Gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer ceidwaid da byw newydd

Rhif y Daliad (CPH)

Er mwyn medru cadw da byw (defaid/geifr/gwartheg/moch/ceirw) bydd angen Rhif Daliad arnoch o'r Sir rydych chi'n byw ynddi. Er mwyn gwneud cais am rif daliad ffoniwch Llywodraeth Cymruar 0300 062 5004.

Yn ogystal â meddu ar rif daliad bydd yn ofynnol i bob daliad â da byw gofrestru pob rhywogaeth a gedwir yno gyda Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion(APHA) ar 0300 303 8268.

Pan fyddwch chi'n cofrestru eich bod yn cadw rhywogaethau byddwch chi'n derbyn rhif y ddiadell ar gyfer defaid neu rif y fuches/cenfaint ar gyfer Geifr, Gwartheg a Moch. Mae nodau'r ddiadell/fuches ayb yn fodd cyflym ac effeithiol o adnabod yr eiddo lle mae'r rhywogaeth wedi symud oddi wrtho. Gellir olrhain anifeiliaid yn gyflym iawn drwy wneud hyn.

Cofnodion Ar y Fferm

Bydd yn rhaid cadw cofnodion ar y fferm ar gyfer pob un o'r rhywogaethau.

Defaid, Geifr a Moch

Bydd yn rhaid cofnodi unrhyw symud ar eich cofnodion symudiadau fferm o fewn 36 awr i'r symud. Bydd yn rhaid i'r cofnodion symudiadau fferm gynnwys y canlynol:

  • Dyddiad y symud
  • Cyfanswm nifer yr anifeiliaid a symudwyd
  • Nodau Adnabod (gan gynnwys nod dros dro os cânt eu symud i'r lladd-dy, rhifau unigol os cânt eu symud i sioe, canolfan gasglu neu os taw hwrdd bydd yr anifail caiff ei symud.)
  • Enw'r cludwr a rhif cofrestru'r cerbyd
  • CPH o'r eiddo cychwyn y daith
  • CPH o'r eiddo pen y daith
  • Rhif gwerthu os caiff ei symud o farchnad

Gwartheg

Mae hefyd yn ofyniad i gadw cofnodion symudiadau fferm ar gyfer gwartheg. Rhaid cwblhau'r gofrestr o fewn yr amserau canlynol:

  • 36 awr ar gyfer symudiadau i'r daliad ac oddi ar y daliad
  • 7 diwrnod o enedigaeth anifail godro
  • 30 diwrnod o enedigaeth gwartheg nad ydynt mewn buches odro
  • 7 diwrnod ar ôl marwolaeth
  • 36 awr o osod tagiau clust newydd

Bydd yn rhaid i symudiadau gwartheg feddu ar basbort dilys gan hysbysu BCMS drwy CTS ar lein neu drwy ddefnyddio'r cardiau post am ddim y tu ôl i'r pasbort.

Cofnodion meddyginiaeth

Bydd yn ofynnol i unrhyw berson sydd mewn unrhyw ffordd yn rhan o fusnes sy'n magu neu gynhyrchu anifeiliaid gadw cofnod o fanylion sy'n ymwneud ag unrhyw feddyginiaeth filfeddygol a roddir i unrhyw anifail. Bydd angen cofnodi'r wybodaeth ganlynol.

  • Dyddiad prynu'r feddyginiaeth filfeddygol
  • Enw'r feddyginiaeth filfeddygol a'r nifer a brynwyd
  • Y sawl wnaeth ddarparu'r feddyginiaeth filfeddygol
  • Pa anifail / grŵp gafodd eu trin
  • Nifer cafodd eu trin
  • Dyddiad gorffen y driniaeth
  • Dyddiad pan fu i'r cyfnod cadw nôl o'r gadwyn fwyd ddod i ben
  • Cyfanswm y feddyginiaeth filfeddygol a ddefnyddiwyd
  • Enw'r sawl wnaeth roi'r feddyginiaeth filfeddygol

Ar gyfer enghraifft o Daflen Cofnodion Meddygol cliciwch ar y ddogfen canlynol:

Taflen Cofnodion Meddygol