Gwybodaeth am Budd-Taliadau Tai, Lwfans Tai Lleol a Gostyngiad Treth y Cyngor i Landlordiaid.

Brig y Tudalen 

Beth yw Budd-dâl Tai?

Budd-dâl gan y Llywodraeth yw'r Budd-dâl Tai i roi cymorth i bobl dalu eu rhent. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweinyddu'r cynllun i bobl sy'n byw yn ei ardal. Mae faint o arian a gânt yn dibynnu ar eu hamgylchiadau a faint o rent y mae'n rhaid iddynt ei dalu.

Brig y Tudalen

Beth yw'r Lwfans Tai Lleol?

Mae'r Lwfans Tai Lleol yn lwfans tai a delir ar gyfradd safonol, ac mae wedi seilio ar lefelau rhenti mewn ardal benodola maint aelwyd y tenant, yn hytrach na'r union rhent a godir am yr anedd. I gael rhestr gynhwysfawr o gwestiynau cyffredin sydd â'r nod o helpu landlordiaid i ddeall sut y bydd y Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnynt, gweler Lwfans Tai Lleol – Arweiniad ar gyfer Landlordiaid.

Brig y Tudalen

Beth yw Gostyngiad Treth Gyngor?

Budd-dâl gan y Llywodraeth yw'r Budd-dâl Treth Gyngor sy'n rhoi cymorth i bobl â'u Treth Gyngor. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweinyddu'r cynllun i bobl sy'n atebol i dalu'r Dreth Gyngor ac sy'n byw yn ei ardal. Bydd faint o arian y byddant yn ei gael yn dibynnu ar eu hamgylchiadau a faint o Dreth Gyngor y mae'n rhaid iddynt ei dalu.

Brig y Tudalen

Pwy a all hawlio'r budd-daliadau/gostyniadau hyn?

Gall pobl wneud cais am yr uchod os byddant ar incwm isel, yn ddiwaith, yn methu â gweithio oherwydd salwch, wedi ymddeol neu yn gofalu am rywun a'u bod yn cwrdd â'r amodau canlynol :

Brig y Tudalen

Pwy na fydd neu efallai na fydd yn medru hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn?

Ni medrau pobol gael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Nad ydyn yn gyfrifol am dalu'r rhent a/neu'r Dreth Gyngor .
  • Mae ganddo nhw â chynilion a/neu fuddsoddiadau o fwy na £16,000 (oni bai eich bod yn cael elfen credyd gwarantiedig y Credyd Pensiwn)
  • Mae nhw yn talu rhent i berthynas agos sy'n byw yn yr un eiddo (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Mae nhw yn rhentu eiddo yr oeddwn nhw (neu ei cymar) yn berchen arno gynt (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Mae nhw yn byw mewn cartref gofal, megis cartref nyrsio neu gartref i'r henoed (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Mae nhw yn rhiant neu'n warcheidwad i blentyn eu landlord (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol)
  • Mae nhw yn byw gartref fel amod o'i gwaith gan y landlord (achosion Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol)
  • Mae nhw yn geisydd lloches oni bai y rhoddwyd statws ffoadur neu ganiatâd eithriadol neu amhenodol i nhwi (gelwir caniatâd dyngarol neu ddewisol hefyd ar hynny) i aros yn y Deyrnas Unedig. 
  • Cawsodd eu derbyn i'r Deyrnas Unedig ar yr amod nad oes dim hawl ganddo i gronfeydd cyhoeddus. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i nhw beidio â hawlio budd-daliadau yn y Deyrnas Unedig. 
  • Mae nhw yn fewnfudwr noddedig ac wedi bod yn byw yma ers llai na phum mlynedd. 
  •  Mae nhw yn y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon neu y mae eu caniatâd i aros wedi dirwyn i ben. 

