Beth yw person annibynnol?

Person annibynnol yw unigolyn 18 mlwydd oed neu'n hŷn sy'n byw yn eich cartref ac yn defnyddio'ch cartref fel prif annedd ar sail anfasnachol. Nid yw hyn yn cynnwys:

  • eich gwr/gwraig/partner/partner sifil
  • plentyn yr ydych yn derbyn budd-dal plant ar ei gyfer
  • rhywun sy'n atebol ar y cyd â chi i dalu rhent a/neu dreth y cyngor

Gall enghreifftiau o unigolion a ystyrir yn bobl annibynnol gynnwys mab neu ferch sy'n oedolyn, cyfaill neu berthynas.

Brig y Tudalen

Beth fydd yr effaith ar fy mudd-dal/gostyngiad?

Fel arfer, mae'n bosibl y bydd gostyngiad yn eich Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor am bob person annibynnol sy'n byw yn eich cartref.

Brig y Tudalen

Sut y cyfrifir y didyniad pobl annibynnol?

Mae'r Llywodraeth (DU a Cymru) yn pennu didyniad wythnosol ar gyfer pobl annibynnol, yn dibynnu ar eu hincwm crynswth wythnosol. Po fwyaf eu hincwm wythnosol, y mwyaf yw'r didyniad - gwelwch lefelau didyniad diweddaraf am budd-tal / gostyngiad.

Brig y Tudalen

A all rhywun nad yw'n ddibynnydd gwneud hawl?

Na all. Ni all rhywun nad yw'n ddibynnydd hawlio am unrhyw daliad a wnânt fel cyfraniad ar gyfer eu cadw.

Brig y Tudalen

A yw'r arian a delir am eu cadw gan rywun nad yw'n ddibynnydd yn cyfrif fel incwm i ni?

Nac ydyw. Ni fydd unrhyw arian a delir gan rywun nad yw'n ddibynnydd yn cael ei drin fel eich incwm.

Brig y Tudalen

Beth os nad yw'r sawl nad yw'n ddibynnydd heb fod yn talu unrhyw beth am eu cadw?

Tynnir arian ar gyfer y sawl nad yw'n ddibynnydd heb ystyried a ydyw ef/hi yn gwneud cyfraniad i chi tuag at eu cadw.

Brig y Tudalen

Pryd na fyddwch yn gwneud didyniad pobl annibynnol?

Ni wneir didyniad pobl annibynnol yn yr achosion canlynol:

  • Os ydych chi neu'ch partner (os yw'n berthnasol) wedi'ch cofrestru'n ddall
  • Os ydych chi neu'ch partner (os yw'n berthnasol) yn derbyn Lwfans Gweini
  • Os ydych chi neu'ch partner (os yw'n berthnasol) yn derbyn yr elfen gofal o'r Lwfans Byw i'r Anabl ar unrhyw raddfa
  • Os ydych chi neu'ch partner (os yw'n berthnasol) yn derbyn yr elfen byw bob dydd o'r Taliad Annibyniaeth Personol
  • Os ydych chi neu'ch partner (os yw'n berthnasol) yn derbyn Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Ar gyfer Budd-dal Tai a Lwfans Tai Lleol – pobl annibynnol iau na 25 mlwydd oed sy'n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm), Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ar sail incwm)
  • Ar gyfer Gostyngiad Treth y Cyngor – pobl annibynnol sy'n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm), Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ar sail incwm)
  • Pobl annibynnol sy'n derbyn Credyd Pensiynau
  • Pobl annibynnol sy'n fyfyrwyr llawn amser (gelli'r gwneud didyniad os yw'r myfyriwr yn gweithio am dâl yng ngwyliau'r haf)
  • Pobl annibynnol sy'n hyfforddeion ieuenctid
  • Pobl annibynnol sydd yn y carchar
  • Pobl annibynnol sydd yn yr ysbyty am 52 wythnos neu fwy

Brig y Tudalen 

Rheolau o ran didyniad pobl annibynnol ar gyfer rhai pensiynwyr

Ar gyfer Budd-dal Tai neu'r Lwfans Tai Lleol

Mae'r rheolau o ran didyniad pobl annibynnol yn wahanol os ydych chi neu'ch partner (os yw'n berthnasol) yn 65 mlwydd oed neu'n hŷn.

Os ydyw person annibynnol un ai:

  • yn symud i mewn i'ch cartref
  • neu fod incwm eich person annibynnol yn cynyddu

Ni fyddwn yn gostwng eich Budd-dal Tai/ Lwfans Tai Lleol am 26 wythnos.

