Rheolau a chanllawiau ar wahardd symud 6 ac 20 diwrnod ac eithriadau

Defaid / geifr / gwartheg

Bydd bob rhan o eiddo, gan gynnwys y rheiny o dan yr un rheolaeth a'r rheiny sy'n gynwysedig yn yr Awdurdod Meddiannaeth Unigol yn glwm wrth y rheol gwahardd symud am 6 niwrnod os derbynnir anifail i mewn iddynt oni bai bod eithriad penodol yn bodoli. Bydd y cyfnod gwahardd symud am 6 diwrnod yn dechrau gyda diwrnod 1 sef y diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd. Felly os bydd anifail yn cyrraedd ar ddydd Llun, diwrnod 1 fydd dydd Mawrth a diwrnod 6 fydd dydd Sul. Byddwch yn rhydd i symud anifeiliaid ar ôl y 6ed diwrnod, ac yn yr achos yma, mi fyddai hynny ar ddydd Llun.

Moch

Bydd symud mochyn i mewn i'r eiddo yn gweithredu rheol gwahardd symud 20 diwrnod ar unrhyw fochyn a rheol gwahardd symud 6 niwrnod ar ddefaid, gwartheg neu eifr ar yr eiddo hwnnw. Bydd symud gwartheg, defaid neu eifr i eiddo lle cedwir un neu fwy o foch yn gweithredu rheol gwahardd symud 6 niwrnod ar y moch hynny.

Eithriadau

Symud i'r lladd-dy

Gall anifeiliaid symud oddi ar eiddo yn uniongyrchol i'r lladd-dy, canolfan gasglu, canolfan gasglu benodol i'r lladd-dy neu farchnad gigydda benodol os caiff da byw eu symud i'r eiddo o fewn y 6 niwrnod blaenorol ai peidio ( neu 20 niwrnod ar gyfer unrhyw fochyn ar ddaliad lle y mae moch eraill wedi symud i mewn iddo). Ni all unrhyw anifail ddod nôl o farchnad gigydda benodol neu ganolfan gasglu i'r lladd-dy i'r daliad lle y daeth ohono, nac ychwaith symud i unrhyw le arall oni bai am y lladd-dy. Wrth ymdrin â 'marchnadoedd lladd penodol' rhaid i chi wirio 'statws' y farchnad os hoffech chi fanteisio ar yr eithriad yma. Ni allwch chi symud anifeiliaid i'w lladd i storfa 'cymysg' a marchnad da byw i'r lladd-dy os byddwch chi'n glwm wrth y rheol 6 niwrnod oherwydd presenoldeb 'anifeiliaid stôr' yn y farchnad.