiddo lle yr ydych yn byw yn newid

Newidiadau eraill

Rhaid i chi ddweud wrthom os byddwch chi neu'ch cymar (lle bo'n briodol):

  • Yn symud
  • Yn byw oddi cartref
  • Yn dod yn fyfyriwr neu yn gorffen cwrs
  • Yn mynd i'r ysbyty
  • Yn mynd i'r carchar
  • Mae gen chi bartner o'r un rhyw ac yr ydym yn cyd-fyw fel pâr priod  

Nid yw'r uchod yn cwmpasu'r holl newidiadau y mae angen i ni wybod amdanynt. Os na fyddwch yn sicr a oes angen i ni wybod am newid, rhowch wybod i ni fodd bynnag. Peidiwch â'i gadael tan y tro nesaf y byddwch yn cwblhau ffurflen gais.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os mai pensiynwr ydwyf a bod fy amgylchiadau yn newid?

Nid oes rhaid i rai pensiynwyr hysbysu pob newid yn eu hamgylchiadau yn yr un modd â phobl eraill.

Mae'r prif reolau fel a ganlyn: -

Os ydych YN derbyn Credyd Pensiwn

Dylech roi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn am unrhyw newidiadau yn eich incwm.  Bydd y Gwasanaeth Pensiwn  yn rhoi gwybod i'r Awdurdod Lleol os bydd y newid yn eich incwm yn effeithio ar eich hawl i gael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor.

Dylech ddweud wrth yr Awdurdod Lleol ar unwaith am unrhyw newidiadau eraill, er enghraifft, newidiadau yn eich cyfalaf/cynilion, rhent neu unrhyw bobl sy'n byw gyda chi.

Gweler 'Pa fath o newidiadau y mae'n rhaid i mi ddweud wrthoch amdanynt?' i gael mwy o wybodaeth.

Os NAD ydych yn cael Credyd Pensiwn

Dylech ddweud wrth yr Awdurdod Lleol ar unwaith am unrhyw newidiadau.

Gweler 'Pa fath o newidiadau y mae'n rhaid i mi ddweud wrthoch amdanynt?' i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Pryd y mae'n rhaid i mi ddweud wrthoch am newidiadau?

Yn ol y gyfraith dylid hysbysu newidiadau yn eich amgylchiadau ar unwaith.

O RAN BUDD-DAL TAI NEU LWFANS TAI LLEOL:

Bydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau a hysbysir cyn pen un mis yn dod yn effeithiol fel arfer ar y Dydd Llun sy'n dilyn y dyddiad pan ddigwyddodd y newid.

Os bydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau yn golygu eich bod yn cael mwy o fudd-dâl, rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen un mis. Os na wnewch hynny, ni chynyddir eich budd-dâl ond o'r dyddiad pryd y rhoddoch wybod i ni.

Gweithredir gostyngiad yn eich hawl i fudd-dâl o ddyddiad y newid, ni waeth pryd y rhoddwch wybod i'r Awdurdod Lleol. Felly, mae angen i chi roi gwybod i ni cyn gynted ag y bo modd i osgoi unrhyw ordaliad posib.

O RAN GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR:

O dan y Gyfraith i ymwneud a Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor bydd yn rhaid rhoi gwybod ynghylch unrhyw newidiadau a fydd yn effeithio ar eich hawl chi i ostyngiad o fewn 21 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y bydd y newid yn digwydd. Os na wnewch chi hynny gallech chi gael eich erlyn. Os cewch chi Ostyngiad yn Nhreth y Cyngor heb fod gennych hawl iddo bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu i'r Cyngor.

Fel rheol bydd newidiadau sy'n effeithio ar eich hawl i ostyngiad yn dod i rym ar ddiwrnod y newid.

Brig y Tudalen

Sut y dylwn ddweud wrthoch am unrhyw newidiadau?

