Gwybodaeth am Archwiliadau Ffermydd

Mae gennym raglen o ymweliadau fferm a gynlluniwyd ymlaen llaw. Yn ystod yr archwiliadau yma byddwn yn gwirio'r cofnodion da byw am y canlynol:

  • Rheoli clefydau ac olrhain
  • Symudiadau Fferm
  • Cludiant
  • Cofnodion magu, geni, marwolaethau a phasbortau gwartheg
  • Defnydd o feddyginiaethau. Trwyddedau Symud Anifeiliaid caiff eu cadw a sicrhau defnydd cywir ohonynt. Manylion o sgil-gynhyrchion anifeiliaid (carcasau)

Byddwn yn ceisio sicrhau'r safonau uchaf posib o reoli clefydau a lles anifeiliaid drwy:

  • Archwilio da byw am arwyddion o glefydau
  • Sicrhau y bydd anifeiliaid sâl neu'r rheiny sydd wedi eu niweidio yn derbyn gofal yn gyflym
  • Gwirio fod gan dda byw mynediad i fwyd a dŵr digonol. Archwilio adeiladau er mwyn sicrhau
  • bod golau, gofod ac awyriad yr adeilad yn unol â'r safonau sy'n ddisgwyliedig
  • Cynghori ar Godau Arfer Dda ar gyfer Lles da byw
  • Bio-ddiogelwch

Byddwn yn edrych am olrhain hanes creadur sy'n hanfodol ar gyfer rheoli clefydau hysbysadwy - BSE, twbercwlosis gwartheg a Chlwy'r Traed a'r Genau ayb. Y brif ffordd o adnabod anifeiliaid yw defnyddio tagiau clust. Bydd angen gwneud cais am y rhain ar ôl cyfnodau amser penodol ar gyfer gwartheg a defaid a chyn symud da byw eraill. Bydd adnabod anifail yn hanfodol ar gyfer cig fydd yn rhan o'r gadwyn fwyd fel y gellir olrhain ei darddiad. Mae hefyd rheolau llym mewn lle ar gyfer darparu tagiau yn lle tagiau a gollwyd neu sy'n annarllenadwy.

Rydym hefyd yn rhoi cyngor ar fioddiogelwch, sef pa mor lân yw'r fferm ei hun, yr adeiladau a chyfarpar gan gynnwys cerbydau a chyfleusterau ynysu. Drwy ddilyn y gyfraith ac arferion da, gellir lleihau lledaenu clefydau.

Gwybodaeth ar gynnal Archwiliadau Marchnadoedd Amaethyddol

Rydym yn mynd i farchnadoedd da byw yng Ngheredigion er mwyn sicrhau y cedwir at y safonau lles uchaf posib ar gyfer yr anifeiliaid pan fyddant yn y farchnad.

  • Bydd bioddiogelwch yn hanfodol mewn marchnadoedd er mwyn lleihau perygl lledu clefydau
  • Byddwn yn sicrhau bod y cerbydau sy'n cludo anifeiliaid yn cael eu glanhau a'u diheintio yn y farchnad neu phan fyddant yn dychwelyd i'r fferm
  • Rydym hefyd yn sicrhau y bu'r yr anifeiliaid yn ffit i'w cludo ac yn parhau i fod yn ffit i'w cludo
  • Byddwn hefyd yn sicrhau bod y dogfennau symud yn gywir gan roi trwydded i foch fedru symud o'r farchnad
  • Byddwn hefyd yn sicrhau bod anifeiliaid yn meddu ar dagiau / dogfennau adnabod priodol

Gwybodaeth am Archwilio Lladd-dai

Rydym yn archwilio da byw'n rheolaidd mewn lladd-dai gan gyd-weithio gyda'r milfeddyg swyddogol er mwyn sicrhau'r safonau uchaf posib o les anifeiliaid.

Byddwn yn edrych ar yr anifeiliaid fydd yn cyrraedd er mwyn sicrhau eu bod yn iach i'w cludo a heb ddioddef yn ddianghenraid wrth gael eu cludo. Byddwn hefyd yn sicrhau bod eu dogfennau adnabod yn gywir. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn medru olrhain yr anifeiliaid fydd yn rhan o'r gadwyn fwyd.

Bydd angen Gwybodaeth y Gadwyn Fwyd ar bob un o'r gwartheg, geifr, defaid a moch caiff eu cludo i'r lladd-dy. Gallwch gael ffurflenni gwybodaeth a chyfarwyddyd pellach ar ffurflenni Gwybodaeth y Gadwyn Fwyd o'r tudalen Gwybodaeth ar y Gadwyn Fwyd gan clicio ar y linc fan hyn.

Gwybodaeth am gynnal archwiliadau yn ystod Sioeau Amaethyddol

Byddwn yn mynd i sioeau amaethyddol yng Ngheredigion er mwyn ceisio sicrhau y cedwir at y safonau lles uchaf posib ar gyfer anifeiliaid tra byddant yn y Sioe.

  • Bydd bioddiogelwch yn hanfodol mewn sioeau er mwyn lleihau'r risg o ledu heintiau
  • Byddwn yn sicrhau bod cerbydau sy'n cludo anifeiliaid i'r sioe ac oddi yno yn cael eu glanhau'n briodol
  • Byddwn hefyd yn sicrhau y bu'r anifeiliaid, a'u bod yn parhau i fod yn ffit i'w cludo
  • Byddwn hefyd yn sicrhau bod y dogfennau symud yn gywir ac wedi eu llanw'n llawn
  • Byddwn yn sicrhau hefyd fod anifeiliaid yn medru cael eu hadnabod yn gywir

Gwybodaeth am archwilio cerbydau yn ystod cludo anifeiliaid

Bydd ar y cyd â'r heddlu yn cynnal archwiliadau ochr y ffordd ar unrhyw gerbyd a ddefnyddir ar gyfer cludo anifeiliaid. Bydd hyn hefyd yn cynnwys trelars a cherbydau/ loriau ceffylau.

Caiff y cerbydau eu gwirio er sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn addas ar gyfer cludo anifeiliaid. Archwilir cyflwr yr anifail a'r dogfennau perthnasol yn ogystal â manylion amser y siwrnai mewn modd manwl iawn fel y disgrifiwyd yn flaenorol.

Gallwch gael ffurflenni ar gyfer gwneud cais am Awdurdodi Cludwyr a nodiadau cyfarwyddyd ar wefan Defra gan clicio ar y linc canlynol fan hyn.

Ymdrinnir â chwynion yn ymwneud â lles fel mater o frys ac ymdrinnir â hwy yn gyflym ac yn effeithiol.

Os bydd gennych unrhyw gwynion yn ymwneud â lles gwartheg, defaid, geifr, moch neu dofednod cysylltwch â ni fel a ganlyn:

Ebost: animalhealth@ceredigion.gov.uk
Ffon: 01545 572275
Facs: 01545 572270
Cyfeiriad: Adain Iechyd Anifeiliaid
Neuadd Cyngor Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0PA