Efallai na fydd hawl ganddo nhw i Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Mae nhw yn arfer byw gyda'i landlord yn aelod o'r teulu, perthynas neu ffrind ac bod nhw yn awr yn talu rhent i'r person hwnnw. 
  • Mae nhw yn byw mewn eiddo y mae urdd grefyddol yn ei gynnal ac mae nhw'n aelod o'r urdd grefyddol honno. 
  • Mae nhw yn rhentu oddi wrth ymddiriedolaeth ac mae nhw'n hefyd yn ymddiriedolwr neu fuddiolwr. 
  • Mae nhw yn rhentu eiddo oddi wrth gwmni ac mae nhw'n gyfarwyddwr neu yn gyflogai yn y cwmni. 
  • Roeddwm nhw yn arfer bod yn berchen ar yr eiddo y mae nhw'n eu rentu bellach. 
  • Mae nhw'n fyfyriwr - gweler 'Myfyrwyr'i gael mwy o wybodaeth yngl?n â phwy a all wneud cais.
  • Mae nhw yn byw dros dro oddi cartref .

Dalier sylw mai canllawiau yn unig yw'r uchod. Mae'r rheoliadau cymhwysedd a 'Phobl o Dramor' yn dra chymhleth a gallwch gysylltu â ni ar 01970 633252 neu ein hebostio ar revenues@ceredigion.gov.uk i wirio a fyddech yn gymwys i gael budd-dâl/gostyngiad.

Brig y Tudalen

Sut y gall fy nhenant hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn?

Os byddant wedi hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Credyd Pensiwn neu Lwfans Cymorth Cyflogaeth, gallant hefyd wneud cais am Fudd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol ac/neu Gostyngiad Treth y Cyngor yr un pryd a bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon hynny atom.

Os na fyddant yn hawlio neu os na fydd hawl ganddynt i un o fudd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau, bydd angen iddynt gwblhau ffurflen gais yr Awdurdod Lleol a rhoi tystiolaeth ddogfennol fel y'i manylir yn yr adran 'Pa wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gyfrifo fy mudd-dâl/gostyngiad?'.

Gallant llanw ffurflen gais ar lein, dadlwytho Ffurflen Gais neu gallant gysylltu â ni ar 01970 633252 a byddwn yn anfon ffurflen gais atynt. Fel arall, gallant ein hebostio ar revenues@ceredigion.gov.uk gan roi eu cyfeiriadau post neu ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a ddangosir ar y dudalen gyswllt. Hefyd, gallant gasglu ffurflen gais yn unrhyw Swyddfa Leol.

Mae'n bwysig iddynt gwblhau a dychwelyd y ffurflen gais atom i'r cyfeiriad a ddangosir cyn gynted ag y bo modd. Os na fydd ganddynt bob tystiolaeth ddogfennol y gofynasom amdani ar y ffurflen ar unwaith, dylent ei dychwelyd atom o hyd, gan nodi naill ai ar y ffurflen neu ar ddarn o bapur ar wahân pryd y darperir gweddill y wybodaeth. Os byddant yn oedi cyn anfon y ffurflen atom, gallent golli budd-dâl/gostyngiad.

Mae'n bwysig iawn eu bod yn cwblhau pob adran sydd ar y ffurflen a thicio pob un o'r blychau ateb. Os na chwblheir y ffurflen yn gywir, bydd yn rhaid i ni ei dychwelyd atynt a bydd hynny'n achosi oedi cyn talu'r cais.

Brig y Tudalen

Pa wybodaeth y mae ei hangen arnom i gyfrifo'r budd-dâl/gostyngiad?

Mae'n bwysig y telir yr hawl cywir i'n cwsmeriaid ac y canfyddir ac yr atalir twyll a chamgymeriadau cyn gynted ag y bo modd. Mae hynny'n dibynnu arnom ni, sef ein bod :

  • Yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth gywir i gefnogi ceisiadau; ac
  • Yn gwneud gwiriadau unwaith y telir yr hawl.

Hefyd, mae'n dibynnu ar ein cwsmeriaid, sef eu bod yn dweud wrthom ar unwaith os bydd eu hamgylchiadau yn newid. Os na fyddant yn dweud wrthom am y newidiadau hyn, efallai y collant arian y mae hawl ganddynt iddo neu efallai y cânt ormod o fudd-dâl/gostyngiad.