Ar gyfer Gostyngiadau Treth yr Cyngor

Bydd unrhyw newidiadau i rai nad ydynt yn ddibynyddion yn weithredol yn syth.

Brig y Tudalen

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei ddarparu ar gyfer fy mherson neu bobl annibynnol?

Nid oes angen i chi ddarparu tystiolaeth adnabod ar gyfer eich person annibynnol, na thystiolaeth o'u rhif Yswiriant Gwladol. Fodd bynnag, bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol o'u holl incwm wythnosol, er enghraifft:

  • slipiau cyflog wythnosol am 5 wythnos yn olynol neu slipiau cyflog misol am 2 fis yn olynol
  • llythyr dyfarnu budd-dal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • cyfrifon hunangyflogaeth
  • cyfanswm y llog a delir yn flynyddol ar unrhyw gynilion

Am ddadansoddiad manwl o'r dogfennau y gellir eu cyflwyno i gefnogi incwm eich person annibynnol, gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Ategol'.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os yw amgylchiadau'r bobl annibynnol yn newid?

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i chi ein hysbysu am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth yr ydym wedi'i ddefnyddio wrth benderfynu'r swm cywir yr ydych yn gymwys amdano o ran Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol, neu Gostyngiad Treth y Cyngor.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni ar unwaith. Dylech gysylltu â ni hyd yn oed os ydych yn disgwyl clywed yn ôl gennym ynglŷn â'ch hawliad.

Os na rowch wybod i ni, gallech fod yn derbyn y swm anghywir o fudd-dal/ostyngiad. Mae'n bosibl na fyddwn yn talu digon a allwch colli mas ar arian y mae gennych hawl i'w dderbyn, neu mae'n bosibl y byddwch yn derbyn gormod ac bydd rhaid ei dalu'n ôl yn ddiweddarach.

Am wybodaeth fanwl ynglŷn â hysbysu am newid mewn amgylchiadau, a pha newidiadau sydd raid i chi ein hysbysu amdanynt - gweler 'Newid Amgylchiadau'.

Brig y Tudalen

Gostyngiad Treth y Cyngor

Beth yw lefelau'r didyniadau Gostyngiad Treth y Cyngor ar hyn o bryd?

Noder: Diffiniad gwaith am dâl yw bod mewn gwaith am 16 awr neu fwy bob wythnos (gan ddisgwyl tâl am y gwaith).

Didyniadau i bobl nad ydynt yn ddibynnol Ebrill 2023
Yn derbyn Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn Gysylltiedig ag Incwm) neu Gredyd Cynhwysol (lle cyfrifir y dyfarniad ar y sail nad oes gan yr unigolyn nad yw’n ddibynnol unrhyw incwm a enillir) Dim
18 oed neu’n hŷn ac mewn gwaith am dâl (dros 16 awr) - Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd hefyd yn derbyn Credyd Cynhwysol ac mewn gwaith am dâl  
- incwm gros: llai na £236.00 5.45
- incwm gros: ddim yn llai na £236 ond yn llai na £410 10.90
- incwm gros: ddim yn llai na £410 ond yn llai na £511 13.70
- incwm gros: £511 neu fwy 16.40
- Eraill dros 18 oed 5.45

Budd-dal Tai

Beth yw lefelau'r didyniadau Budd-dal Tai ar hyn o bryd?

Noder: Diffiniad gwaith am dâl yw bod mewn gwaith am 16 awr neu fwy bob wythnos (gan ddisgwyl tâl am y gwaith).

Didyniadau i bobl nad ydynt yn ddibynnol Ebrill 2023
O dan 25 oed ac yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (sy’n gysylltiedig ag Incwm) nad yw’n cynnwys swm ar gyfer yr elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd cysylltiedig â gwaith neu Gredyd Cynhwysol (lle cyfrifir y dyfarniad ar y sail nad oes gan yr unigolyn nad yw’n ddibynnol unrhyw incwm a enillir) Dim
Yn 25 oed neu’n hŷn ac yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu’n 18 oed neu’n hŷn a ddim mewn gwaith am dâl 18.10
Yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (sy’n gysylltiedig ag Incwm) ar y prif gam (unrhyw oedran) 18.10
Yn derbyn Credyd Pensiwn Dim
18 neu’n hŷn ac mewn gwaith am dâl  
- incwm gros: llai na £162 18.10
- incwm gros: rhwng £162 a £235.99 41.60
- incwm gros: rhwng £236 a £307.99 57.10
- incwm gros: rhwng £308 a £409.99 93.40
- incwm gros: rhwng £410 a £510.99 106.35
- incwm gros: £511 neu fwy 116.75

Brig y Tudalen