​Dogfennau a Chyfarwyddyd Symud Defaid, Geifr, Moch, Ceirw a Gwartheg

Trwyddedau Symud Anifeiliaid (AML's)

Bydd hawl gan dda byw symud o dan Drwydded Gyffredinol. Bydd yn rhaid i bob symudiad feddu ar y dogfennau perthnasol hynny yw

  • Defaid - AML1
  • Moch - eAML2/BPEX NEU tan 31 Mawrth 2012 AML2
  • Ceirw - AML24
  • Gwartheg - Pasbort

Bydd yn rhaid i bob symudiad defaid, moch, ceirw a geifr feddu ar ddogfen AML ar wahân ar gyfer pob symudiad, a dylai Safle Pen y Daith ddychwelyd y ffurflen i'r Awdurdod Lleol o fewn 3 diwrnod i'r symud cymryd lle.

Bydd angen i'r Awdurdod Lleol (lle lleolir eiddo pen y daith), y gyrchfan, y sawl sy'n cludo a'r man lle y bydd y da byw yn dod ohono feddu ar gopi o'r ddogfen symud AML.

Noder nid yw'r dogfennau yma'n garbonedig ac mi ddylech chi felly lanw 3 copi (1 ar gyfer yr eiddo maent yn gadael, 1 ar gyfer y sawl sy'n cludo ac 1 arall ar gyfer y daliad cyrchu, yn ogystal ag anfon copi at yr Awdurdod Lleol lle bydd yr anifeiliaid yn mynd iddo.

Mae'r dogfennau AML yn ddogfennau a garboneiddiwyd a dylid dosbarthu'r copïau fel a ganlyn:

  • Gwyn - Awdurdod Lleol pen y daith (MLCSL yng nghyswllt Trwyddedau Symud Anifeiliaid ar gyfer Moch)
  • Pinc - Eiddo cyrchu (i'w gadw am 3 blynedd)
  • Melyn - Eiddo Daliad cychwyn y daith

Os hoffech chi gael y dogfennau carbon a chopïau, mae croeso ichi gysylltu â ni gyda'r manylion yn y tab Cyswllt.

Cofnodi Symudiadau Moch

Daeth deddfwriaeth newydd i rym ar 1 Hydref 2011 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod ceidwaid yn rhoi rhagrybudd o symudiadau moch yn electronig, a hynny drwy ddefnyddio system Gweithrediaeth Moch Prydain (BPEX) / Meat & Livestock Commercial Services Ltd.  Gall ceidwaid sydd heb gyswllt â'r rhyngrwyd ddefnyddio gwasanaeth dros y ffôn.

Bydd ceidwaid yn dal yn medru defnyddio ffurflenni AML2 i gofnodi symudiadau tan 31 Mawrth 2012, ond ni fyddant yn ddilys ar ôl hynny. Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y Canllawiau i Geidwaid Moch ar ochr dde'r dudalen.

Wrth ddefnyddio ffurflenni AML2 mae'n rhaid i'r safle pen y daith anfon copi at MLCSL, Stoneleigh Park, Kenilworth, Warwickshire, CV8 2TL, gan nad yw'r Awdurdodau Lleol yn ymdrin â'r dogfennau hyn mwyach.

I gofrestru neu i weld mwy o wybodaeth am y system eAML2/BPEX cliciwch ar y linc canlynol:

Trwyddedu Symudiadau Electronig - eAML2

Cofnodi Symudiadau Gwartheg

Bydd yn rhaid i BCMS dderbyn hysbysiadau o holl symudiadau gwartheg o fewn 3 diwrnod ohonynt yn cael eu symud. Bydd CTS ar lein yn cynorthwyo ceidwaid gwartheg i gyflawni'r gofynion yma. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Tîm Cyswllt Fferm yn ein swyddfa Ranbarthol ar 01267 245400.

Pan fyddwch chi'n ein hysbysu o farwolaeth anifail bydd yn rhaid i BCMS dderbyn y pasbort o fewn 7 niwrnod o'i farwolaeth. Gwneir hyn drwy lanw cefn y pasbort a'i ddychwelyd i BCMS.