Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 31 Hydref 2026
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r awdurdod lleol gwblhau Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) fel dyletswydd statudol o dan Ddeddf Gofal Plant 2006.
Bydd hyn yn ein helpu i ddeall yn well sut mae rhieni/gofalwyr yn defnyddio gofal plant, y cyflenwad cyffredinol o ofal plant yn y sir ac unrhyw ffactorau sy'n debygol o effeithio ar y galw am ofal plant. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i greu cynllun gweithredu ar gyfer Uned Gofal Plant Ceredigion a chamau gweithredu ehangach y Cyngor ynghylch gofal plant.
Cynhelir Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant llawn, gan gynnwys ymgynghori â rhieni/gofalwyr, cyflogwyr, plant a phobl ifanc, darparwyr gofal plant a gweithwyr proffesiynol eraill, bob pum mlynedd. Cynhelir diweddariad ar yr asesiad, gan edrych ar gyflenwad a galw, bob blwyddyn.
Canllawiau Statudol Gofal Plant
Mae’r Canllawiau Statudol Gofal Plant yn egluro beth mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei wneud i gefnogi datblygiad darpariaeth gofal plant yn yr ardal leol er mwyn ei gwneud yn hyblyg, yn gynaliadwy ac yn ymatebol i anghenion y gymuned.
Gallwch hefyd ymweld â'n gwefan am ragor o wybodaeth: Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant - Cyngor Sir Ceredigion.
Sut i rannu eich barn
Arolwg Rhieni a Gofalwyr ar-lein - Cliciwch yma.
Lawrlwythwch arolwg papur Rhieni a Gofalwyr - Lawrlwythwch yma.
Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom ar csa@ceredigion.gov.uk neu clic@ceredigion.gov.uk.
Dychwelwch y copi papur i Uned Gofal Plant Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA. Neu, gallwch ei roi i mewn yn eich Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol a byddant yn ei anfon at yr Uned Gofal Plant.
Os byddai'n well gennych siarad â rhywun, neu os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â Clic Ceredigion ar 01545 570881 a gofynnwch am siarad ag aelod o'r Uned Gofal Plant neu anfonwch e-bost at csa@ceredigion.gov.uk.
Arolwg Cyflogwyr
Os ydych chi'n gyflogwr neu'n fusnes lleol, hoffem glywed eich barn ar sut mae materion gofal plant i rieni sy'n gweithio yn effeithio ar eich busnes.
Dyma’r linc i’r arolwg - Arolwg Cyflogwyr.
Arolwg Rhanddeiliaid
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori ag asiantaethau a rhanddeiliaid allweddol ledled Ceredigion ynghylch eu barn ar argaeledd darpariaeth gofal plant. Os nad ydych wedi derbyn arolwg yn uniongyrchol gennym ni, anfonwch e-bost atom ar csa@ceredigion.gov.uk i ofyn am ddolen i'r arolwg.
Rydyn ni wedi gwneud y poster hwn i helpu i gyfleu'r neges.
Os hoffech chi helpu, gofynnwch i ni am gopi neu argraffwch y poster hwn a'i arddangos yn eich ardal leol. Diolch.
Gallwch lawrlwytho copi yma: Poster.

Hysbysiad Preifatrwydd
Caiff y wybodaeth a roddwch ei phrosesu gan Gyngor Sir Ceredigion, yn unol â gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data.
Am ragor o wybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor ar ein gwefan: Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau Awdurdodau Lleol - Cyngor Sir Ceredigion.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
- Byddwn yn dadansoddi eich ymatebion.
- Byddwn yn paratoi Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant drafft i adlewyrchu'r ymatebion a dderbyniwn.
- Byddwn yn cyflwyno'r Asesiad drafft i'r Cabinet ym mis Chwefror 2027, ac yna byddwn yn cyhoeddi'r assesiad drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
- Bydd unrhyw adborth yn cael ei gynnwys cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Mehefin 2027.
- Bydd yr adroddiad terfynol ar gael ar wefan y Cyngor Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant - Cyngor Sir Ceredigion.