Yn ogystal â'u ffurflen gais a fydd wedi'i chwblhau, bydd yn rhaid iddynt roi :

  • Tystiolaeth o fodd adnabod
  • Tystiolaeth cyfeiriad
  • Tystiolaeth o'r rhif yswiriant gwladol
  • Tystiolaeth o gyfalaf, cynilion a buddsoddiadau
  • Tystiolaeth enillion
  • Tystiolaeth incwm arall
  • Tystiolaeth o fudd-daliadau, lwfansau neu bensiynau
  • Tystiolaeth o rent a thenantiaeth breifat
  • Tystiolaeth o arian arall a delir

Gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Ddogfennol' i gael rhestr lawn o ddogfennau y gellir eu darparu i gefnogi eu cais.

Ni allwn dderbyn ond dogfennau gwreiddiol, ac nid llungopïau.

Os na fydd yr holl dystiolaeth a'r wybodaeth ganddynt y mae eu hangen arnom i gefnogi eu cais, ni ddylent oedi cyn anfon eu ffurflen. Dylid cyflwyno pob tystiolaeth yn gefn i'r cais cyn gynted ag sy'n bosibl er mwyn inni fedru ystyried yr hawliad; fodd bynnag, bydd angen cyflwyno'r wybodaeth honno o fewn mis ar ôl cyflwyno eich ffurflen hawlio.

Brig y Tudalen

A fydd Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol yn cwmpasu'r rhent llawn?

Efallai na fydd Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol yn cwmpasu atebolrwydd llawn y rhent a bydd eich tenant felly yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg rhwng y budd-dâl a ddyfernir a'r union rent a godwch.

Brig y Tudalen

A allaf ddarganfod faint yw'r Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol uchaf y mae hawl gan denant ei gael cyn iddo symud i'r eiddo?

Gallaf. Mae'r Lwfans Tai Lleol yn seiliedig ar nifer ystafelloedd y mae eu hangen ar eich tenant a'i deulu (lle bo'n berthnasol) ynghyd â'r ardal lle y maent yn byw. Gellir darganfod ym mha ardal y lleolir yr eiddo y dymunwch ei osod ar rent drwy wneud gwiriad uniongyrchol â'r Gwasanaeth Rhenti drwy fewnbynnu'r côd post ar eu gwefan, sef LHA Direct.

Caiff cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol eu hadolygu'n flynyddol ddechrau mis Ebrill bob blwyddyn oni fydd newid yn amgylchiadau'r tenant a fydd yn effeithio ar nifer yr ystafelloedd gwely a ddefnyddir i gyfrifo'r Lwfans Tai Lleol, er enghraifft, os bydd rhywun yn symud i mewn neu allan o'ch eiddo chi.

Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar y tenant a'r teulu (os yw hynny'n gymwys) gallwch – weld cyfraddau cyfredol Ceredigion.

Yn achos tenantiaethau nad yw'r Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnynt, gallwch ddarganfod faint o'r rhent y byddwn yn ei ddefnyddio i gyfrifo Budd-dâl Tai eich tenant cyn iddo benderfynu meddiannu'ch eiddo. Gall wneud hynny drwy gwblhau ffurflen penderfyniad cyn-denantiaeth.

Gall eich tenant gysylltu â ni ar 01970 633252, ein hebostio ar revenues@ceredigion.gov.uk neu alw yn un o'n Swyddfeydd Lleol i ofyn am ffurflen penderfyniad cyn-denantiaeth.

Dalier Sylw bod ffigyrau penderfyniad cyn-denantiaeth/cyfraddau wythnosol y Lwfans Tai Lleol yn rhoi'r budd-dâl uchaf y gellid ei dalu. Bydd yn rhaid i'ch tenant gwblhau ffurflen gais a rhoi pob tystiolaeth ddogfennol fel y gall yr Awdurdod Lleol gyfrifo'ch hawl wythnosol.

Brig y Tudalen

Sut y telir Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol?

