Adolygiad o Fap Rhwydwaith Teithio Llesol 2026 – Cam 2 o’r Ymgynghoriad
Bydd yr ymgyrch hwn yn cau ar 25 Medi 2026.
Helpwch ni i Lunio Rhwydwaith Teithio Llesol Ceredigion 2026
Yn gynharach eleni, dechreuodd Cyngor Sir Ceredigion ddiweddaru Map y Rhwydwaith Teithio Llesol a gofynnwyd am eich barn.
Ystyriwyd eich adborth a hoffen ni i chi weld y fersiwn ddiweddaraf o fap y rhwydwaith.
Ewch i fap y rhwydwaith ac ychwanegwch eich sylwadau yma erbyn hanner nos, nos Wener 25 Medi, 2026 fan bellaf.
Pam mae'n cael ei ddiweddaru?
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau cerdded, olwyno a beicio yn rheolaidd. Cymeradwywyd y map sydd gennym ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru yn 2022, a nawr mae'n amser adlewyrchu'r newidiadau a'r gwelliannau a wnaed dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y prif drefi, sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, sydd wedi'u dethol gan Lywodraeth Cymru fel y lleoliadau Teithio Llesol dynodedig yn y Sir.
Beth sy’n cael ei ddiweddaru?
Bydd y map newydd yn cynnwys:
- Y Llwybrau presennol: Mae’r rhain yn llwybrau sy’n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau troed, olwyno neu feicio (neu bob un o’r tri).
- Llwybrau’r dyfodol: Mae’r rhain yn llwybrau nad ydynt yn bodoli eto neu y mae angen i ni eu gwella, er mwyn bodloni’r safonau gofynnol.
Rydym angen eich adborth
Dyma'r ail gam o ymgysylltu â'r cyhoedd, ac mae eich mewnbwn yn hanfodol. Efallai eich bod chi’n cerdded, yn olwyno, yn beicio neu'n poeni am opsiynau teithio gwell yng Ngheredigion. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, rydyn ni eisiau derbyn eich syniadau chi am sut i wella'r rhwydwaith.
Gwybodaeth ychwanegol:
Nid yw cynnwys Llwybrau’r Dyfodol ar ein Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol yn gwarantu y byddant yn cael eu hadeiladu yn y dyfodol. Mae llawer o’r Llwybrau Dyfodol hyn yn uchelgeisiol a bydd angen gwaith datblygu cynlluniau helaeth (er enghraifft: arolygon tir, arolygon ecoleg / amgylcheddol, arolygon draenio, ceisiadau cynllunio ar gyfer newid defnydd tir (lle bo'n berthnasol) a thrafodaethau ynghylch tir posibl ac ati) cyn y gellir ystyried bod llwybr yn hyfyw i'w adeiladu ac yna ceisio dod o hyd i'r cyllid angenrheidiol. Mae'r rhan fwyaf o Lwybrau’r Dyfodol fel arfer yn cymryd nifer o flynyddoedd i fodloni'r holl brosesau hyn cyn iddynt gael eu hadeiladu.
Mae rhai Llwybrau’r Dyfodol wedi'u cynnwys lle mae’n bosib y bydd datblygiadau tai newydd yn cael eu cynllunio a chyfrifoldeb y datblygwr fydd gosod darpariaeth newydd o ran teithio llesol yn y lleoliadau hyn.
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Gefnffyrdd yng Nghymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy’n rheoli'r A487 a'r A44 yng Ngheredigion ar ran y Llywodraeth.
Sut i rannu eich barn
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o 3 Gorffennaf i hanner nos, nos Wener 25 Medi, 2026.
I weld ein map rhyngweithiol a chwblhau ein harolwg ar-lein, ewch i: Cerdded, olwyno a seiclo yn Ngheredigion – dweud eich dweud! | MapDataCymru
Lawrlwythwch gopi papur o'r cwestiynau: Arolwg Map Rhwydwaith Teithio Llesol Cam 2.
Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom i: clic@ceredigion.gov.uk
Am ragor o wybodaeth ynghylch Teithio Llesol yng Ngheredigion ewch i: Teithio Llesol - Cyngor Sir Ceredigion.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â clic@ceredigion.gov.uk (dyfynnwch 'Ymgynghoriad ATNM 2026 Cam 2' drwy e-bost) neu ffoniwch: 01545 570 881.
Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd yr ymatebion a’r adborth yn cael eu hadolygu ac wedyn bydd diwygiadau posibl i'r map yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 1 Rhagfyr 2026. Cyn gynted ag y bydd wedi’i gymeradwyo gan y Gweinidog, bydd Map o Rwydwaith Teithio Llesol Ceredigion wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi ar blatfform DataMapWales.