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau drwy lenwi Ffurflen Newid Amgylchiadau, neu Ffurflen Newid Cyfeiriad sydd ar gael i'w lawrlwytho o'r dudalen Ffurflenni y Gallwch Lawrlwytho. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Awdurdod Lleol trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk, neu ffonio 01970 633252 neu drwy ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch. Gallwch hefyd ymweld ag un o'n Swyddfeydd Ardal Lleol i gasglu ffurflen.

Gallwch ddychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk neu ei phostio at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt neu ewch â hi i'ch Swyddfa Ardal Leol.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni:

  • Beth a ddigwyddodd
  • Dyddiad y newid
  • Manylion y newid – er enghraifft, incwm newydd, y dyddiad pan symudodd rhywun i mewn neu allan etc

Hefyd, bydd angen i ni weld dogfennau sy'n tystiolaethu'r newid. Cofiwch y bydd angen i ni weld dogfennau gwreiddiol – ni allwn dderbyn llungopïau. Gallai enghreifftiau o'r dogfennau y bydd yn rhaid i chi eu darparu fod fel a ganlyn:

  • Rhybudd am gynnydd yn eich rhent, os bydd eich rhent wedi cynyddu neu ostwng
  • Llythyr dyfarnu eich budd-dâl chi neu fudd-dâl eich cymar (lle bo'n briodol), os bydd eich budd-daliadau wedi newid
  • Eich slipiau cyflog newydd neu rai'ch cymar (lle bo'n briodol), os bydd eich cyflog wedi newid
  • Eich cyfriflenni banc diweddaraf neu rai'ch cymar (lle bo'n briodol), os bydd eich cynilion wedi newid

Gweler ''Rhestr Wirio Tystiolaeth Gefnogol"i gael mwy o wybodaeth.

Os nad yw'r holl dystiolaeth a'r wybodaeth gennych i gefnogi'r newid yn eich amgylchiadau, peidiwch ag oedi cyn rhoi gwybod i'r Awdurdod Lleol. Gallwch anfon unrhyw dystiolaeth ddogfennol pan fydd ar gael.

Brig y Tudalen

Rwyf yn dechrau gweithio, beth y mae'n rhaid i mi ei wneud?

Os buoch yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dâl Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol a bod y rheini'n gorffen oherwydd eich bod yn dechrau gweithio neu fod oriau/enillion eich gwaith presennol yn cynyddu, efallai y bydd hawl gennych gael taliadau estynedig/gostyngiad estunedig.

Efallai y bydd hawl gennych gael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor o hyd ar ôl i chi ddechrau gweithio os byddwch ar incwm isel. Os na fydd y nifer angenrheidiol o slipiau cyflog gennych i gefnogi'ch cais, gallwch ofyn i'ch cyflogwr wneud amcangyfrif o'ch enillion gros a'ch didyniadau treth ac yswiriant gwladol i alluogi ystyried eich hawl i fudd-dâl dros dro. Wedyn, gellir anfon manylion eich gwir enillion pan ddônt i law. Gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Gefnogol'i gael mwy o wybodaeth.

Hefyd, bydd angen i chi gwblhau ffurflen Newid Amgylchiadau a darparu dogfennau sy'n rhoi tystiolaeth o'ch incwm wythnosol arall i gyd a'ch cyfalaf/cynilion.

Gallwch lawrlwytho ffurflen Newid Amgylchiadau neu fel arall, gallwch gysylltu â'r Awdurdod Lleol trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk, neu ffonio 01970 633252 neu drwy ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch. Gallwch hefyd ymweld ag un o'n Swyddfeydd Ardal Lleol i gasglu ffurflen.

Gallwch ddychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk neu ei phostio at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt neu ewch â hi i'ch Swyddfa Ardal Leol.

Brig y Tudalen

Rwyf yn newid cyfeiriad, beth sy'n rhaid i mi ei wneud?