Os bu'ch tenant yn cael Budd-dâl Tai yn barhaol ers 7 Ebrill 2008 neu os yw'n denant Cymdeithas Dai sy'n gymwys i gael Budd-dâl Tai, talwn 'lwfans rhent' iddo. Telir y lwfans rhent fel arfer i'r tenant bob pythefnos ar ffurf ôl-daliadau. Serch hynny, weithiau gallwn dalu'r Budd-dâl Tai yn uniongyrchol i'r Gymdeithas Dai neu'r Landlord. Telir lwfans rhent yn uniongyrchol i Gymdeithas Dai neu landlord bob pedair wythnos ar ffurf ôl-daliadau.

Os bydd eich tenant yn gymwys i gael Lwfans Tai Lleol ers 7 Ebrill 2008, rhaid talu hwnnw i'r tenant oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Dim ond mewn amgylchiadau penodol y gallwn wneud taliadau i chi fel landlord a datblygom gyfres o feini prawf sy'n ein helpu i wneud penderfyniad yn yr achosion hynny; galwn ein Polisi Mesurau Diogelwch ar hwnnw. Hefyd, rhoddir esboniad mwy manwl o hyn Lwfans Tai Lleol – Arweiniad ar gyfer Landlordiaid.

Brig y Tudalen

Beth y gallaf ei wneud os bydd ôl-daliadau gan fy nhenant?

Anogir landlordiaid i roi gwybod i'r Awdurdod Lleol ar y cyfle cyntaf os na fydd tenant yn talu ei rent. Ysgrifennwch atom gan roi tystiolaeth i ni o'r ôl-daliadau fel y gallwn benderfynu pa gamau i'w cymryd.

Serch hynny, mae rheoliadau'r Budd-daliadau yn datgan bod yn rhaid i ni eich talu yn uniongyrchol os bydd ar denant wyth wythnos neu fwy o rent i chi, oni bai yr ystyriwn ei bod er budd gorau'r tenant na wneir hynny.

Brig y Tudalen

Faint o amser y mae'n ei gymryd i ddatrys cais am Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol?

Ein nod yw gwneud penderfyniad am eu cais cyn pen 14 diwrnod i'r adeg pan ddaw'r holl wybodaeth angenrheidiol i law.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os bydd amgylchiadau fy nhenant yn newid?

Yn ôl y gyfraith, rhaid rhoi gwybod i'r Awdurdod Lleol os bydd unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a ddefnyddiom i bennu faint yw'r Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol, a/neu Gostyngiad Treth Gyngor y mae hawl gan gwsmeriaid ei gael.

Mae'n dra phwysig rhoi gwybod i ni ar unwaith. Dylai cwsmeriaid gysylltu â ni hyd yn oed os ydynt yn dal i ddisgwyl clywed oddi wrthom am eu cais a hyd yn oed os bu iddynt ddweud wrth rywun arall, er enghraifft, yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Os na fyddant yn dweud wrthom, efallai y bydd hynny'n golygu y bydd swm y budd-dâl/gostyngiad a gânt yn anghywir. Efallai na fyddwn yn talu digon iddynt a gallent beidio â chael arian y mae hawl ganddynt iddo neu efallai yr ydym yn gordalu nhw ac y bydd rhaid iddynt ei ad-dalu yn ddiweddarach.

Os byddwch yn cael taliadau Budd-dâl Tai neu Lwfans Tai Lleol gogyfer â'ch tenant, mae'n ddyletswydd arnoch ddweud wrth yr Awdurdod Lleol am unrhyw newidiadau yr ydych yn ymwybodol ohonynt neu os bydd eich tenant yn gwacáu'r eiddo.

Gallwch gysylltu â ni ar 01970 633252, dros yr e-bost ar revenues@ceredigion.gov.uk neu drwy alw yn un o'n Swyddfeydd Lleol neu ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a ddangosir ar y dudalen gyswllt i roi gwybod i ni am newid yn amgylchiadau'ch tenant.

Brig y Tudalen

Sut y gallaf hysbysu amheuaeth o Dwyll?