Os newidiwch gyfeiriad, dylech gwblhau ffurflen newid cyfeiriad ar unwaith.

Gallwch lawrlwytho Ffurflen Newid Cyfeiriad neu fel arall, gallwch gysylltu â'r Awdurdod Lleol trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk, neu ffonio 01970 633252 neu drwy ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch. Gallwch hefyd ymweld ag un o'n Swyddfeydd Ardal Lleol i gasglu ffurflen.

Gallwch ddychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk neu ei phostio at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt neu ewch â hi i'ch Swyddfa Ardal Leol.

Serch hynny, os ydych yn meddwl symud i eiddo rhent preifat, gallwch ddarganfod faint yw'r swm uchaf o Fudd-dâl Tai neu Lwfans Tai Lleol y gallai fod hawl gennych iddo cyn i chi symud.

Os bydd eich darpar denantiaeth yn disgyn o dan y Cynllun Lwfans Tai Lleol mae hynny'n seiliedig ar nifer yr ystafelloedd y mae eu hangen arnoch chi a'ch teulu (lle bo'n briodol) a'r ardal lle yr ydych yn byw. Gallwch ganfod ym mha ardal y lleolir yr eiddo y dymunwch ei rentu drwy wneud gwiriad uniongyrchol gyda'r Gwasanaeth Rhenti drwy fewnbynnu'ch côd post ar eu gwefan, sef LHA Direct.

Y gyfradd uchaf o ran y Lwfans Tai Lleol a fydd yn gymwys i'ch hawliad yw'r gyfradd o fis Ebrill y flwyddyn ariannol y byddwch yn hawlio h.y. bydd cyfraddau Lwfans Tai Lleol mis Ebrill 2019 yn gymwys i hawliadau a wneir neu yr ymdrinnir â nhw fel hawliadau a oedd wedi eu gwneud yn ystod y cyfnod 01.04.2019 hyd 31.03.2020.

Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch chi a'ch teulu chi (os yw hynny'n gymwys) gallwch – "weld cyfraddau cyfredol Ceredigion".

Gweler y "Lwfans Tai Lleol" os yw'r rhent y mae eich landlord yn ei godi'n is/uwch na chyfradd y Lwfans Tai Lleol.

Yn achos tenantiaethau nad yw'r Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnynt, gallwch ganfod faint o'r rhent y byddwn yn ei ddefnyddio i gyfrifo'ch Budd-dâl Tai cyn i chi benderfynu meddiannu'r eiddo. Gallwch wneud hyn drwy gwblhau ffurflen penderfyniad cyn-denantiaeth.

Gallwch gysylltu â ni ar 01970 633252, ebostiwch revenues@ceredigion.gov.uk neu galwch heibio i un o'n Swyddfeydd Lleol i ofyn am ffurflen penderfyniad cyn-denantiaeth.

Dalier sylw bod y ffigyrau penderfyniad cyn-denantiaeth/cyfraddau Lwfans Tai Lleol wythnosol yn rhoi lefel uchaf y budd-dâl y gellid ei dalu. Bydd eich union hawl i fudd-dâl yn dibynnu ar eich incwm a'ch amgylchiadau.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi ddweud wrthoch am newid?

Pryd bynnag y gwnawn newidiadau i'ch Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu'ch Gostyngiad Treth y Cyngor, byddwn yn anfon llythyrau hysbysu newydd atoch a fydd yn dangos y newidiadau a wnaethom. Rhaid i chi wirio'r manylion sydd ar y llythyrau hynny yn ofalus i sicrhau eu bod yn gywir. Os yw unrhyw fanylion a ddefnyddiom i asesu'ch cais yn anghywir, rhowch wybod i ni ar unwaith. Gallai peidio â gwneud hynny achosi gordaliad yn eich budd-dâl/gostyngiad a gallai fod yn rhaid i chi ad-dalu hwnnw yn ddiweddarach.

Brig y Tudalen