Mae'r Awdurdod Lleol yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl yn cael eu hawl cywir i Fudd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor a gwneir pob ymdrech i ymdrin â cheisiadau cyn gynted ag y bo modd.

Serch hynny, mae'n bwysig rhoi gwybod i'r Gwasanaeth Budd-daliadau am bobl sy'n hawlio budd-daliadau/gostyngiad nad oes hawl ganddynt iddynt, fel y gellir cymryd camau priodol yn eu herbyn.

Os ydych yn ymwybodol neu yn credu y gallai rhywun fod yn hawlio budd-dâl/gostyngiad ar ffurf twyll, gallwch gysylltu â ni ar Linell Gymorth Twyll Budd-daliadau ar 0800 854440 sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. Bydd yn ymdrin â phob gwybodaeth a roddwch i ni yn gyfrinachol.

Gweler Twyll Budd-daliadau i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Beth fydd yn digwydd os byddwch wedi talu gormod o Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol?

Os byddwn wedi talu gormod o Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol, gallwn ofyn i chi neu'ch tenant ad-dalu'r arian. Byddwn yn ystyried amgylchiadau'r gordaliad i benderfynu :

  • a oes modd adennill y gordaliad; ac
  • oddi wrth bwy y dylid ei adennill.

Byddwn yn ysgrifennu atoch os byddwn yn penderfynu adennill gordaliad oddi wrthoch.

Gweler Gordaliadau a Dyled i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Beth fydd yn digwydd os byddaf fi neu fy nhenant yn anghytuno ag unrhyw benderfyniad a wnaethoch?

AM GOSTYNGIAD BUDD-DAL TAI NEU LWFANS TAI LLEOL:

Os byddwch am gael gwybod mwy am y penderfyniad neu y credwch ei fod yn anghywir, dylech gysylltu â ni cyn pen un mis i ddyddiad y llythyr hysbysu neu efallai na fyddwn yn medru ystyried anghydfod.

Gallwch naill ai ofyn am esboniad neu:

  • ofyn, yn ysgrifenedig, am 'Ddatganiad Rhesymau' ysgrifenedig
  • gofyn i ni ystyried y penderfyniad eto – 'Cwestiyna'r Penderfyniad'. Rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig. Os gellir newid y penderfyniad, anfonwn benderfyniad newydd atoch. Os na fedrwn newid y penderfyniad, rhoddwn wybod i chi paham. Os byddwch yn dal i anghytuno, bydd un mis gennych i apelio o ddyddiad y penderfyniad newydd.
  • Apelio yn erbyn y penderfyniad – ni ellir gwneud hyn ond yn ysgrifenedig. Os byddwch yn apelio yn erbyn y penderfyniad, cyfeirir eich apêl at Dribiwnlys Annibynnolo dan weinyddiaeth y Gwasanaeth Tribiwnlys.

Serch hynny, fel landlord, ni allwch apelio i Dribiwnlys Annibynnol ond yn erbyn ein penderfyniad ynglyn â'r canlynol:

  • A fyddwn yn talu'r budd-dâl yn uniongyrchol i chi neu beidio; neu
  • A fyddwn yn penderfynu y dylech ad-dalu gordaliad neu beidio.

Brig y Tudalen

Pa wybodaeth a roddwch i mi am Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol fy nhenant?

Os byddwn yn talu Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol i'ch tenant, ni allwn roi dim gwybodaeth i chi am eu cais, oni bai eu bod wedi rhoi caniatâd i ni yn ysgrifenedig drafod eich cais â chi. Ni allwn hyd yn oed ddweud wrthoch os byddant wedi gwneud cais.

Os byddwn yn talu eu Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol i chi, gallwn ddweud y canlynol wrthoch:

  • y dyddiad pan fydd y budd-dâl yn dechrau ac yn gorffen;
  • faint o fudd-dâl a gânt bob wythnos a faint mor aml y'i talwn;
  • y swm yr ydym yn ei gymryd o'u budd-dâl i adennill gordaliad; a
  • manylion unrhyw taliad BACS/siec a dalwn yn uniongyrchol i chi.

Brig y Tudalen